bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Joshua 9
Joshua 9
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 8
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 10 →
1
Wedi clywed hyn o'r holl frenhinoedd, y rhai oedd o'r tu yma i'r Iorddonen, yn y mynydd, ac yn y gwastadedd, ac yn holl lannau y môr mawr, ar gyfer Libanus; sef yr Hethiaid, a'r Amoriaid, a'r Canaaneaid, a'r Pheresiaid, a'r Hefiaid, a'r Jebusiaid;
2
Yna hwy a ymgasglasant ynghyd i ymladd yn erbyn Josua, ac yn erbyn Israel, o unfryd.
3
A thrigolion Gibeon a glywsant yr hyn a wnaethai Josua i Jericho ac i Ai.
4
A hwy a wnaethant yn gyfrwys, ac a aethant, ac a ymddangosasant fel cenhadon: cymerasant hefyd hen sachlennau ar eu hasynnod, a hen gostrelau gwin, wedi eu hollti hefyd, ac wedi eu rhwymo,
5
A hen esgidiau baglog am eu traed, a hen ddillad amdanynt; a holl fara eu lluniaeth oedd sych a brithlwyd:
6
Ac a aethant at Josua i'r gwersyll i Gilgal; a dywedasant wrtho ef, ac wrth wŷr Israel, O wlad bell y daethom: ac yn awr gwnewch gyfamod â ni.
7
A gwŷr Israel a ddywedasant wrth yr Hefiaid, Nid hwyrach dy fod yn ein mysg yn trigo; pa fodd gan hynny y gwnaf gyfamod â thi?
8
A hwy a ddywedasant wrth Josua, Dy weision di ydym ni. A Josua a ddywedodd wrthynt, Pwy ydych? ac o ba le y daethoch?
9
A hwy a ddywedasant wrtho, Dy weision a ddaethant o wlad bell iawn, oherwydd enw yr ARGLWYDD dy DDUW: canys ni a glywsom ei glod ef, a'r hyn oll a wnaeth efe yn yr Aifft;
10
A'r hyn oll a wnaeth efe i ddau frenin yr Amoriaid, y rhai oedd o'r tu hwnt i'r Iorddonen; i Sehon brenin Hesbon, ac i Og brenin Basan, yr hwn oedd yn Astaroth.
11
Am hynny ein henuriaid ni, a holl breswylwyr ein gwlad, a lefarasant wrthym ni, gan ddywedyd, Cymerwch luniaeth gyda chwi i'r daith, ac ewch i'w cyfarfod hwynt; a dywedwch wrthynt, Eich gweision ydym: yn awr gan hynny gwnewch gyfamod â ni.
12
Dyma ein bara ni: yn frwd y cymerasom ef yn lluniaeth o'n tai y dydd y cychwynasom i ddyfod atoch; ac yn awr, wele, sych a brithlwyd yw.
13
Dyma hefyd y costrelau gwin a lanwasom yn newyddion; ac wele hwynt wedi hollti: ein dillad hyn hefyd a'n hesgidiau a heneiddiasant, rhag meithed y daith.
14
A'r gwŷr a gymerasant o'u hymborth hwynt, ac nid ymgyngorasant â genau yr ARGLWYDD.
15
Felly Josua a wnaeth heddwch â hwynt, ac a wnaeth gyfamod â hwynt, ar eu cadw hwynt yn fyw: tywysogion y gynulleidfa hefyd a dyngasant wrthynt.
16
Ond ymhen y tridiau wedi iddynt wneuthur cyfamod â hwynt, hwy a glywsant mai cymdogion iddynt oeddynt hwy, ac mai yn eu mysg yr oeddynt yn aros.
17
A meibion Israel a gychwynasant, ac a ddaethant i'w dinasoedd hwynt y trydydd dydd: a'u dinasoedd hwynt oedd Gibeon, a Cheffira, Beeroth hefyd, a Chiriathjearim.
18
Ond ni thrawodd meibion Israel mohonynt hwy; oblegid tywysogion y gynulleidfa a dyngasai wrthynt myn ARGLWYDD DDUW Israel: a'r holl gynulleidfa a rwgnachasant yn erbyn y tywysogion.
19
A'r holl dywysogion a ddywedasant wrth yr holl gynulleidfa, Ni a dyngasom wrthynt i ARGLWYDD DDUW Israel: am hynny ni allwn ni yn awr gyffwrdd â hwynt.
20
Hyn a wnawn ni iddynt hwy: Cadwn hwynt yn fyw, fel na byddo digofaint arnom ni; oherwydd y llw a dyngasom wrthynt.
21
A'r tywysogion a ddywedasant wrthynt, Byddant fyw, (ond byddant yn torri cynnud, ac yn tynnu dwfr i'r holl gynulleidfa,) fel y dywedasai'r tywysogion wrthynt.
22
Yna Josua a alwodd arnynt; ac a lefarodd wrthynt, gan ddywedyd, Paham y twyllasoch ni, gan ddywedyd, Pell iawn ydym ni oddi wrthych; a chwithau yn preswylio yn ein mysg ni?
23
Yn awr gan hynny melltigedig ydych: ac ni ddianc un ohonoch rhag bod yn gaethweision, ac yn torri cynnud, ac yn tynnu dwfr i dŷ fy NUW.
24
A hwy a atebasant Josua, ac a ddywedasant, Yn ddiau gan fynegi y mynegwyd i'th weision, ddarfod i'r ARGLWYDD dy DDUW orchymyn i Moses ei was roddi i chwi yr holl wlad hon, a difetha holl drigolion y wlad o'ch blaen chwi; am hynny yr ofnasom ni yn ddirfawr rhagoch am ein heinioes, ac y gwnaethom y peth hyn.
25
Ac yn awr, wele ni yn dy law di: fel y byddo da ac uniawn yn dy olwg wneuthur i ni, gwna.
26
Ac felly y gwnaeth efe iddynt; ac a'u gwaredodd hwynt o law meibion Israel, fel na laddasant hwynt.
27
A Josua a'u rhoddodd hwynt y dwthwn hwnnw yn gymynwyr coed, ac yn wehynwyr dwfr, i'r gynulleidfa, ac i allor yr ARGLWYDD, hyd y dydd hwn, yn y lle a ddewisai efe.
← Chapter 8
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 10 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
Recommended Reading
Commentary
Joshua Commentaries
→
Devotional
Joshua Devotional Guide
→
Get This Bible
Welsh (Beibl William Morgan - Argraffiad ) Study Bible
→