bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Joshua 17
Joshua 17
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 16
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 18 →
1
Ac yr oedd rhandir llwyth Manasse, (canys efe oedd gyntaf‐anedig Joseff,) i Machir, cyntaf‐anedig Manasse, tad Gilead: oherwydd ei fod efe yn rhyfelwr, yr oedd Gilead a Basan yn eiddo ef.
2
Ac yr oedd rhandir i'r rhan arall o feibion Manasse, yn ôl eu teuluoedd; sef i feibion Abieser, ac i feibion Helec, ac i feibion Asriel, ac i feibion Sichem, ac i feibion Heffer, ac i feibion Semida: dyma feibion Manasse mab Joseff, sef y gwrywiaid, yn ôl eu teuluoedd.
3
Ond Salffaad mab Heffer, mab Gilead, mab Machir, mab Manasse, nid oedd iddo feibion, ond merched: a dyma enwau ei ferched ef; Mala, a Noa, Hogla, Milca, a Thirsa:
4
Y rhai a ddaethant o flaen Eleasar yr offeiriad, ac o flaen Josua mab Nun, ac o flaen y tywysogion, gan ddywedyd, Yr ARGLWYDD a orchmynnodd i Moses roddi i ni etifeddiaeth ymysg ein brodyr: am hynny efe a roddodd iddynt etifeddiaeth, yn ôl gair yr ARGLWYDD, ymysg brodyr eu tad.
5
A deg rhandir a syrthiodd i Manasse, heblaw gwlad Gilead a Basan, y rhai sydd tu hwnt i'r Iorddonen;
6
Canys merched Manasse a etifeddasant etifeddiaeth ymysg ei feibion ef: a gwlad Gilead oedd i'r rhan arall o feibion Manasse.
7
A therfyn Manasse oedd o Aser i Michmethath, yr hon sydd gyferbyn â Sichem; a'r terfyn oedd yn myned ar y llaw ddeau, hyd breswylwyr Entappua.
8
Gwlad Tappua oedd eiddo Manasse: ond Tappua, yr hon oedd ar derfyn Manasse, oedd eiddo meibion Effraim.
9
A'r terfyn sydd yn myned i waered i afon Cana, o du deau yr afon. Y dinasoedd hyn, eiddo Effraim, oedd ymhlith dinasoedd Manasse: a therfyn Manasse sydd o du y gogledd i'r afon, a'i ddiwedd oedd y môr.
10
Y deau oedd eiddo Effraim, a'r gogledd eiddo Manasse; a'r môr oedd ei derfyn ef: ac yn Aser yr oeddynt yn cyfarfod, o'r gogledd; ac yn Issachar, o'r dwyrain.
11
Yn Issachar hefyd ac yn Aser yr oedd gan Manasse, Beth‐sean a'i threfydd, ac Ibleam a'i threfydd, a thrigolion Dor a'i threfydd, a thrigolion En‐dor a'i threfydd, a phreswylwyr Taanach a'i threfydd, a thrigolion Megido a'i threfydd; tair talaith.
12
Ond ni allodd meibion Manasse yrru ymaith drigolion y dinasoedd hynny; eithr mynnodd y Canaaneaid breswylio yn y wlad honno.
13
Eto pan gryfhaodd meibion Israel, hwy a osodasant y Canaaneaid dan dreth: ni yrasant hwynt ymaith yn llwyr.
14
A meibion Joseff a lefarasant wrth Josua, gan ddywedyd, Paham y rhoddaist i mi, yn etifeddiaeth, un afael ac un rhan, a minnau yn bobl aml, wedi i'r ARGLWYDD hyd yn hyn fy mendithio?
15
A Josua a ddywedodd wrthynt, Os pobl aml ydwyt, dos i fyny i'r coed, a thor goed i ti yno yng ngwlad y Pheresiaid, a'r cewri, od yw mynydd Effraim yn gyfyng i ti.
16
A meibion Joseff a ddywedasant, Ni bydd y mynydd ddigon i ni: hefyd y mae cerbydau heyrn gan yr holl Ganaaneaid sydd yn trigo yn y dyffryndir, gan y rhai sydd yn Beth‐sean a'i threfi, a chan y rhai sydd yng nglyn Jesreel.
17
A Josua a ddywedodd wrth dŷ Joseff, wrth Effraim ac wrth Manasse, gan ddywedyd, Pobl aml ydwyt, a nerth mawr sydd gennyt: ni fydd i ti un rhan yn unig:
18
Eithr bydd y mynydd eiddot ti: canys coediog yw, arloesa ef; a bydd ei eithafoedd ef eiddot ti: canys ti a yrri ymaith y Canaaneaid, er bod cerbydau heyrn ganddynt, ac er eu bod yn gryfion.
← Chapter 16
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 18 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24