bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Joshua 3
Joshua 3
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 2
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 4 →
1
A Josua a gyfododd yn fore, a chychwynasant o Sittim, a daethant hyd yr Iorddonen, efe a holl feibion Israel: lletyasant yno, cyn iddynt fyned drosodd.
2
Ac ymhen y tridiau, y llywiawdwyr a dramwyasant trwy ganol y llu;
3
Ac a orchmynasant i'r bobl, gan ddywedyd, Pan weloch chwi arch cyfamod yr ARGLWYDD eich DUW, a'r offeiriaid y Lefiaid yn ei dwyn hi; yna cychwynnwch chwi o'ch lle, ac ewch ar ei hôl hi.
4
Eto bydded ennyd rhyngoch chwi a hithau, ynghylch dwy fil o gufyddau wrth fesur: na nesewch ati, fel y gwypoch y ffordd y rhodioch ynddi: canys ni thramwyasoch y ffordd hon o'r blaen.
5
A Josua a ddywedodd wrth y bobl, Ymsancteiddiwch: canys yfory y gwna'r ARGLWYDD ryfeddodau yn eich mysg chwi.
6
Josua hefyd a lefarodd wrth yr offeiriaid, gan ddywedyd, Codwch arch y cyfamod, ac ewch drosodd o flaen y bobl. A hwy a godasant arch y cyfamod, ac a aethant o flaen y bobl.
7
A dywedodd yr ARGLWYDD wrth Josua, Y dydd hwn y dechreuaf dy fawrhau di yng ngŵydd holl Israel: fel y gwypont, mai megis y bûm gyda Moses, y byddaf gyda thithau.
8
Am hynny gorchymyn di i'r offeiriaid sydd yn dwyn arch y cyfamod, gan ddywedyd, Pan ddeloch hyd gwr dyfroedd yr Iorddonen, sefwch yn yr Iorddonen.
9
A Josua a ddywedodd wrth feibion Israel, Nesewch yma, a gwrandewch eiriau yr ARGLWYDD eich DUW.
10
Josua hefyd a ddywedodd, Wrth hyn y cewch wybod fod y DUW byw yn eich mysg chwi; a chan yrru y gyr efe allan y Canaaneaid, a'r Hethiaid, a'r Hefiaid, a'r Pheresiaid, a'r Girgasiaid, yr Amoriaid hefyd, a'r Jebusiaid, o'ch blaen chwi.
11
Wele arch cyfamod Arglwydd yr holl ddaear yn myned o'ch blaen chwi i'r Iorddonen.
12
Gan hynny cymerwch yn awr ddeuddengwr o lwythau Israel, un gŵr o bob llwyth.
13
A phan orffwyso gwadnau traed yr offeiriaid, sydd yn dwyn arch ARGLWYDD IOR yr holl fyd, yn nyfroedd yr Iorddonen, yna dyfroedd yr Iorddonen a dorrir ymaith oddi wrth y dyfroedd sydd yn disgyn oddi uchod: hwy a safant yn bentwr.
14
A phan gychwynnodd y bobl o'u pebyll, i fyned dros yr Iorddonen, a'r offeiriaid oedd yn dwyn arch y cyfamod o flaen y bobl;
15
A phan ddaeth y rhai oedd yn dwyn yr arch hyd yr Iorddonen, a gwlychu o draed yr offeiriaid, oedd yn dwyn yr arch, yng nghwr y dyfroedd, (a'r Iorddonen a lanwai dros ei glannau oll holl ddyddiau y cynhaeaf,)
16
Yna y dyfroedd, y rhai oedd yn disgyn oddi uchod, a safasant; cyfodasant yn bentwr ymhell iawn oddi wrth y ddinas Adam, yr hon sydd o ystlys Saretan: a'r dyfroedd y rhai oedd yn disgyn i fôr y rhos, sef i'r môr heli, a ddarfuant ac a dorrwyd ymaith. Felly y bobl a aethant drosodd ar gyfer Jericho.
17
A'r offeiriaid, y rhai oedd yn dwyn arch cyfamod yr ARGLWYDD, a safasant ar dir sych, yng nghanol yr Iorddonen, yn daclus: a holl Israel oedd yn myned drosodd ar dir sych, nes darfod i'r holl genedl fyned trwy yr Iorddonen.
← Chapter 2
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 4 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
Recommended Reading
Commentary
Joshua Commentaries
→
Devotional
Joshua Devotional Guide
→
Get This Bible
Welsh (Beibl William Morgan - Argraffiad ) Study Bible
→