bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Joshua 13
Joshua 13
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 12
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 14 →
1
A Phan heneiddiodd Josua, a phwyso ohono mewn oedran, dywedodd yr ARGLWYDD wrtho ef, Tydi a heneiddiaist, daethost i ddyddiau oedrannus, a thir lawer iawn sydd eto i'w feddiannu.
2
Dyma y wlad sydd eto yn ôl: holl derfynau y Philistiaid, a holl Gesuri,
3
O Sihor, yr hon sydd o flaen yr Aifft, hyd derfyn Ecron tua'r gogledd, yr hwn a gyfrifir i'r Canaaneaid: pum tywysog y Philistiaid: y Gasathiaid, a'r Asdodiaid, yr Escaloniaid, y Githiaid, yr Ecroniaid; yr Afiaid:
4
O'r deau, holl wlad y Canaaneaid, a'r ogof oedd yn ymyl y Sidoniaid, hyd Affec, hyd derfyn yr Amoriaid:
5
A gwlad y Gibliaid, a holl Libanus, tua chyfodiad haul, o Baal‐Gad dan fynydd Hermon, nes dyfod i Hamath.
6
Holl breswylwyr y mynydd‐dir o Libanus hyd Misreffoth‐maim, a'r holl Sidoniaid, y rhai hynny a yrraf ymaith o flaen meibion Israel: yn unig rhan di hi wrth goelbren i Israel yn etifeddiaeth, fel y gorchmynnais i ti.
7
Ac yn awr rhan di y wlad hon yn etifeddiaeth i'r naw llwyth, ac i hanner llwyth Manasse.
8
Gyda'r rhai y derbyniodd y Reubeniaid a'r Gadiaid eu hetifeddiaeth, yr hon a roddodd Moses iddynt hwy, o'r tu hwnt i'r Iorddonen, tua'r dwyrain, fel y rhoddes Moses gwas yr ARGLWYDD iddynt;
9
O Aroer, yr hon sydd ar fin afon Arnon, a'r ddinas sydd yng nghanol y dyffryn, a holl wastadedd Medeba, hyd Dibon:
10
A holl ddinasoedd Sehon brenin yr Amoriaid, yr hwn a deyrnasodd yn Hesbon, hyd ardal meibion Ammon;
11
Gilead hefyd, a therfyn y Gesuriaid, y Maachathiaid hefyd, a holl fynydd Hermon, a holl Basan hyd Salcha;
12
Holl frenhiniaeth Og yn Basan, yr hwn a deyrnasodd yn Astaroth, ac yn Edrei; efe a adawyd o weddill y cewri: canys Moses a'u trawsai hwynt, ac a'u gyrasai ymaith.
13
Ond meibion Israel ni yrasant allan y Gesuriaid na'r Maachathiaid; eithr trigodd y Gesuriaid a'r Maachathiaid ymhlith Israel hyd y dydd hwn.
14
Yn unig i lwyth Lefi ni roddodd efe etifeddiaeth; aberthau tanllyd ARGLWYDD DDUW Israel oedd ei etifeddiaeth ef, fel y llefarasai efe wrtho.
15
A Moses a roddasai i lwyth meibion Reuben etifeddiaeth trwy eu teuluoedd:
16
A'u terfyn hwynt oedd o Aroer, yr hon sydd ar fin afon Arnon, a'r ddinas sydd yng nghanol y dyffryn, a'r holl wastadedd wrth Medeba;
17
Hesbon a'i holl ddinasoedd, y rhai sydd yn y gwastadedd; Dibon, a Bamoth-Baal, a Beth‐Baalmeon;
18
Jahasa hefyd, a Cedemoth, a Meffaath;
19
Ciriathaim hefyd, a Sibma, a Sarethsahar, ym mynydd‐dir y glyn;
20
Beth‐peor hefyd, ac Asdoth‐Pisga, a Beth‐Jesimoth,
21
A holl ddinasoedd y gwastadedd, a holl frenhiniaeth Sehon brenin yr Amoriaid, yr hwn a deyrnasodd yn Hesbon, yr hwn a ddarfuasai i Moses ei daro, gyda thywysogion Midian, Efi, a Recem, a Sur, a Hur, a Reba, dugiaid Sehon, y rhai oedd yn preswylio yn y wlad.
22
Balaam hefyd mab Beor, y dewin, a laddodd meibion Israel â'r cleddyf, ymhlith eu lladdedigion hwynt.
23
A therfyn meibion Reuben oedd yr Iorddonen a'i goror. Dyma etifeddiaeth meibion Reuben, yn ôl eu teuluoedd, y dinasoedd, a'u trefi.
24
Moses hefyd a roddodd etifeddiaeth i lwyth Gad, sef i feibion Gad, trwy eu teuluoedd;
25
A Jaser oedd derfyn iddynt hwy, a holl ddinasoedd Gilead, a hanner gwlad meibion Ammon, hyd Aroer, yr hon sydd o flaen Rabba;
26
Ac o Hesbon hyd Ramath‐Mispe, a Betonim; ac o Mahanaim hyd gyffinydd Debir;
27
Ac yn y dyffryn, Beth‐Aram, a Beth‐Nimra, a Succoth, a Saffon, gweddill brenhiniaeth Sehon brenin Hesbon, yr Iorddonen a'i therfyn, hyd gwr môr Cinneroth, o'r tu hwnt i'r Iorddonen, o du y dwyrain.
28
Dyma etifeddiaeth meibion Gad, yn ôl eu teuluoedd, y dinasoedd, a'u trefydd.
29
Moses hefyd a roddodd etifeddiaeth i hanner llwyth Manasse: a bu etifeddiaeth i hanner llwyth meibion Manasse, yn ôl eu teuluoedd:
30
A'u terfyn hwynt oedd o Mahanaim, holl Basan, holl frenhiniaeth Og brenin Basan, a holl drefi Jair, y rhai sydd yn Basan, trigain dinas;
31
A hanner Gilead, ac Astaroth, ac Edrei, dinasoedd brenhiniaeth Og yn Basan, a roddodd efe i feibion Machir mab Manasse, sef i hanner meibion Machir, yn ôl eu teuluoedd.
32
Dyma y gwledydd a roddodd Moses i'w hetifeddu, yn rhosydd Moab, am yr Iorddonen â Jericho, o du y dwyrain.
33
Ond i lwyth Lefi ni roddodd Moses etifeddiaeth: ARGLWYDD DDUW Israel yw eu hetifeddiaeth hwynt, fel y llefarodd efe wrthynt.
← Chapter 12
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 14 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24