bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Joshua 24
Joshua 24
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 23
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
1
A Josua a gynullodd holl lwythau Israel i Sichem; ac a alwodd am henuriaid Israel, ac am eu penaethiaid, ac am eu barnwyr, ac am eu swyddogion: a hwy a safasant gerbron DUW.
2
A dywedodd Josua wrth yr holl bobl, Fel hyn y dywed ARGLWYDD DDUW Israel; Tu hwnt i'r afon y trigodd eich tadau chwi gynt, sef Tera tad Abraham, a thad Nachor: a hwy a wasanaethasant dduwiau dieithr.
3
Ac mi a gymerais eich tad Abraham ymaith o'r tu hwnt i'r afon, ac a'i harweiniais ef trwy holl wlad Canaan, ac a amlheais hefyd ei had ef, ac a roddais iddo Isaac.
4
Ac i Isaac y rhoddais Jacob ac Esau: ac i Esau y rhoddais fynydd Seir i'w etifeddu; ond Jacob a'i feibion a aethant i waered i'r Aifft.
5
A mi a anfonais Moses ac Aaron, ac a drewais yr Eifftiaid, yn ôl yr hyn a wneuthum yn eu mysg: ac wedi hynny y dygais chwi allan,
6
Ac a ddygais eich tadau chwi allan o'r Aifft: a chwi a ddaethoch at y môr; a'r Eifftiaid a erlidiodd ar ôl eich tadau â cherbydau, ac â gwŷr meirch, hyd y môr coch.
7
A phan waeddasant ar yr ARGLWYDD, efe a osododd dywyllwch rhyngoch chwi a'r Eifftiaid, ac a ddug y môr arnynt hwy, ac a'u gorchuddiodd: eich llygaid chwi a welsant yr hyn a wneuthum yn yr Aifft: trigasoch hefyd yn yr anialwch ddyddiau lawer.
8
A mi a'ch dygais i wlad yr Amoriaid, y rhai oedd yn trigo o'r tu hwnt i'r Iorddonen; a hwy a ymladdasant i'ch erbyn: a myfi a'u rhoddais hwynt yn eich llaw chwi, fel y meddianasoch eu gwlad hwynt; a minnau a'u difethais hwynt o'ch blaen chwi.
9
Yna Balac mab Sippor brenin Moab, a gyfododd, ac a ryfelodd yn erbyn Israel; ac a anfonodd, ac a alwodd am Balaam mab Beor, i'ch melltigo chwi.
10
Ond ni fynnwn i wrando ar Balaam; am hynny gan fendithio y bendithiodd efe chwi: felly y gwaredais chwi o'i law ef.
11
A chwi a aethoch dros yr Iorddonen, ac a ddaethoch i Jericho: a gwŷr Jericho a ymladdodd i'ch erbyn, yr Amoriaid, a'r Pheresiaid, a'r Canaaneaid, a'r Hethiaid, a'r Girgasiaid, yr Hefiaid, a'r Jebusiaid; a mi a'u rhoddais hwynt yn eich llaw chwi.
12
A mi a anfonais gacwn o'ch blaen chwi, a'r rhai hynny a'u gyrrodd hwynt allan o'ch blaen chwi; sef dau frenin yr Amoriaid: nid â'th gleddyf di, ac nid â'th fwa.
13
A mi a roddais i chwi wlad ni lafuriasoch amdani, a dinasoedd y rhai nid adeiladasoch, ac yr ydych yn trigo ynddynt: o'r gwinllannoedd a'r olewlannoedd ni phlanasoch, yr ydych yn bwyta ohonynt.
14
Yn awr gan hynny ofnwch yr ARGLWYDD, a gwasanaethwch ef mewn perffeithrwydd a gwirionedd, a bwriwch ymaith y duwiau a wasanaethodd eich tadau o'r tu hwnt i'r afon, ac yn yr Aifft; a gwasanaethwch chwi yr ARGLWYDD.
15
Ac od yw ddrwg yn eich golwg wasanaethu yr ARGLWYDD, dewiswch i chwi heddiw pa un a wasanaethoch, ai y duwiau a wasanaethodd eich tadau, y rhai oedd o'r tu hwnt i'r afon, ai ynteu duwiau yr Amoriaid, y rhai yr ydych yn trigo yn eu gwlad: ond myfi, mi a'm tylwyth a wasanaethwn yr ARGLWYDD.
16
Yna yr atebodd y bobl, ac y dywedodd, Na ato DUW i ni adael yr ARGLWYDD, i wasanaethu duwiau dieithr;
17
Canys yr ARGLWYDD ein DUW yw yr hwn a'n dug ni i fyny a'n tadau o wlad yr Aifft, o dŷ y caethiwed; a'r hwn a wnaeth y rhyfeddodau mawrion hynny yn ein gŵydd ni, ac a'n cadwodd ni yn yr holl ffordd y rhodiasom ynddi, ac ymysg yr holl bobloedd y tramwyasom yn eu plith:
18
A'r ARGLWYDD a yrrodd allan yr holl bobloedd, a'r Amoriaid, preswylwyr y wlad, o'n blaen ni: am hynny ninnau a wasanaethwn yr ARGLWYDD; canys efe yw ein DUW ni.
19
A Josua a ddywedodd wrth y bobl, Ni ellwch wasanaethu yr ARGLWYDD; canys DUW sancteiddiol yw efe: DUW eiddigus yw; ni ddioddef efe eich anwiredd, na'ch pechodau.
20
O gwrthodwch yr ARGLWYDD, a gwasanaethu duwiau dieithr; yna efe a dry, ac a'ch dryga chwi, ac efe a'ch difa chwi, wedi iddo wneuthur i chwi ddaioni.
21
A'r bobl a ddywedodd wrth Josua, Nage; eithr ni a wasanaethwn yr ARGLWYDD.
22
A dywedodd Josua wrth y bobl, Tystion ydych yn eich erbyn eich hun, ddewis ohonoch i chwi yr ARGLWYDD i'w wasanaethu. Dywedasant hwythau, Tystion ydym.
23
Am hynny yn awr (eb efe) bwriwch ymaith y duwiau dieithr sydd yn eich mysg, a gostyngwch eich calon at ARGLWYDD DDUW Israel.
24
A'r bobl a ddywedasant wrth Josua, Yr ARGLWYDD ein DUW a wasanaethwn, ac ar ei lais ef y gwrandawn.
25
Felly Josua a wnaeth gyfamod â'r bobl y dwthwn hwnnw, ac a osododd iddynt ddeddfau a barnedigaethau yn Sichem.
26
A Josua a ysgrifennodd y geiriau hyn yn llyfr cyfraith DDUW, ac a gymerth faen mawr, ac a'i gosododd i fyny yno dan dderwen oedd yn agos i gysegr yr ARGLWYDD.
27
A Josua a ddywedodd wrth yr holl bobl, Wele, y maen hwn fydd yn dystiolaeth i ni; canys efe a glywodd holl eiriau yr ARGLWYDD, y rhai a lefarodd efe wrthym: am hynny y bydd efe yn dystiolaeth i chwi, rhag i chwi wadu eich DUW.
28
Felly Josua a ollyngodd y bobl, bob un i'w etifeddiaeth.
29
Ac wedi'r pethau hyn, y bu farw Josua mab Nun, gwas yr ARGLWYDD, yn fab dengmlwydd a chant.
30
A hwy a'i claddasant ef yn nherfyn ei etifeddiaeth, o fewn Timnath‐sera; yr hon sydd ym mynydd Effraim, o du y gogledd i fynydd Gaas.
31
Ac Israel a wasanaethodd yr ARGLWYDD holl ddyddiau Josua, a holl ddyddiau yr henuriaid a fu fyw ar ôl Josua, ac a wybuasent holl waith yr ARGLWYDD a wnaethai efe er Israel.
32
Ac esgyrn Joseff, y rhai a ddygasai meibion Israel i fyny o'r Aifft, a gladdasant hwy yn Sichem, mewn rhan o'r maes a brynasai Jacob gan feibion Hemor tad Sichem, er can darn o arian; a bu i feibion Joseff yn etifeddiaeth.
33
Ac Eleasar mab Aaron a fu farw: a chladdasant ef ym mryn Phinees ei fab, yr hwn a roddasid iddo ef ym mynydd Effraim.
← Chapter 23
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24