bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Joshua 8
Joshua 8
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 7
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 9 →
1
A'r ARGLWYDD a ddywedodd wrth Josua, Nac ofna, ac nac arswyda: cymer gyda thi yr holl bobl o ryfel, a chyfod, dos i fyny i Ai: gwêl, mi a roddais yn dy law di frenin Ai, a'i bobl, ei ddinas hefyd, a'i wlad.
2
A thi a wnei i Ai a'i brenin, megis y gwnaethost i Jericho ac i'w brenin: eto ei hanrhaith a'i hanifeiliaid a ysglyfaethwch i chwi eich hunain: gosod gynllwyn yn erbyn y ddinas, o'r tu cefn iddi.
3
Yna Josua a gyfododd, a'r holl bobl o ryfel, i fyned i fyny i Ai: a Josua a ddetholodd ddeng mil ar hugain o wŷr cedyrn nerthol, ac a'u hanfonodd ymaith liw nos:
4
Ac efe a orchmynnodd iddynt, gan ddywedyd, Gwelwch, chwi a gynllwynwch yn erbyn y ddinas, o'r tu cefn i'r ddinas: nac ewch ymhell iawn oddi wrth y ddinas, ond byddwch bawb oll yn barod.
5
Minnau hefyd, a'r holl bobl sydd gyda mi, a nesawn at y ddinas: a phan ddelont allan i'n cyfarfod ni, megis y waith gyntaf, yna ni a ffown o'u blaen hwynt,
6
(Canys hwy a ddeuant allan ar ein hôl ni,) nes i ni eu tynnu hwynt allan o'r ddinas; oblegid hwy a ddywedant, Ffoi y maent o'n blaen ni, fel y waith gyntaf: felly y ffown o'u blaen hwynt.
7
Yna chwi a godwch o'r cynllwyn, ac a oresgynnwch y ddinas: canys yr ARGLWYDD eich DUW a'i dyry hi yn eich llaw chwi.
8
A phan enilloch y ddinas, llosgwch y ddinas â thân: gwnewch yn ôl gair yr ARGLWYDD. Gwelwch, mi a orchmynnais i chwi.
9
Felly Josua a'u hanfonodd; a hwy a aethant i gynllwyn, ac a arosasant rhwng Bethel ac Ai, o du'r gorllewin i Ai: a Josua a letyodd y noson honno ymysg y bobl.
10
A Josua a gyfododd yn fore, ac a gyfrifodd y bobl; ac a aeth i fyny, efe a henuriaid Israel, o flaen y bobl, tuag at Ai.
11
A'r holl bobl o ryfel, y rhai oedd gydag ef, a aethant i fyny, ac a nesasant; daethant hefyd gyferbyn â'r ddinas, a gwersyllasant o du'r gogledd i Ai: a glyn oedd rhyngddynt hwy ac Ai.
12
Ac efe a gymerth ynghylch pum mil o wŷr, ac a'u gosododd hwynt i gynllwyn rhwng Bethel ac Ai, o du'r gorllewin i'r ddinas.
13
A'r bobl a osodasant yr holl wersyllau, y rhai oedd o du'r gogledd i'r ddinas, a'r cynllwynwyr o du'r gorllewin i'r ddinas: a Josua a aeth y noson honno i ganol y dyffryn.
14
A phan welodd brenin Ai hynny, yna gwŷr y ddinas a frysiasant, ac a foregodasant, ac a aethant allan i gyfarfod Israel i ryfel, efe a'i holl bobl, ar amser nodedig, ar hyd wyneb y gwastadedd: canys ni wyddai efe fod cynllwyn iddo, o'r tu cefn i'r ddinas.
15
A Josua a holl Israel, fel pe trawsid hwy o'u blaen hwynt, a ffoesant ar hyd yr anialwch.
16
A'r holl bobl, y rhai oedd yn y ddinas, a alwyd ynghyd, i erlid ar eu hôl hwynt: a hwy a erlidiasant ar ôl Josua, ac a dynnwyd oddi wrth y ddinas.
17
Ac ni adawyd gŵr yn Ai, nac yn Bethel, a'r nad aethant allan ar ôl Israel: a gadawsant y ddinas yn agored, ac erlidiasant ar ôl Israel.
18
A'r ARGLWYDD a ddywedodd wrth Josua, Estyn y waywffon sydd yn dy law tuag at Ai: canys yn dy law di y rhoddaf hi. A Josua a estynnodd y waywffon oedd yn ei law tua'r ddinas.
19
A'r cynllwynwyr a gyfodasant yn ebrwydd o'u lle, ac a redasant, pan estynnodd efe ei law: daethant hefyd i'r ddinas, ac enillasant hi; ac a frysiasant, ac a losgasant y ddinas â thân.
20
A gwŷr Ai a droesant yn eu hôl, ac a edrychasant; ac wele, mwg y ddinas a ddyrchafodd hyd y nefoedd; ac nid oedd ganddynt hwy nerth i ffoi yma nac acw: canys y bobl y rhai a ffoesent i'r anialwch, a ddychwelodd yn erbyn y rhai oedd yn erlid.
21
A phan welodd Josua a holl Israel i'r cynllwynwyr ennill y ddinas, a dyrchafu o fwg y ddinas, yna hwy a ddychwelasant, ac a drawsant wŷr Ai.
22
A'r lleill a aethant allan o'r ddinas i'w cyfarfod; felly yr oeddynt yng nghanol Israel, y rhai hyn o'r tu yma, a'r lleill o'r tu acw: a thrawsant hwynt, fel na adawyd un yng ngweddill nac yn ddihangol ohonynt.
23
A brenin Ai a ddaliasant hwy yn fyw; a dygasant ef at Josua.
24
Pan ddarfu i Israel ladd holl breswylwyr Ai yn y maes, yn yr anialwch lle yr erlidiasent hwynt, a phan syrthiasent hwy oll gan fin y cleddyf, nes eu darfod; yna holl Israel a ddychwelasant i Ai, a thrawsant hi â min y cleddyf.
25
A chwbl a'r a syrthiasant y dwthwn hwnnw, yn wŷr ac yn wragedd, oeddynt ddeuddeng mil; sef holl wŷr Ai.
26
Canys ni thynnodd Josua ei law yn ei hôl, yr hon a estynasai efe gyda'r waywffon, nes difetha holl drigolion Ai.
27
Yn unig yr anifeiliaid, ac anrhaith y ddinas, a ysglyfaethodd yr Israeliaid iddynt eu hun; yn ôl gair yr ARGLWYDD, yr hwn a orchmynasai efe i Josua.
28
A Josua a losgodd Ai, ac a'i gwnaeth hi yn garnedd dragywydd, ac yn ddiffeithwch hyd y dydd hwn.
29
Ac efe a grogodd frenin Ai ar bren hyd yr hwyr: ac wedi machlud haul, y gorchmynnodd Josua iddynt ddisgyn ei gelain ef oddi ar y pren, a'i bwrw i ddrws porth y ddinas; a gosodasant garnedd fawr o gerrig arni hyd y dydd hwn.
30
Yna Josua a adeiladodd allor i ARGLWYDD DDUW Israel ym mynydd Ebal,
31
Megis y gorchmynasai Moses gwas yr ARGLWYDD i feibion Israel, fel y mae yn ysgrifenedig yn llyfr cyfraith Moses, allor o gerrig cyfain, y rhai ni ddyrchafasid haearn arnynt: a hwy a offrymasant arni boethoffrymau i'r ARGLWYDD, ac a aberthasant ebyrth hedd.
32
Ac efe a ysgrifennodd yno ar y meini o gyfraith Moses, yr hon a ysgrifenasai efe yng ngŵydd meibion Israel.
33
A holl Israel, a'u henuriaid, eu swyddogion hefyd, a'u barnwyr, oedd yn sefyll oddeutu yr arch, gerbron yr offeiriaid y Lefiaid, y rhai oedd yn dwyn arch cyfamod yr ARGLWYDD, yn gystal yr estron a'r priodor: eu hanner oedd ar gyfer mynydd Garisim, a'u hanner ar gyfer mynydd Ebal; fel y gorchmynasai Moses gwas yr ARGLWYDD o'r blaen fendithio pobl Israel.
34
Wedi hynny efe a ddarllenodd holl eiriau y gyfraith, y fendith a'r felltith, yn ôl y cwbl sydd ysgrifenedig yn llyfr y gyfraith.
35
Nid oedd air o'r hyn oll a orchmynasai Moses, a'r nas darllenodd Josua gerbron holl gynulleidfa Israel, a'r gwragedd, a'r plant, a'r dieithr yr hwn oedd yn rhodio yn eu mysg hwynt.
← Chapter 7
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 9 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
Recommended Reading
Commentary
Joshua Commentaries
→
Devotional
Joshua Devotional Guide
→
Get This Bible
Welsh (Beibl William Morgan - Argraffiad ) Study Bible
→