bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
/
John 16
John 16
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
← Chapter 15
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 17 →
1
“Hyn a ddywedais wrthych rhag eich maglu:
2
torrant chwi allan o’r synagog, ac yn wir mae’r adeg yn dyfod i bob un a’ch lladdo dybied ei fod yn dwyn offrwm i Dduw.
3
A hyn a wnânt am eu bod heb adnabod y tad na minnau.
4
A’r pethau hyn a ddywedais wrthych er mwyn i chwi eu cofio, pan ddaw eu hadeg, fy mod wedi eu dywedyd wrthych. Nis dywedais hwynt wrthych ar y dechreu, am fy mod gyda chwi.
5
Ond yn awr yr wyf yn myned at yr hwn a’m hanfonodd, ac nid oes neb ohonoch yn gofyn i mi, ‘I ba le yr ei?’,
6
ond am fy mod wedi dywedyd hyn wrthych, y mae’r tristwch wedi llenwi eich calon.
7
Ond yr wyf i’n dywedyd y gwir wrthych; y mae’n lles i chwi fy myned i ymaith, canys onid af, ni ddaw eich plaid atoch. Ond os af, anfonaf ef atoch.
8
A phan ddaw hwnnw, fe brawf gyfeiliorni o’r byd am bechod, am gyfiawnder ac am farn.
9
Am bechod am nad ydynt yn credu ynof i;
10
am gyfiawnder am fy mod yn myned at y tad ac ni’m gwelwch mwy;
11
ac am farn, am fod pennaeth y byd hwn wedi ei farnu.
12
Llawer eto o bethau sydd gennyf i’w dywedyd wrthych, ond ni ellwch eu dal yn awr;
13
ond pan ddaw hwnnw, ysbryd y gwirionedd, fe’ch tywys i’r holl wirionedd, oherwydd ni sieryd ohono ei hun, ond yr hyn a glyw a sieryd, ac fe hysbysa i chwi y pethau sy’n dyfod.
14
Hwnnw a’m gogonedda i, oherwydd bydd yn cymryd o’m heiddo i ac yn ei hysbysu i chwi.
15
Eiddof i y cwbl sydd gan y tad; dyna paham y dywedais ei fod yn cymryd o’m heiddo i ac y bydd yn ei hysbysu i chwi.
16
Ychydig amser ac ni’m gwelwch mwy, ac ychydig amser wedyn, a chwi a’m gwelwch.”
17
Felly dywedodd rhai o’i ddisgyblion wrth ei gilydd: “Beth yw hyn a ddywed wrthym? — ‘Ychydig amser ac ni’m gwelwch, ac ychydig amser wedyn, a chwi a’m gwelwch,’ ac ‘Yr wyf yn myned at y tad?’”
18
Meddent hwy felly: “Beth yw’r ychydig amser hwn y mae’n sôn amdano? Ni wyddom ni pa beth y mae’n ei ddywedyd.”
19
Gwybu Iesu eu bod yn dymuno ei holi, a dywedodd wrthynt: “Ai ynghylch hyn yr ydych yn ymofyn gyda’ch gilydd, am fy mod i wedi dywedyd, ‘Ychydig amser ac ni’m gwelwch, ac ychydig amser wedyn a chwi a’m gwelwch’?
20
Ar fy ngwir, meddaf i chwi, byddwch chwi’n wylo ac yn galarnadu, ond bydd y byd yn llawenhau. Byddwch chwi’n gofidio ond try eich gofid yn llawenydd.
21
Y mae gofid ar wraig pan fo’n esgor am fod ei hamser wedi dyfod, ond pan enir y plentyn, ni chofia hi ddim o’i thrallod mwy gan ei llawenydd o eni dyn i’r byd.
22
A chwithau felly, y mae gofid arnoch yn awr, ond mi a’ch gwelaf eto, a bydd eich calon yn llawen, a’ch llawenydd chwi ni chymer neb oddiarnoch.
23
Ac yn y dydd hwnnw ni ofynnwch gwestiwn i mi. Ar fy ngwir, meddaf i chwi, os gofynnwch ddim gan y tad, fe’i rhydd i chwi yn f’enw i.
24
Hyd yn hyn ni ofynasoch ddim yn f’enw i. Gofynnwch, a chewch, fel y byddo’ch llawenydd yn gyflawn.
25
Hyn a ddywedais wrthych ar ddamegion. Y mae’r adeg yn dyfod pan na siaradaf wrthych ar ddamegion mwyach, ond hysbysaf i chwi am y tad yn eglur.
26
Yn y dydd hwnnw, byddwch yn gofyn yn f’enw i, ac nid wyf yn dywedyd wrthych y gofynnaf i’r tad yn eich achos.
27
Oherwydd y mae’r tad ei hunan yn eich caru, am eich bod chwi wedi fy ngharu i ac wedi credu fy nyfod allan oddiwrth Dduw.
28
Deuthum allan o’r tad, ac yr wyf wedi dyfod i’r byd; yr wyf drachefn yn gadael y byd ac yn myned at y tad.”
29
Medd ei ddisgyblion: “Dyma di yn awr yn siarad yn eglur, ac nid dameg yr wyt yn ei dywedyd.
30
Yn awr gwyddom dy fod yn gwybod popeth, ac nad oes angen arnat i neb dy holi. Am hyn yr ydym yn credu mai oddiwrth Dduw y daethost allan.”
31
Atebodd Iesu iddynt: “A ydych chwi’n credu o’r diwedd?
32
Dyma’r adeg yn dyfod, yn wir wedi dyfod, y gwasgent chwi bob un at ei bethau, a gadewch fi’n unig.
33
Ac eto nid wyf yn unig, gan fod y tad gyda mi. Hyn a ddywedais wrthych fel y byddo gennych dangnefedd ynof i. Yn y byd, adfyd sydd i chwi, ond codwch eich calonnau, yr wyf i wedi gorchfygu’r byd.”
← Chapter 15
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 17 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21