bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Joshua 12
Joshua 12
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 11
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 13 →
1
Dyma frenhinoedd y wlad, y rhai a drawodd meibion Israel, ac a feddianasant eu gwlad hwynt o'r tu hwnt i'r Iorddonen tua chodiad yr haul; o afon Arnon hyd fynydd Hermon, a'r holl wastadedd tua'r dwyrain:
2
Sehon brenin yr Amoriaid, yr hwn oedd yn trigo yn Hesbon, ac yn arglwyddiaethu o Aroer, yr hon sydd ar fin yr afon Arnon, ac o ganol yr afon, ac o hanner Gilead hyd yr afon Jabboc, ym mro meibion Ammon;
3
Ac o'r gwastadedd hyd fôr Cinneroth o du y dwyrain, ac hyd fôr y gwastadedd, sef y môr heli, o du y dwyrain, tua Beth‐jesimoth; ac o du y deau, dan Asdoth‐Pisga:
4
A goror Og brenin Basan, yr hwn oedd o weddill y cewri, ac oedd yn trigo yn Astaroth ac yn Edrei;
5
Ac efe oedd yn arglwyddiaethu ym mynydd Hermon, ac yn Salcha, ac yn holl Basan, hyd derfyn y Gesuriaid, a'r Maachathiaid, a hanner Gilead, terfyn Sehon brenin Hesbon.
6
Moses gwas yr ARGLWYDD a meibion Israel a'u trawsant hwy: a Moses gwas yr ARGLWYDD a'i rhoddodd hi yn etifeddiaeth i'r Reubeniaid, ac i'r Gadiaid, ac i hanner llwyth Manasse.
7
Dyma hefyd frenhinoedd y wlad y rhai a drawodd Josua a meibion Israel o'r tu yma i'r Iorddonen o du y gorllewin, o Baal‐Gad, yng nglyn Libanus, hyd fynydd Halac, yr hwn sydd yn myned i fyny i Seir; a Josua a'i rhoddodd hi i lwythau Israel yn etifeddiaeth yn ôl eu rhannau;
8
Yn y mynydd, ac yn y dyffryn, ac yn y gwastadedd, ac yn y bronnydd, ac yn yr anialwch, ac yn y deau; yr Hethiaid, yr Amoriaid, a'r Canaaneaid, y Pheresiaid, yr Hefiaid, a'r Jebusiaid:
9
Brenin Jericho, yn un; brenin Ai, yr hwn oedd o ystlys Bethel, yn un;
10
Brenin Jerwsalem, yn un; brenin Hebron, yn un;
11
Brenin Jarmuth, yn un; brenin Lachis, yn un;
12
Brenin Eglon, yn un; brenin Geser, yn un;
13
Brenin Debir, yn un; brenin Geder, yn un;
14
Brenin Horma, yn un; brenin Arad, yn un;
15
Brenin Libna, yn un; brenin Adulam, yn un;
16
Brenin Macceda, yn un; brenin Bethel, yn un;
17
Brenin Tappua, yn un; brenin Heffer, yn un;
18
Brenin Affec, yn un; brenin Lasaron, yn un;
19
Brenin Madon, yn un; brenin Hasor, yn un;
20
Brenin Simron‐Meron, yn un; brenin Achsaff, yn un;
21
Brenin Taanach, yn un; brenin Megido, yn un;
22
Brenin Cades, yn un; brenin Jocneam o Carmel, yn un;
23
Brenin Dor yn ardal Dor, yn un; brenin y cenhedloedd o Gilgal, yn un;
24
Brenin Tirsa, yn un: yr holl frenhinoedd oedd un ar ddeg ar hugain.
← Chapter 11
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 13 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24