bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Joshua 7
Joshua 7
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 6
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 8 →
1
Ond meibion Israel a wnaethant gamwedd am y diofryd‐beth: canys Achan mab Carmi, mab Sabdi, mab Sera, o lwyth Jwda, a gymerodd o'r diofryd‐beth: ac enynnodd dicllonedd yr ARGLWYDD yn erbyn meibion Israel.
2
A Josua a anfonodd wŷr o Jericho i Ai, yr hon sydd wrth Bethafen, o du'r dwyrain i Bethel, ac a lefarodd wrthynt, gan ddywedyd, Ewch i fyny, ac edrychwch y wlad. A'r gwŷr a aethant i fyny, ac a edrychasant ansawdd Ai.
3
A hwy a ddychwelasant at Josua, ac a ddywedasant wrtho. Nac eled yr holl bobl i fyny; ond ynghylch dwy fil o wŷr, neu dair mil o wŷr, a ânt i fyny, ac a drawant Ai: na phoenwch yr holl bobl yno; canys ychydig ydynt hwy.
4
Felly fe a aeth o'r bobl i fyny yno ynghylch tair mil o wŷr: a hwy a ffoesant o flaen gwŷr Ai.
5
A gwŷr Ai a drawsant ynghylch un gŵr ar bymtheg ar hugain ohonynt; ac a'u hymlidiasant o flaen y porth hyd Sebarim, a thrawsant hwynt yn y goriwaered: am hynny y toddodd calonnau y bobl, ac yr aethant fel dwfr.
6
A Josua a rwygodd ei ddillad, ac a syrthiodd i lawr ar ei wyneb o flaen arch yr ARGLWYDD, hyd yr hwyr, efe a henuriaid Israel, ac a ddodasant lwch ar eu pennau.
7
A dywedodd Josua, Ah, ah, O ARGLWYDD IOR, i ba beth y dygaist y bobl yma dros yr Iorddonen, i'n rhoddi ni yn llaw yr Amoriaid, i'n difetha? O na buasem fodlon, ac na thrigasem tu hwnt i'r Iorddonen!
8
O ARGLWYDD, beth a ddywedaf, pan dry Israel ei war o flaen ei elynion!
9
Canys y Canaaneaid, a holl drigolion y wlad, a glywant, ac a'n hamgylchynant, ac a dorrant ymaith ein henw oddi ar y ddaear: a pha beth a wnei i'th enw mawr?
10
A'r ARGLWYDD a ddywedodd wrth Josua, Cyfod; paham yr ydwyt yn gorwedd fel hyn ar dy wyneb?
11
Israel a bechodd, a throseddasant fy nghyfamod a orchmynnais iddynt: cymerasant hefyd o'r diofryd‐beth, lladratasant, a gwadasant; gosodasant hefyd hynny ymysg eu dodrefn eu hun.
12
Am hynny ni ddichon meibion Israel sefyll yn wyneb eu gelynion, eithr troant eu gwar o flaen eu gelynion; am eu bod yn ysgymunbeth: ni byddaf mwyach gyda chwi, oni ddifethwch yr ysgymunbeth o'ch mysg.
13
Cyfod, sancteiddia y bobl, a dywed, Ymsancteiddiwch erbyn yfory: canys fel hyn y dywed ARGLWYDD DDUW Israel; Diofryd‐beth sydd yn dy blith di, O Israel: ni elli sefyll yn wyneb dy elynion, nes tynnu ymaith y diofryd‐beth o'ch mysg.
14
Am hynny nesewch y bore wrth eich llwythau: a'r llwyth a ddalio yr ARGLWYDD, nesaed bob yn deulu; a'r teulu a ddalio yr ARGLWYDD, nesaed bob yn dŷ; a'r tŷ a ddalio yr ARGLWYDD, nesaed bob yn ŵr.
15
A'r hwn a ddelir a'r diofryd‐beth ganddo, a losgir â thân, efe ac oll sydd ganddo: oherwydd iddo droseddu cyfamod yr ARGLWYDD, ac oherwydd iddo wneuthur ynfydrwydd yn Israel.
16
Felly Josua a gyfododd yn fore, ac a ddug Israel wrth eu llwythau: a llwyth Jwda a ddaliwyd.
17
Ac efe a ddynesodd deulu Jwda; a daliwyd teulu y Sarhiaid: ac efe a ddynesodd deulu y Sarhiaid bob yn ŵr; a daliwyd Sabdi:
18
Ac efe a ddynesodd ei dyaid ef bob yn ŵr; a daliwyd Achan mab Carmi, mab Sabdi, mab Sera, o lwyth Jwda.
19
A Josua a ddywedodd wrth Achan, Fy mab, atolwg, dyro ogoniant i ARGLWYDD DDUW Israel, a chyffesa iddo; a mynega yn awr i mi beth a wnaethost: na chela oddi wrthyf.
20
Ac Achan a atebodd Josua, ac a ddywedodd, Yn wir myfi a bechais yn erbyn ARGLWYDD DDUW Israel; canys fel hyn ac fel hyn y gwneuthum.
21
Pan welais ymysg yr ysbail fantell Fabilonig deg, a dau can sicl o arian, ac un llafn aur o ddeg sicl a deugain ei bwys; yna y chwenychais hwynt, ac a'u cymerais: ac wele hwy yn guddiedig yn y ddaear yng nghanol fy mhabell, a'r arian danynt.
22
Yna Josua a anfonodd genhadau; a hwy a redasant i'r babell: ac wele hwynt yn guddiedig yn ei babell ef, a'r arian danynt.
23
Am hynny hwy a'u cymerasant o ganol y babell, ac a'u dygasant at Josua, ac at holl feibion Israel; ac a'u gosodasant hwy o flaen yr ARGLWYDD.
24
A Josua a gymerth Achan mab Sera, a'r arian, a'r fantell, a'r llafn aur, ei feibion hefyd, a'i ferched, a'i wartheg, a'i asynnod, ei ddefaid hefyd, a'i babell, a'r hyn oll a feddai efe: a holl Israel gydag ef a'u dygasant hwynt i ddyffryn Achor.
25
A Josua a ddywedodd, Am i ti ein blino ni, yr ARGLWYDD a'th flina dithau y dydd hwn. A holl Israel a'i llabyddiasant ef â meini, ac a'u llosgasant hwy â thân, wedi eu llabyddio â meini.
26
A chodasant arno ef garnedd fawr o gerrig hyd y dydd hwn. Felly y dychwelodd yr ARGLWYDD oddi wrth lid ei ddigofaint. Am hynny y gelwir enw y fan honno Dyffryn Achor, hyd y dydd hwn.
← Chapter 6
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 8 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
Recommended Reading
Commentary
Joshua Commentaries
→
Devotional
Joshua Devotional Guide
→
Get This Bible
Welsh (Beibl William Morgan - Argraffiad ) Study Bible
→