bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Joshua 15
Joshua 15
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 14
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 16 →
1
A rhandir llwyth meibion Jwda, yn ôl eu teuluoedd, ydoedd tua therfyn Edom: anialwch Sin, tua'r deau, oedd eithaf y terfyn deau.
2
A therfyn y deau oedd iddynt hwy o gwr y môr heli, o'r graig sydd yn wynebu tua'r deau.
3
Ac yr oedd yn myned allan o'r deau hyd riw Acrabbim, ac yr oedd yn myned rhagddo i Sin, ac yn myned i fyny o du y deau i Cades‐Barnea; ac yn myned hefyd i Hesron, ac yn esgyn i Adar, ac yn amgylchynu i Carcaa.
4
Ac yr oedd yn myned tuag Asmon, ac yn myned allan i afon yr Aifft; ac eithafoedd y terfyn hwnnw oedd wrth y môr: hyn fydd i chwi yn derfyn deau.
5
A'r terfyn tua'r dwyrain yw y môr heli, hyd eithaf yr Iorddonen: a'r terfyn o du y gogledd, sydd o graig y môr, yn eithaf yr Iorddonen.
6
A'r terfyn hwn oedd yn myned i fyny i Beth‐Hogla, ac yn myned o'r gogledd hyd Beth‐Araba; a'r terfyn hwn oedd yn myned i fyny at faen Bohan mab Reuben.
7
A'r terfyn hwn oedd yn myned i fyny i Debir o ddyffryn Achor, a thua'r gogledd yn edrych tua Gilgal, o flaen rhiw Adummim, yr hon sydd o du y deau i'r afon: y terfyn hefyd sydd yn myned hyd ddyfroedd En‐semes, a'i gwr eithaf sydd wrth En‐rogel.
8
A'r terfyn sydd yn myned i fyny trwy ddyffryn meibion Hinnom, gan ystlys y Jebusiaid o du y deau, honno yw Jerwsalem: y terfyn hefyd sydd yn myned i fyny i ben y mynydd sydd o flaen dyffryn Hinnom, tua'r gorllewin, yr hwn sydd yng nghwr glyn y cewri, tua'r gogledd.
9
A'r terfyn sydd yn cyrhaeddyd o ben y mynydd hyd ffynnon dyfroedd Nefftoa, ac sydd yn myned allan i ddinasoedd mynydd Effron: y terfyn hefyd sydd yn tueddu i Baala, honno yw Ciriath‐jearim.
10
A'r terfyn sydd yn amgylchu o Baala tua'r gorllewin, i fynydd Seir, ac sydd yn myned rhagddo at ystlys mynydd Jearim, o du y gogledd, honno yw Chesalon, ac y mae yn disgyn i Beth‐semes, ac yn myned i Timna.
11
A'r terfyn sydd yn myned i ystlys Ecron, tua'r gogledd: a'r terfyn sydd yn tueddu i Sicron, ac yn myned rhagddo i fynydd Baala, ac yn cyrhaeddyd i Jabneel; a chyrrau eithaf y terfyn sydd wrth y môr.
12
A therfyn y gorllewin yw y môr mawr a'i derfyn. Dyma derfyn meibion Jwda o amgylch, wrth eu teuluoedd.
13
Ac i Caleb mab Jeffunne y rhoddodd efe ran ymysg meibion Jwda, yn ôl gair yr ARGLWYDD wrth Josua; sef Caer‐Arba, tad yr Anaciaid, honno yw Hebron.
14
A Chaleb a yrrodd oddi yno dri mab Anac, Sesai, ac Ahiman, a Thalmai, meibion Anac.
15
Ac efe a aeth i fyny oddi yno at drigolion Debir; ac enw Debir o'r blaen oedd Ciriath‐Seffer.
16
A dywedodd Caleb, Pwy bynnag a drawo Ciriath‐Seffer, ac a'i henillo hi; iddo ef y rhoddaf Achsa fy merch yn wraig.
17
Ac Othniel mab Cenas, brawd Caleb, a'i henillodd hi. Yntau a roddodd Achsa ei ferch iddo ef yn wraig.
18
A phan ddaeth hi i mewn ato ef, yna hi a'i hanogodd ef i geisio gan ei thad faes: ac a ddisgynnodd oddi ar yr asyn. A dywedodd Caleb wrthi, Beth a fynni di?
19
A hi a ddywedodd, Dyro i mi rodd; canys gwlad y deau a roddaist i mi: dyro i mi hefyd ffynhonnau dyfroedd. Ac efe a roddodd iddi y ffynhonnau uchaf, a'r ffynhonnau isaf.
20
Dyma etifeddiaeth llwyth meibion Jwda, wrth eu teuluoedd.
21
A'r dinasoedd o du eithaf i lwyth meibion Jwda, tua therfyn Edom, ar du y deau, oeddynt Cabseel, ac Eder, a Jagur,
22
Cina hefyd, a Dimona, ac Adada,
23
Cedes hefyd, a Hasor, ac Ithnan,
24
A Siff, a Thelem, a Bealoth,
25
A Hasor, Hadatta, a Cirioth, a Hesron, honno yw Hasor,
26
Ac Amam, a Sema, a Molada,
27
A Hasar‐Gada, a Hesmon, a Beth‐palet,
28
A Hasar‐sual, a Beer‐seba, a Bisiothia,
29
Baala, ac Iim, ac Asem,
30
Ac Eltolad, a Chesil, a Horma,
31
A Siclag, a Madmanna, a Sansanna,
32
A Lebaoth, a Silhim, ac Ain, a Rimmon: yr holl ddinasoedd oedd naw ar hugain, a'u pentrefydd.
33
Ac yn y dyffryn, Esthaol, a Sorea, ac Asna,
34
A Sanoa, ac En‐gannim, Tappua, ac Enam,
35
Jarmuth, ac Adulam, Socho, ac Aseca,
36
A Saraim, ac Adithaim, a Gedera, a Gederothaim; pedair ar ddeg o ddinasoedd, a'u pentrefydd.
37
Senan, a Hadasa, a Migdal‐Gad,
38
A Dilean, a Mispe, a Joctheel,
39
Lachis, a Boscath, ac Eglon,
40
Chabbon hefyd, a Lahmam, a Chithlis,
41
A Gederoth, Beth‐Dagon, a Naama, a Macceda; un ddinas ar bymtheg, a'u pentrefydd.
42
Libna, ac Ether, ac Asan,
43
A Jiffta, ac Asna, a Nesib,
44
Ceila hefyd, ac Achsib, a Maresa; naw o ddinasoedd, a'u pentrefi.
45
Ecron, a'i threfi, a'i phentrefydd:
46
O Ecron hyd y môr, yr hyn oll oedd gerllaw Asdod, a'u pentrefydd:
47
Asdod, a'i threfydd, a'i phentrefydd; Gasa, a'i threfydd, a'i phentrefydd, hyd afon yr Aifft; a'r môr mawr, a'i derfyn.
48
Ac yn y mynydd‐dir; Samir, a Jattir, a Socho,
49
A Danna, a Ciriath‐sannath, honno yw Debir,
50
Ac Anab, ac Astemo, ac Anim,
51
A Gosen, a Holon, a Gilo; un ddinas ar ddeg, a'u pentrefydd.
52
Arab, a Duma, ac Esean,
53
A Janum, a Beth‐tappua, ac Affeca,
54
A Humta, a Chaer‐Arba, honno yw Hebron, a Sïor; naw dinas, a'u trefydd.
55
Maon, Carmel, a Siff, a Jutta,
56
A Jesreel, a Jocdeam, a Sanoa,
57
Cain, Gibea, a Thimna; deg o ddinasoedd, a'u pentrefydd.
58
Halhul, Beth‐sur, a Gedor,
59
A Maarath, a Beth‐anoth, ac Eltecon; chwech o ddinasoedd, a'u pentrefydd.
60
Ciriath‐baal, honno yw Ciriath‐jearim, a Rabba; dwy ddinas, a'u pentrefydd.
61
Yn yr anialwch; Beth‐araba, Midin, a Sechacha,
62
A Nibsan, a dinas yr halen, ac En‐gedi; chwech o ddinasoedd, a'u pentrefydd.
63
Ond ni allodd meibion Jwda yrru allan y Jebusiaid, trigolion Jerwsalem: am hynny y trig y Jebusiaid gyda meibion Jwda yn Jerwsalem hyd y dydd hwn.
← Chapter 14
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 16 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24