bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Joshua 10
Joshua 10
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 9
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 11 →
1
A Phan glybu Adonisedec brenin Jerwsalem i Josua ennill Ai, a'i difrodi hi, (fel y gwnaethai efe i Jericho ac i'w brenin, felly y gwnaethai efe i Ai ac i'w brenin,) a heddychu o drigolion Gibeon ag Israel, a'u bod yn eu mysg hwynt:
2
Yna yr ofnasant yn ddirfawr; oblegid dinas fawr oedd Gibeon, fel un o'r dinasoedd brenhinol; ac oherwydd ei bod yn fwy nag Ai; ei holl wŷr hefyd oedd gedyrn.
3
Am hynny Adonisedec brenin Jerwsalem a anfonodd at Hoham brenin Hebron, ac at Piram brenin Jarmuth, ac at Jaffia brenin Lachis, ac at Debir brenin Eglon, gan ddywedyd.
4
Deuwch i fyny ataf fi, a chynorthwywch fi, fel y trawom ni Gibeon: canys hi a heddychodd â Josua, ac â meibion Israel.
5
Am hynny pum brenin yr Amoriaid a ymgynullasant, ac a ddaethant i fyny, sef brenin Jerwsalem, brenin Hebron, brenin Jarmuth, brenin Lachis, a brenin Eglon, hwynt‐hwy a'u holl fyddinoedd, ac a wersyllasant wrth Gibeon, ac a ryfelasant yn ei herbyn hi.
6
A gwŷr Gibeon a anfonasant at Josua i'r gwersyll i Gilgal, gan ddywedyd, Na thyn ymaith dy ddwylo oddi wrth dy weision: tyred i fyny yn fuan atom ni, achub ni hefyd, a chynorthwya ni: canys holl frenhinoedd yr Amoriaid, y rhai sydd yn trigo yn y mynydd‐dir, a ymgynullasant i'n herbyn ni.
7
Felly Josua a esgynnodd o Gilgal, efe a'r holl bobl o ryfel gydag ef, a'r holl gedyrn nerthol.
8
A'r ARGLWYDD a ddywedodd wrth Josua, Nac ofna rhagddynt: canys yn dy law di y rhoddais hwynt; ni saif neb ohonynt yn dy wyneb di.
9
Josua gan hynny a ddaeth yn ddiatreg atynt hwy: canys ar hyd y nos yr aeth efe i fyny o Gilgal.
10
A'r ARGLWYDD a'u drylliodd hwynt o flaen Israel, ac a'u trawodd hwynt â lladdfa fawr yn Gibeon, ac a'u hymlidiodd hwynt ffordd yr eir i fyny i Beth‐horon, ac a'u trawodd hwynt hyd Aseca, ac hyd Macceda.
11
A phan oeddynt yn ffoi o flaen Israel, a hwy yng ngoriwaered Beth‐horon, yr ARGLWYDD a fwriodd arnynt hwy gerrig mawrion o'r nefoedd hyd Aseca; a buant feirw: amlach oedd y rhai a fu feirw gan y cerrig cenllysg, na'r rhai a laddodd meibion Israel â'r cleddyf.
12
Llefarodd Josua wrth yr ARGLWYDD y dydd y rhoddodd yr ARGLWYDD yr Amoriaid o flaen meibion Israel: ac efe a ddywedodd yng ngolwg Israel, O haul, aros yn Gibeon; a thithau, leuad, yn nyffryn Ajalon.
13
A'r haul a arhosodd, a'r lleuad a safodd, nes i'r genedl ddial ar eu gelynion. Onid yw hyn yn ysgrifenedig yn llyfr yr Uniawn? Felly yr haul a safodd yng nghanol y nefoedd, ac ni frysiodd i fachludo dros ddiwrnod cyfan.
14
Ac ni bu y fath ddiwrnod â hwnnw o'i flaen ef, nac ar ei ôl ef, fel y gwrandawai yr ARGLWYDD ar lef dyn: canys yr ARGLWYDD a ymladdodd dros Israel.
15
A Josua a ddychwelodd, a holl Israel gydag ef, i'r gwersyll i Gilgal.
16
Ond y pum brenin hynny a ffoesant, ac a ymguddiasant mewn ogof ym Macceda.
17
A mynegwyd i Josua, gan ddywedyd, Y pum brenin a gafwyd ynghudd mewn ogof ym Macceda.
18
A dywedodd Josua, Treiglwch feini mawrion ar enau yr ogof, a gosodwch wrthi wŷr i'w cadw hwynt:
19
Ac na sefwch chwi; erlidiwch ar ôl eich gelynion, a threwch y rhai olaf ohonynt; na adewch iddynt fyned i'w dinasoedd: canys yr ARGLWYDD eich DUW a'u rhoddodd hwynt yn eich llaw chwi.
20
A phan ddarfu i Josua a meibion Israel eu taro hwynt â lladdfa fawr iawn, nes eu difa; yna y gweddillion a adawsid ohonynt a aethant i'r dinasoedd caerog.
21
A'r holl bobl a ddychwelasant i'r gwersyll at Josua ym Macceda mewn heddwch, heb symud o neb ei dafod yn erbyn meibion Israel.
22
A Josua a ddywedodd, Agorwch enau yr ogof, a dygwch allan y pum brenin hynny ataf fi o'r ogof.
23
A hwy a wnaethant felly, ac a ddygasant allan y pum brenin ato ef o'r ogof; sef brenin Jerwsalem, brenin Hebron, brenin Jarmuth, brenin Lachis, a brenin Eglon.
24
A phan ddygasant hwy y brenhinoedd hynny at Josua, yna Josua a alwodd am holl wŷr Israel, ac a ddywedodd wrth dywysogion y rhyfelwyr, y rhai a aethai gydag ef, Nesewch, gosodwch eich traed ar yddfau y brenhinoedd hyn. A hwy a nesasant, ac a osodasant eu traed ar eu gyddfau hwynt.
25
A Josua a ddywedodd wrthynt, Nac ofnwch, ac nac arswydwch; eithr ymwrolwch, ac ymegnïwch: canys fel hyn y gwna yr ARGLWYDD i'ch holl elynion yr ydych chwi yn ymladd i'w herbyn.
26
Ac wedi hyn Josua a'u trawodd hwynt, ac a'u rhoddodd i farwolaeth, ac a'u crogodd hwynt ar bum pren: a buant ynghrog ar y prennau hyd yr hwyr.
27
Ac ym mhryd machludo haul, y gorchmynnodd Josua iddynt eu disgyn hwynt oddi ar y prennau, a'u bwrw hwynt i'r ogof yr ymguddiasant ynddi; a bwriasant gerrig mawrion yng ngenau yr ogof, y rhai sydd yno hyd gorff y dydd hwn.
28
Josua hefyd a enillodd Macceda y dwthwn hwnnw, ac a'i trawodd hi â min y cleddyf, ac a ddifrododd ei brenin hi, hwynt‐hwy, a phob enaid ag oedd ynddi; ni adawodd efe un gweddill: canys efe a wnaeth i frenin Macceda, fel y gwnaethai i frenin Jericho.
29
Yna yr aeth Josua a holl Israel gydag ef o Macceda i Libna, ac a ymladdodd yn erbyn Libna.
30
A'r ARGLWYDD a'i rhoddodd hithau, a'i brenin, yn llaw Israel; ac yntau a'i trawodd hi â min y cleddyf, a phob enaid a'r oedd ynddi; ni adawodd ynddi un yng ngweddill: canys efe a wnaeth i'w brenin hi fel y gwnaethai i frenin Jericho.
31
A Josua a dramwyodd, a holl Israel gydag ef, o Libna i Lachis; ac a wersyllodd wrthi, ac a ymladdodd i'w herbyn.
32
A'r ARGLWYDD a roddodd Lachis yn llaw Israel; yr hwn a'i henillodd hi yr ail ddydd, ac a'i trawodd hi â min y cleddyf, a phob enaid ag oedd ynddi, yn ôl yr hyn oll a wnaethai efe i Libna.
33
Yna Horam brenin Geser a ddaeth i fyny i gynorthwyo Lachis: a Josua a'i trawodd ef a'i bobl, fel na adawyd iddo ef un yng ngweddill.
34
A Josua a dramwyodd, a holl Israel gydag ef, o Lachis i Eglon: a hwy a wersyllasant wrthi, ac a ymladdasant i'w herbyn.
35
A hwy a'i henillasant hi y diwrnod hwnnw, ac a'i trawsant hi â min y cleddyf; ac efe a ddifrododd bob enaid a'r oedd ynddi y dwthwn hwnnw, yn ôl yr hyn oll a wnaethai efe i Lachis.
36
A Josua a esgynnodd, a holl Israel gydag ef, o Eglon i Hebron; a hwy a ryfelasant i'w herbyn.
37
A hwy a'i henillasant hi, ac a'i trawsant hi â min y cleddyf, a'i brenin, a'i holl ddinasoedd, a phob enaid ag oedd ynddi; ni adawodd efe un yng ngweddill, yn ôl yr hyn oll a wnaethai efe i Eglon: canys efe a'i difrododd hi, a phob enaid ag oedd ynddi.
38
A Josua a ddychwelodd, a holl Israel gydag ef, i Debir; ac a ymladdodd i'w herbyn.
39
Ac efe a'i henillodd hi, ei brenin, a'i holl ddinasoedd; a hwy a'u trawsant hwy â min y cleddyf, ac a ddifrodasant bob enaid ag oedd ynddi; ni adawodd efe un yng ngweddill: fel y gwnaethai efe i Hebron, felly y gwnaeth efe i Debir, ac i'w brenin; megis y gwnaethai efe i Libna, ac i'w brenin.
40
Felly y trawodd Josua yr holl fynydd‐dir, a'r deau, y gwastadedd hefyd, a'r bronnydd, a'u holl frenhinoedd: ni adawodd efe un yng ngweddill; eithr efe a ddifrododd bob perchen anadl, fel y gorchmynasai ARGLWYDD DDUW Israel.
41
A Josua a'u trawodd hwynt o Cades‐Barnea, hyd Gasa, a holl wlad Gosen, hyd Gibeon.
42
Yr holl frenhinoedd hyn hefyd a'u gwledydd a enillodd Josua ar unwaith: canys ARGLWYDD DDUW Israel oedd yn ymladd dros Israel.
43
Yna y dychwelodd Josua, a holl Israel gydag ef, i'r gwersyll yn Gilgal.
← Chapter 9
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 11 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24