bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Joshua 19
Joshua 19
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 18
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 20 →
1
A'r ail goelbren a aeth allan i Simeon, dros lwyth meibion Simeon, yn ôl eu teuluoedd: a'u hetifeddiaeth hwynt oedd o fewn etifeddiaeth meibion Jwda.
2
Ac yr oedd ganddynt hwy, yn eu hetifeddiaeth, Beer‐seba, a Seba, a Molada,
3
A Hasar‐sual, a Bala, ac Asem,
4
Ac Eltolad, a Bethul, a Horma,
5
A Siclag, a Beth‐marcaboth, a Hasar‐susa,
6
A Beth‐lebaoth, a Saruhen; tair dinas ar ddeg, a'u pentrefydd:
7
Ain, Rimmon, ac Ether, ac Asan; pedair o ddinasoedd, a'u pentrefydd:
8
A'r holl bentrefydd y rhai oedd o amgylch y dinasoedd hyn, hyd Baalath‐beer, Ramath o'r deau. Dyma etifeddiaeth llwyth meibion Simeon, yn ôl eu teuluoedd.
9
O randir meibion Jwda yr oedd etifeddiaeth meibion Simeon: canys rhan meibion Jwda oedd ormod iddynt; am hynny meibion Simeon a gawsant eu hetifeddiaeth o fewn eu hetifeddiaeth hwynt.
10
A'r trydydd coelbren a ddaeth i fyny dros feibion Sabulon, yn ôl eu teuluoedd: a therfyn eu hetifeddiaeth hwynt oedd hyd Sarid.
11
A'u terfyn hwynt sydd yn myned i fyny tua'r môr, a Marala, ac yn cyrhaeddyd i Dabbaseth; ac yn cyrhaeddyd i'r afon sydd ar gyfer Jocneam;
12
Ac yn troi o Sarid, o du y dwyrain tua chyfodiad haul, hyd derfyn Cisloth‐Tabor; ac yn myned i Daberath, ac yn esgyn i Jaffia;
13
Ac yn myned oddi yno ymlaen tua'r dwyrain, i Gittah‐Heffer, i Ittah‐Casin; ac yn myned allan i Rimmon‐Methoar, i Nea.
14
A'r terfyn sydd yn amgylchu o du y gogledd i Hannathon; a'i ddiweddiad yng nglyn Jifftahel.
15
Cattath hefyd, a Nahalal, a Simron, ac Idala, a Bethlehem: deuddeg o ddinasoedd, a'u pentrefydd.
16
Dyma etifeddiaeth meibion Sabulon, yn ôl eu teuluoedd; y dinasoedd yma, a'u pentrefydd.
17
Y pedwerydd coelbren a ddaeth allan dros Issachar; dros feibion Issachar, yn ôl eu teuluoedd.
18
A'u terfyn hwynt oedd tua Jesreel, a Chesuloth, a Sunem.
19
A Haffraim, a Sihon, ac Anaharath.
20
A Rabbith, a Cision, ac Abes,
21
A Remeth, ac En‐gannim, ac Enhada, a Beth‐passes.
22
A'r terfyn sydd yn cyrhaeddyd i Tabor, a Sahasima, a Beth‐semes; a'u cyrrau eithaf hwynt yw yr Iorddonen: un ddinas ar bymtheg, a'u pentrefydd.
23
Dyma etifeddiaeth llwyth meibion Issachar, yn ôl eu teuluoedd; y dinasoedd, a'u pentrefydd.
24
A'r pumed coelbren a ddaeth allan dros lwyth meibion Aser, yn ôl eu teuluoedd.
25
A'u terfyn hwynt oedd, Helcath, a Hali, a Beten, ac Achsaff,
26
Ac Alammelech, ac Amad, a Misal; ac yn cyrhaeddyd i Carmel tua'r gorllewin, ac i Sihor‐Libnath:
27
Ac yn troi tua chyfodiad haul i Beth‐dagon, ac yn cyrhaeddyd i Sabulon, ac i ddyffryn Jifftahel, tua'r gogledd i Beth‐Emec, ac i Neiel, ac yn myned ar y llaw aswy i Cabul;
28
A Hebron, a Rehob, a Hammon, a Cana, hyd Sidon fawr.
29
A'r terfyn sydd yn troi i Rama, ac hyd Sor, y ddinas gadarn: a'r terfyn sydd yn troi i Hosa; a'i gyrrau eithaf sydd wrth y môr, o randir Achsib.
30
Umma hefyd, ac Affec, a Rehob: dwy ddinas ar hugain, a'u pentrefydd.
31
Dyma etifeddiaeth llwyth meibion Aser, yn ôl eu teuluoedd; y dinasoedd hyn a'u pentrefydd.
32
Y chweched coelbren a ddaeth allan i feibion Nafftali, dros feibion Nafftali, yn ôl eu teuluoedd.
33
A'u terfyn hwy oedd o Heleff, o Alon i Saanannim, ac Adami, Neceb, a Jabneel hyd Lacum: a'i gyrrau eithaf oedd wrth yr Iorddonen.
34
A'r terfyn sydd yn troi tua'r gorllewin i Asnoth‐Tabor, ac yn myned oddi yno i Huccoc; ac yn cyrhaeddyd i Sabulon o du y deau, ac yn cyrhaeddyd i Aser o du y gorllewin, ac i Jwda a'r Iorddonen tua chyfodiad haul.
35
A'r dinasoedd caerog, Sidim, Ser, a Hammath, Raccath, a Chinnereth,
36
Ac Adama, a Rama, a Hasor,
37
A Cedes, ac Edrei, ac En‐hasor,
38
Ac Iron, a Migdal‐el, Horem, a Beth‐anath, a Beth‐semes: pedair dinas ar bymtheg, a'u pentrefydd.
39
Dyma etifeddiaeth llwyth meibion Nafftali, yn ôl eu teuluoedd; y dinasoedd, a'u pentrefydd.
40
Y seithfed coelbren a ddaeth allan dros lwyth meibion Dan, yn ôl eu teuluoedd.
41
A therfyn eu hetifeddiaeth hwynt oedd Sora, ac Estaol, ac Ir‐Semes,
42
A Saalabbin, ac Ajalon, ac Ithla,
43
Ac Elon, a Thimnatha, ac Ecron,
44
Ac Eltece, a Gibbethon, a Baalath,
45
A Jehud, a Bene‐berac, a Gath‐rimmon,
46
A Meiarcon, a Raccon, gyda'r terfyn ar gyfer Jaffo.
47
A therfyn meibion Dan a aeth yn rhy fychan iddynt: am hynny meibion Dan a aethant i fyny i ymladd yn erbyn Lesem, ac a'i henillasant hi; trawsant hefyd hi â min y cleddyf, a meddianasant hi, a thrigasant ynddi: a galwasant Lesem yn Dan, yn ôl enw Dan eu tad.
48
Dyma etifeddiaeth llwyth meibion Dan, yn ôl eu teuluoedd; y dinasoedd hyn, a'u pentrefydd.
49
Pan orffenasant rannu'r wlad yn etifeddiaethau yn ôl ei therfynau, meibion Israel a roddasant etifeddiaeth i Josua mab Nun yn eu mysg:
50
Wrth orchymyn yr ARGLWYDD y rhoddasant iddo ef y ddinas a ofynnodd efe; sef Timnath‐Sera, ym mynydd Effraim: ac efe a adeiladodd y ddinas, ac a drigodd ynddi.
51
Dyma yr etifeddiaethau a roddodd Eleasar yr offeiriad, a Josua mab Nun, a phennau tadau llwythau meibion Israel, yn etifeddiaeth, wrth goelbren, yn Seilo, o flaen yr ARGLWYDD, wrth ddrws pabell y cyfarfod. Felly y gorffenasant rannu'r wlad.
← Chapter 18
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 20 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24