bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
/
John 1
John 1
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 2 →
1
Yn y dechreu yr oedd y gair, a’r gair oedd gyda Duw, a Duw oedd y gair.
2
Yr oedd hwn yn y dechreu gyda Duw.
3
Trwyddo ef y daeth popeth, a hebddo ef ni ddaeth unpeth a’r a ddaeth.
4
Ynddo ef yr oedd bywyd, a’r bywyd oedd oleuni dynion.
5
A’r goleuni a lewyrcha yn y tywyllwch, a’r tywyllwch ni orfu arno.
6
Daeth dyn wedi ei anfon oddiwrth Dduw, a’i enw Ioan.
7
Daeth hwn er tystiolaeth, i dystio am y goleuni, er mwyn i bawb gredu drwyddo.
8
Nid hwnnw oedd y goleuni, ond er mwyn iddo dystio am y goleuni.
9
Yr oedd y gwir oleuni, sydd yn goleuo pob dyn, yn dyfod i’r byd.
10
Yn y byd yr oedd, a gwnaed y byd trwyddo ef, a’r byd nis adnabu ef.
11
At ei eiddo’i hun y daeth, a’i bobl ef ei hunan nis derbyniasant ef atynt.
12
Ond cynifer ag a’i derbyniodd, rhoes iddynt hwy allu i ddyfod yn blant Duw, i’r rhai sy’n credu yn ei enw ef,
13
y rhai a aned nid o waed nac o ewyllys cnawd nac o ewyllys gŵr, ond o Dduw.
14
A daeth y gair yn gnawd, a phreswyliodd yn ein plith, a gwelsom ei ogoniant ef, gogoniant megis gogoniant yr uniganedig oddiwrth y tad, yn llawn gras a gwirionedd.
15
Y mae Ioan yn tystio amdano, a gwaeddodd gan ddywedyd: “Dyma’r hwn y dywedais amdano. Yr hwn sy’n dyfod ar fy ôl i, yr oedd ef o’m blaen i, am ei fod yn gynt na mi;”
16
canys o’i gyfiawnder ef y derbyniasom ni oll, a gras at ras;
17
canys y gyfraith, drwy Foesen y rhoddwyd hi, — y gras a’r gwirionedd, drwy Iesu Grist y daethant.
18
Ni welodd neb Dduw erioed. Yr uniganedig Dduw, sydd ym mynwes y tad, hwnnw a’i heglurodd ef.
19
A hon yw tystiolaeth Ioan, pan ddanfonodd yr Iddewon ato o Gaersalem offeiriaid a Lefiaid i’w holi, “Pwy wyt ti?”
20
Ac addefodd ac ni wadodd, ac addefodd, “Nid myfi yw’r Eneiniog.”
21
A gofynasant iddo: “Beth ynteu? Ai Elïas wyt ti?” A dywedodd: “Nage.” “Ai’r proffwyd wyt ti?” Ac atebodd: “Nage.”
22
Meddent hwythau wrtho: “Pwy wyt ti? — er mwyn i ni roddi ateb i’r rhai a’n danfonodd; beth a ddywedi di amdanat dy hun?”
23
Medd yntau: “Myfi, — llais un yn gweiddi yn yr anialwch, ‘Unionwch ffordd yr Arglwydd,’ fel y dywedodd y proffwyd Eseia.”
24
Ac anfonasid rhai o blith y Phariseaid,
25
a holasant ef a dywedasant wrtho: “Paham ynteu yr wyt yn bedyddio onid yr Eneiniog ydwyt nac Elïas na’r proffwyd?”
26
Atebodd Ioan iddynt, a dywedodd: “Yr wyf i ’n bedyddio mewn dwfr. Yn eich canol y mae un yn sefyll nad adwaenoch chwi,
27
— yr hwn sy’n dyfod ar f’ôl i, — nad wyf i deilwng i ddatod carrai ei esgid.”
28
Hyn a fu ym Methania, dros Iorddonen, lle yr oedd Ioan yn bedyddio.
29
Trannoeth y mae’n gweled yr Iesu ’n dyfod tuag ato, a dywed: “Dyma oen Duw sy’n tynnu ymaith bechod y byd.
30
Hwn yw’r un y dywedais amdano; ‘Ar f’ôl i y mae gŵr yn dyfod a oedd o’m blaen i, am ei fod yn gynt na mi.’
31
A minnau, nis adwaenwn, ond er mwyn ei amlygu i’r Israel, am hynny y deuthum i gan fedyddio mewn dwfr.”
32
A thystiodd Ioan, a dywedodd: “Gwelais yr ysbryd yn disgyn fel colomen o’r nefoedd, ac arhosodd arno ef.
33
A minnau, nis adwaenwn ef, ond yr hwn a’m hanfonodd i fedyddio mewn dwfr, dywedodd hwnnw wrthyf: ‘Y neb y gwelych yr ysbryd yn disgyn ac yn aros arno, hwnnw yw’r un sy’n bedyddio ag ysbryd glân.’
34
Ac yr wyf innau wedi ei weled, ac wedi tystio mai hwn yw mab Duw.”
35
Trannoeth drachefn safai Ioan a dau o’i ddisgyblion,
36
ac wedi syllu ar yr Iesu’n rhodio o amgylch, dywed: “Dyma oen Duw.”
37
A chlywodd ei ddau ddisgybl ef yn dywedyd a chanlynasant yr Iesu.
38
Troes yr Iesu, ac wrth eu gweled yn canlyn, dywed wrthynt; “Beth yr ydych yn ei geisio?” Meddent hwythau: “Rabbi (yr hyn a alwn ni, o’i gyfieithu, yn Athro), ym mha le yr wyt ti’n aros?”
39
Medd ef wrthynt: “Deuwch a gwelwch.” Felly aethant a gwelsant ym mha le yr oedd yn aros, ac arosasant gydag ef y diwrnod hwnnw; tua’r ddegfed awr ydoedd hi.
40
Yr oedd Andreas brawd Simon Pedr yn un o’r ddau a glywodd gan Ioan, ac a’i canlynodd ef.
41
Y mae hwn yn cael yn gyntaf ei frawd ei hun, Simon, ac yn dywedyd wrtho: “Cawsom y Meseia” (yr hyn o’i gyfieithu yw Eneiniog).
42
Daeth ag ef at yr Iesu. Wedi edrych arno dywedodd yr Iesu: “Simon fab Ioan wyt ti; Ceffas fydd dy enw,” (yr hyn a gyfieithir yn Garreg).
43
Trannoeth yr oedd yn ei fryd fyned allan i Galilea, ac y mae’n cael Phylip. Ac medd yr Iesu wrtho: “Dilyn fi”;
44
ac o Fethsaida yr oedd Phylip, o dref Andreas a Phedr.
45
Y mae Phylip yn cael Nathanael ac yn dywedyd wrtho: “Yr hwn yr ysgrifennodd Moesen yn y gyfraith amdano, a’r proffwydi, — yr ydym ni wedi ei gael, Iesu fab Ioseff, o Nasareth.”
46
Ac meddai Nathanael wrtho: “A all dim da fod o Nasareth?” Medd Phylip wrtho: “Tyrd a gwêl.”
47
Gwelodd Iesu Nathanael yn dyfod ato, ac medd ef amdano: “Wel dyma mewn gwirionedd Israeliad heb ddim twyll ynddo.”
48
Medd Nathanael wrtho: “Sut yr wyt ti’n fy adnabod?” Atebodd Iesu a dywedodd wrtho: “Cyn i Phylip dy alw di, pan oeddit dan y ffigysbren, gwelais di.”
49
Atebodd Nathanael iddo: “Rabbi, ti yw mab Duw, ti yw brenin yr Israel.”
50
Atebodd Iesu a dywedodd wrtho: “Ai am i mi ddywedyd wrthyt fy mod wedi dy weled dan y ffigysbren, yr wyt ti’n credu? Cei weled mwy na hyn.”
51
Ac medd ef wrtho: “Ar fy ngwir, meddaf i chwi, chwi welwch y nef yn agored ac angylion Duw’n esgyn ac yn disgyn ar fab y dyn.”
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 2 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21