bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Joshua 18
Joshua 18
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 17
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 19 →
1
A Holl gynulleidfa meibion Israel a ymgynullasant i Seilo, ac a osodasant yno babell y cyfarfod: a'r wlad oedd wedi ei darostwng o'u blaen hwynt.
2
A saith lwyth oedd yn aros ymysg meibion Israel, i'r rhai ni ranasent eu hetifeddiaeth eto.
3
A Josua a ddywedodd wrth feibion Israel, Pa hyd yr ydych yn esgeuluso myned i oresgyn y wlad a roddes ARGLWYDD DDUW eich tadau i chwi?
4
Moeswch ohonoch driwyr o bob llwyth; fel yr anfonwyf hwynt, ac y cyfodont, ac y rhodiont y wlad, ac y dosbarthont hi yn ôl eu hetifeddiaeth hwynt; ac y delont ataf drachefn.
5
A hwy a'i rhannant hi yn saith ran. Jwda a saif ar ei derfyn o du'r deau, a thŷ Joseff a safant ar eu terfyn o du'r gogledd.
6
A chwi a ddosberthwch y wlad yn saith ran, a dygwch y dosbarthiadau ataf fi yma; fel y bwriwyf goelbren drosoch yma, o flaen yr ARGLWYDD ein DUW.
7
Ond ni bydd rhan i'r Lefiaid yn eich mysg chwi; oherwydd offeiriadaeth yr ARGLWYDD fydd eu hetifeddiaeth hwynt. Gad hefyd, a Reuben, a hanner llwyth Manasse, a dderbyniasant eu hetifeddiaeth o'r tu hwnt i'r Iorddonen, o du'r dwyrain, yr hon a roddodd Moses gwas yr ARGLWYDD iddynt.
8
A'r gwŷr a gyfodasant, ac a aethant: a Josua a orchmynnodd i'r rhai oedd yn myned i rannu'r wlad, gan ddywedyd, Ewch, a rhodiwch trwy'r wlad, a dosberthwch hi, a dychwelwch ataf fi; ac yma y bwriaf drosoch chwi goelbren gerbron yr ARGLWYDD yn Seilo.
9
A'r gwŷr a aethant ymaith, ac a gerddasant trwy'r wlad, ac a'i dosbarthasant hi bob yn ddinas, yn saith ran, mewn llyfr; a daethant at Josua i'r gwersyll yn Seilo.
10
A Josua a fwriodd goelbren drostynt hwy gerbron yr ARGLWYDD yn Seilo: a Josua a rannodd yno y wlad i feibion Israel yn ôl eu rhannau.
11
A choelbren llwyth meibion Benjamin a ddaeth i fyny yn ôl eu teuluoedd: a therfyn eu hetifeddiaeth hwynt a aeth allan rhwng meibion Jwda a meibion Joseff.
12
A'r terfyn oedd iddynt hwy tua'r gogledd o'r Iorddonen: y terfyn hefyd oedd yn myned i fyny gan ystlys Jericho, o du'r gogledd, ac yn myned i fyny trwy'r mynydd tua'r gorllewin: a'i gyrrau eithaf oedd yn anialwch Bethafen.
13
Y terfyn hefyd sydd yn myned oddi yno i Lus, gan ystlys Lus, honno yw Bethel, tua'r deau; a'r terfyn sydd yn disgyn i Ataroth‐adar, i'r mynydd sydd o du'r deau i Beth‐horon isaf.
14
A'r terfyn sydd yn tueddu, ac yn amgylchu cilfach y môr tua'r deau, o'r mynydd sydd ar gyfer Beth‐horon tua'r deau; a'i gyrrau eithaf ef sydd wrth Ciriath‐baal, honno yw Ciriath‐jearim, dinas meibion Jwda. Dyma du y gorllewin.
15
A thu y deau sydd o gwr Ciriath‐jearim; a'r terfyn sydd yn myned tua'r gorllewin, ac yn cyrhaeddyd hyd ffynnon dyfroedd Nefftoa.
16
Y terfyn hefyd sydd yn disgyn tua chwr y mynydd sydd ar gyfer glyn mab Hinnom, yr hwn sydd yn nyffryn y cewri tua'r gogledd; ac y mae efe yn disgyn i ddyffryn Hinnom, gan ystlys y Jebusiaid tua'r deau, ac yn dyfod i waered i ffynnon Rogel.
17
Ac y mae yn tueddu o'r gogledd, ac yn myned i En‐semes, ac yn cyrhaeddyd tua Geliloth, yr hon sydd gyferbyn â rhiw Adummim, ac yn disgyn at faen Bohan mab Reuben:
18
Ac y mae efe yn myned ar hyd yr ystlys ar gyfer Araba tua'r gogledd, ac yn disgyn i Araba.
19
Y terfyn hefyd sydd yn myned rhagddo i ystlys Beth‐hogla tua'r gogledd: a chwr eithaf y terfyn oedd wrth lan y môr heli tua'r gogledd, hyd gwr yr Iorddonen tua'r deau. Dyma derfyn y deau.
20
Yr Iorddonen hefyd sydd derfyn iddo o ystlys y dwyrain. Dyma etifeddiaeth meibion Benjamin, trwy eu terfynau o amgylch, yn ôl eu teuluoedd.
21
A dinasoedd llwyth meibion Benjamin, yn ôl eu teuluoedd, oedd, Jericho, a Beth‐hogla, a glyn Cesis,
22
A Beth‐araba, a Semaraim, a Bethel,
23
Ac Afim, a Phara, ac Offra,
24
A Cheffar‐haammonai, ac Offni, a Gaba; deuddeg o ddinasoedd, a'u pentrefydd:
25
Gibeon, a Rama, a Beeroth,
26
A Mispe, a Cheffira, a Mosa,
27
A Recem, ac Irpeel, a Tharala,
28
A Sela, Eleff, a Jebusi, (honno yw Jerwsalem,) Gibeath, a Chiriath; pedair ar ddeg o ddinasoedd, a'u pentrefydd. Dyma etifeddiaeth meibion Benjamin, yn ôl eu teuluoedd.
← Chapter 17
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 19 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24