bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Joshua 6
Joshua 6
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 5
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 7 →
1
A Jericho oedd gaeëdig a gwarchaeëdig, oherwydd meibion Israel: nid oedd neb yn myned allan, nac yn dyfod i mewn.
2
A'r ARGLWYDD a ddywedodd wrth Josua, Gwêl, rhoddais yn dy law di Jericho a'i brenin, gwŷr grymus o nerth.
3
A chwi a amgylchwch y ddinas, chwi ryfelwyr oll, gan fyned o amgylch y ddinas un waith: gwnewch felly chwe diwrnod.
4
A dyged saith o offeiriaid saith o utgyrn o gyrn hyrddod o flaen yr arch: a'r seithfed dydd yr amgylchwch y ddinas saith waith; a lleisied yr offeiriaid â'r utgyrn.
5
A phan ganer yn hirllaes â chorn yr hwrdd, a phan glywoch sain yr utgorn, bloeddied yr holl bobl â bloedd uchel: a syrth mur y ddinas dani hi, ac eled y bobl i fyny bawb ar ei gyfer.
6
A Josua mab Nun a alwodd yr offeiriaid, ac a ddywedodd wrthynt, Codwch arch y cyfamod, a dyged saith o offeiriaid saith o utgyrn o gyrn hyrddod o flaen arch yr ARGLWYDD.
7
Ac efe a ddywedodd wrth y bobl, Cerddwch, ac amgylchwch y ddinas; a'r hwn sydd arfog, eled o flaen arch yr ARGLWYDD.
8
A phan ddywedodd Josua wrth y bobl, yna y saith offeiriad, y rhai oedd yn dwyn y saith utgorn o gyrn hyrddod, a gerddasant o flaen yr ARGLWYDD, ac a leisiasant â'r utgyrn: ac arch cyfamod yr ARGLWYDD oedd yn myned ar eu hôl hwynt.
9
A'r rhai arfog oedd yn myned o flaen yr offeiriaid oedd yn lleisio â'r utgyrn; a'r fyddin olaf oedd yn myned ar ôl yr arch, a'r offeiriaid yn myned rhagddynt, ac yn lleisio â'r utgyrn.
10
A Josua a orchmynasai i'r bobl, gan ddywedyd, Na floeddiwch, ac na edwch glywed eich llais, ac nac eled gair allan o'ch genau, hyd y dydd y dywedwyf wrthych, Bloeddiwch; yna y bloeddiwch.
11
Felly arch yr ARGLWYDD a amgylchodd y ddinas, gan fyned o'i hamgylch un waith: a daethant i'r gwersyll, a lletyasant yn y gwersyll.
12
A Josua a gyfododd yn fore; a'r offeiriaid a ddygasant arch yr ARGLWYDD.
13
A'r saith offeiriad, yn dwyn saith o utgyrn o gyrn hyrddod o flaen arch yr ARGLWYDD, oeddynt yn myned dan gerdded, ac yn lleisio â'r utgyrn: a'r rhai arfog oedd yn myned o'u blaen hwynt: a'r fyddin olaf oedd yn myned ar ôl arch yr ARGLWYDD, a'r offeiriaid yn myned rhagddynt, ac yn lleisio â'r utgyrn.
14
Felly yr amgylchynasant y ddinas un waith yr ail ddydd; a dychwelasant i'r gwersyll: fel hyn y gwnaethant chwe diwrnod.
15
Ac ar y seithfed dydd y cyfodasant yn fore ar godiad y wawr, ac yr amgylchasant y ddinas y modd hwnnw, saith waith: yn unig y dwthwn hwnnw yr amgylchasant y ddinas seithwaith.
16
A phan leisiodd yr offeiriaid yn eu hutgyrn y seithfed waith, yna Josua a ddywedodd wrth y bobl, Bloeddiwch; canys rhoddodd yr ARGLWYDD y ddinas i chwi.
17
A'r ddinas fydd yn ddiofryd‐beth, hi, a'r hyn oll sydd ynddi, i'r ARGLWYDD: yn unig Rahab y buteinwraig fydd byw, hi a chwbl ag sydd gyda hi yn tŷ; canys hi a guddiodd y cenhadau a anfonasom ni.
18
Ac ymgedwch chwithau oddi wrth y diofryd‐beth, rhag eich gwneuthur eich hun yn ddiofryd‐beth, os cymerwch o'r diofryd‐beth; felly y gwnaech wersyll Israel yn ddiofryd‐beth, ac y trallodech hi.
19
Ond yr holl arian a'r aur, a'r llestri pres a haearn, fyddant gysegredig i'r ARGLWYDD: deled y rhai hynny i mewn i drysor yr ARGLWYDD.
20
A bloeddiodd y bobl, pan leisiasant â'r utgyrn. A phan glybu y bobl lais yr utgyrn, yna y bobl a waeddasant â bloedd uchel; a'r mur a syrthiodd i lawr oddi tanodd. Felly y bobl a aethant i fyny i'r ddinas, pob un ar ei gyfer, ac a enillasant y ddinas.
21
A hwy a ddifrodasant yr hyn oll oedd yn y ddinas, yn ŵr ac yn wraig, yn fachgen ac yn hynafgwr, yn eidion, ac yn ddafad, ac yn asyn, â min y cleddyf.
22
A Josua a ddywedodd wrth y ddau ŵr a fuasai yn edrych ansawdd y wlad, Ewch i dŷ y buteinwraig, a dygwch allan oddi yno y wraig, a'r hyn oll sydd iddi, fel y tyngasoch wrthi.
23
Felly y llanciau a fuasai yn edrych ansawdd y wlad, a aethant i mewn, ac a ddygasant allan Rahab, a'i thad, a'i mam, a'i brodyr, a chwbl a'r a feddai hi: dygasant allan hefyd ei holl dylwyth hi, a gosodasant hwynt o'r tu allan i wersyll Israel.
24
A llosgasant y ddinas â thân, a'r hyn oll oedd ynddi: yn unig yr arian a'r aur, a'r llestri pres a haearn, a roddasant hwy yn nhrysor yr ARGLWYDD.
25
A Josua a gadwodd yn fyw Rahab y buteinwraig, a thylwyth ei thad, a'r hyn oll oedd ganddi; a hi a drigodd ymysg Israel hyd y dydd hwn: am iddi guddio'r cenhadau a anfonasai Josua i chwilio Jericho.
26
A Josua a'u tynghedodd hwy y pryd hwnnw, gan ddywedyd, Melltigedig gerbron yr ARGLWYDD fyddo y gŵr a gyfyd ac a adeilado y ddinas hon Jericho: yn ei gyntaf‐anedig y seilia efe hi, ac yn ei fab ieuangaf y gesyd efe ei phyrth hi.
27
Felly yr ARGLWYDD oedd gyda Josua; ac aeth ei glod ef trwy'r holl wlad.
← Chapter 5
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 7 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
Recommended Reading
Commentary
Joshua Commentaries
→
Devotional
Joshua Devotional Guide
→
Get This Bible
Welsh (Beibl William Morgan - Argraffiad ) Study Bible
→