bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
/
John 7
John 7
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
← Chapter 6
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 8 →
1
Ac ar ôl hyn tramwyai’r Iesu yng Ngalilea, canys ni fynnai dramwy yn Iwdea, am fod yr Iddewon yn ceisio ei ladd,
2
ac yr oedd gŵyl yr Iddewon yn agos, gŵyl y pebyll.
3
Medd ei frodyr felly wrtho: “Cerdda oddiyma a dos ymaith i Iwdea, er mwyn i’th ddisgyblion hefyd weled dy weithredoedd yr wyt yn eu gwneuthur,
4
canys nid oes neb yn gwneuthur dim yn y dirgel, ag yntau yn ceisio bod yn gyhoedd. Os wyt ti yn gwneuthur y pethau hyn, dangos dy hun yn amlwg i’r byd,”
5
— oherwydd nid oedd ei frodyr chwaith yn credu ynddo.
6
Medd yr Iesu felly wrthynt: “Ni ddaeth fy adeg i eto, ond y mae’ch adeg chwi bob amser yn gyfleus.
7
Ni all y byd eich cashau chwi, ond y mae’n fy nghashau i am fy mod i’n tystio amdano fod ei weithredoedd yn ddrwg.
8
Ewch chwi i fyny i’r ŵyl, nid af i yn awr i’r ŵyl yma, am nad yw’n llawn bryd i mi eto.”
9
Wedi dywedyd hyn wrthynt, arhosodd yng Ngalilea,
10
ond ar ôl i’w frodyr fyned i fyny i’r ŵyl, yna aeth yntau i fyny hefyd, nid yn agored ond yn ddirgel, megis.
11
Chwiliai’r Iddewon felly amdano yn yr ŵyl, ac meddent hwy: “Ple mae’r dyn?”
12
Ac yr oedd cryn siarad yn ei gylch ymhlith y tyrfaoedd a rhai’n dywedyd: “Dyn da ydyw,” ac eraill yn dywedyd: “Nage, ond camarwain y bobl y mae;”
13
ond er hynny ni siaradai neb ar gyhoedd amdano rhag ofn yr Iddewon.
14
A phan oedd yr ŵyl ar ei chanol, aeth Iesu i fyny i’r deml a dechreuodd ddysgu.
15
Felly synnai’r Iddewon, ac meddent hwy: “Pa fodd y mae hwn yn medru llên ag yntau heb fod dan addysg?”
16
Atebodd yr Iesu iddynt a dywedodd: “Nid eiddof i fy nysgeidiaeth i, ond eiddo’r hwn a’m hanfonodd i.
17
Os myn neb wneuthur ei ewyllys ef, daw i wybod am y ddysgeidiaeth, ai o Dduw y mae ai myfi sydd yn siarad ohonof fy hun.
18
Y mae’r hwn sy’n siarad ohono’i hun yn ceisio gogoniant personol, ond y neb sy’n ceisio gogoniant yr hwn a’i hanfonodd, y mae hwnnw’n gywir ac nid oes anwiredd ynddo.
19
Oni roes Moesen y gyfraith i chwi? Ac nid oes neb ohonoch yn gwneuthur y gyfraith. Paham y ceisiwch fy lladd?”
20
Atebodd y dyrfa: “Y mae rhyw gythraul arnat. Pwy sy’n ceisio dy ladd?”
21
Atebodd Iesu a dywedodd wrthynt: “Un weithred a wneuthum ac yr ydych oll yn synnu.
22
Am hyn y rhoes Moesen i chwi yr enwaediad — nid bod hynny oddiwrth Foesen ond oddiwrth y tadau — a byddwch yn enwaedu ar ddyn ar y Sabath.
23
Os caiff dyn enwaediad ar y Sabath, a chyfraith Moesen heb ei thorri, a ydych yn ddig wrthyf i am fy mod wedi gwneuthur dyn cyfan yn iach ar y Sabath?
24
Na fernwch wrth yr olwg, ond bernwch y farn gyfiawn.”
25
Meddai rhai o bobl Caersalem felly: “Onid hwn y maent yn ceisio ei ladd?
26
A dyma yntau’n siarad yn agored, ac nid ydynt yn dywedyd dim wrtho. Tybed bod y penaethiaid yn gwybod yn wir mai hwn yw’r Eneiniog?
27
Ond gwyddom ni am hwn, o ba le y mae, ond am yr Eneiniog pan ddêl, ni ŵyr neb o ba le y mae.”
28
Felly gwaeddodd yr Iesu, wrth ddysgu yn y deml, a dywedodd: “Myfi a adwaenoch a gwyddoch o ba le yr wyf. Ac ohonof fy hunan ni ddeuthum, ond y mae un gwirioneddol a’m hanfonodd i, yr hwn ni wyddoch chwi amdano.
29
Yr wyf i yn gwybod amdano, mai oddiwrtho ef yr ydwyf, ac mai ef a’m hanfonodd.”
30
Felly ceisient ei ddal, ond ni roddodd neb ei law arno, canys ni ddaethai ei adeg ef eto.
31
Ond o’r dyrfa credodd llawer ynddo, a dywedasant: “A wna’r Eneiniog pan ddêl fwy o arwyddion nag a wnaeth hwn?”
32
Clywodd y Phariseaid y dyrfa yn murmur hyn amdano, ac anfonodd y prif offeiriaid a’r Phariseaid swyddogion i’w ddal.
33
Meddai’r Iesu felly: “Am ychydig amser eto yr wyf gyda chwi ac yna yr wyf yn myned at yr hwn a’m hanfonodd i.
34
Byddwch yn fy ngheisio ac ni’m cewch, a’r lle y byddaf i, ni ellwch chwi ddyfod.”
35
Felly meddai’r Iddewon wrth ei gilydd: “I ba le y mae hwn am fyned, na ddeuwn ni o hyd iddo? A ydyw am fyned at y rhai sydd ar wasgar ymhlith y Groegiaid a dysgu’r Groegiaid?
36
Beth ydyw’r gair hwn a ddywedodd, — ‘Byddwch yn fy ngheisio ac ni’m cewch, a’r lle y byddaf i ni ellwch chwi ddyfod’?”
37
Ac ar y dydd diwethaf, diwrnod mawr yr ŵyl, safodd yr Iesu a gwaeddodd gan ddywedyd: “Os oes syched ar neb, deued ataf i ac yfed.
38
Y neb sy’n credu ynof i, fel y dywed yr adnod, — fe lifa afonydd o ddwfr byw o’i ymysgaroedd.”
39
Hyn a ddywedodd am yr ysbryd a dderbyniai’r rhai a gredodd ynddo ef, canys nid oedd Ysbryd eto, am na ogoneddwyd yr Iesu hyd yn hyn.
40
A dywedodd rhai o’r dorf a glywodd y geiriau hyn: “Hwn yn wir yw’r proffwyd.”
41
Medd eraill: “Hwn yw’r Eneiniog,” ond medd eraill: “Ai o Galilea y daw’r Eneiniog?
42
Onid yw’r ysgrythur yn dywedyd mai o had Dafydd ac o Fethlehem, y dref lle yr oedd Dafydd, y daw’r Eneiniog?”
43
Felly aeth yn ddwyblaid yn y dyrfa o’i achos.
44
A mynnai rhai ohonynt ei ddal, ond ni roes neb ei ddwylo arno.
45
Felly daeth y swyddogion at y prif offeiriaid a’r Phariseaid, ac medd y rheiny wrthynt: “Paham na ddaethoch ag ef?”
46
Atebodd y swyddogion: “Ni siaradodd dyn erioed fel hyn, fel y mae’r dyn hwn yn siarad.”
47
Ac atebodd y Phariseaid iddynt: “A ydych chwithau hefyd wedi eich llithio?
48
A oes un o’r arweinwyr wedi credu ynddo, neu o’r Phariseaid?
49
Ond am y dorf hon nad yw’n gwybod y gyfraith, y maent dan felltith.”
50
Medd Nicodemus wrthynt (a ddaethai ato cyn hynny) ag yntau’n un ohonynt:
51
“A ydyw ein cyfraith ni’n barnu dyn heb yn gyntaf wrando arno a gwybod pa beth y mae’n ei wneuthur?”
52
Atebasant a dywedasant wrtho: “Nid wyt tithau hefyd o Galilea, a wyt ti? Chwilia a gwêl, nad o Galilea y cyfyd proffwyd.”
53
[Ac aethant ymaith, bob un i’w dŷ ei hun.
← Chapter 6
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 8 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21