bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Joshua 23
Joshua 23
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 22
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 24 →
1
A Darfu, ar ôl dyddiau lawer, wedi i'r ARGLWYDD roddi llonyddwch i Israel gan eu holl elynion o amgylch, i Josua heneiddio a myned mewn dyddiau.
2
A Josua a alwodd am holl Israel, am eu henuriaid, ac am eu penaethiaid, ac am eu barnwyr, ac am eu swyddogion; ac a ddywedodd wrthynt, Myfi a heneiddiais ac a euthum yn oedrannus:
3
Chwithau hefyd a welsoch yr hyn oll a wnaeth yr ARGLWYDD eich DUW i'r holl genhedloedd hyn, er eich mwyn chwi: canys yr ARGLWYDD eich DUW yw yr hwn a ymladdodd drosoch.
4
Gwelwch, rhennais i chwi y cenhedloedd hyn a adawyd, yn etifeddiaeth i'ch llwythau chwi, o'r Iorddonen, a'r holl genhedloedd y rhai a dorrais i ymaith, hyd y môr mawr tua'r gorllewin.
5
A'r ARGLWYDD eich DUW a'u hymlid hwynt o'ch blaen chwi, ac a'u gyr hwynt ymaith allan o'ch gŵydd chwi; a chwi a feddiennwch eu gwlad hwynt, megis y dywedodd yr ARGLWYDD eich DUW wrthych.
6
Am hynny ymwrolwch yn lew, i gadw ac i wneuthur y cwbl sydd ysgrifenedig yn llyfr cyfraith Moses; fel na chilioch oddi wrthynt, tua'r llaw ddeau na thua'r llaw aswy;
7
Ac na chydymgyfeilloch â'r cenhedloedd yma, y rhai a adawyd gyda chwi; ac na chofioch enw eu duwiau hwynt, ac na thyngoch iddynt, na wasanaethoch hwynt chwaith, ac nac ymgrymoch iddynt:
8
Ond glynu wrth yr ARGLWYDD eich DUW, fel y gwnaethoch hyd y dydd hwn.
9
Canys yr ARGLWYDD a yrrodd allan o'ch blaen chwi genhedloedd mawrion a nerthol: ac amdanoch chwi, ni safodd neb yn eich wynebau chwi hyd y dydd hwn.
10
Un gŵr ohonoch a erlid fil: canys yr ARGLWYDD eich DUW yw yr hwn sydd yn ymladd drosoch, fel y llefarodd wrthych.
11
Ymgedwch gan hynny yn ddyfal ar eich eneidiau, ar i chwi garu yr ARGLWYDD eich DUW.
12
Canys, os gan ddychwelyd y dychwelwch, ac yr ymlynwch wrth weddill y cenhedloedd yma, y rhai a adawyd gyda chwi; os ymgyfathrechwch â hwynt, ac os ewch i mewn atynt hwy, a hwythau atoch chwithau:
13
Gan wybod gwybyddwch, na yrr yr ARGLWYDD eich DUW y cenhedloedd hyn mwyach allan o'ch blaen chwi; ond byddant i chwi yn fagl ac yn dramgwydd, ac yn ffrewyll yn eich ystlysau, ac yn ddrain yn eich llygaid, nes eich difa chwi allan o'r wlad dda yma yr hon a roddodd yr ARGLWYDD eich DUW i chwi.
14
Ac wele fi yn myned heddiw i ffordd yr holl ddaear: a chwi a wyddoch yn eich holl galonnau, ac yn eich holl eneidiau, na phallodd dim o'r holl bethau daionus a lefarodd yr ARGLWYDD eich DUW amdanoch chwi; hwy a ddaethant oll i chwi, ac ni phallodd dim ohonynt.
15
Ac fel y daeth i chwi bob peth daionus a addawodd yr ARGLWYDD eich DUW wrthych; felly y dwg yr ARGLWYDD arnoch chwi bob peth drygionus, nes eich difa chwi allan o'r wlad dda yma a roddodd yr ARGLWYDD eich DUW i chwi.
16
Pan droseddoch gyfamod yr ARGLWYDD eich DUW, a orchmynnodd efe i chwi, a myned a gwasanaethu duwiau dieithr, ac ymgrymu iddynt; yna y llidia digofaint yr ARGLWYDD yn eich erbyn chwi, ac y cyfrgollir chwi yn ebrwydd o'r wlad dda yma a roddodd efe i chwi.
← Chapter 22
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 24 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24