bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
/
John 17
John 17
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
← Chapter 16
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 18 →
1
Hyn a ddywedodd Iesu, ac wedi codi ei lygaid tua’r nefoedd, dywedodd: Dad, y mae’r awr wedi dyfod. Gogonedda dy fab, fel y gogoneddo dy fab dithau,
2
megis y rhoddaist iddo awdurdod ar bob cnawd, fel am y cwbl a roddaist iddo, y rhoddai fywyd tragwyddol iddynt.
3
Hyn ydyw’r bywyd tragwyddol, eu bod yn d’adnabod ti yr unig wir Dduw a’r hwn a anfonaist, Iesu’r Eneiniog.
4
Mi a’th ogoneddais di ar y ddaear, drwy gwblhau’r gwaith a roddaist i mi i’w wneuthur.
5
Ac yn awr gogonedda dithau finnau, dad, gyda thi â’r gogoniant a oedd gennyf gyda thi cyn bod y byd.
6
Mi a amlygais dy enw i’r dynion a roddaist i mi allan o’r byd. Eiddot ti oeddynt, a rhoddaist hwy i mi, ac y maent wedi cadw dy air.
7
Yn awr, gwyddant mai oddiwrthyt ti y mae’r cwbl a roddaist i mi,
8
gan fy mod wedi rhoddi iddynt hwy’r geiriau a roddaist i mi, a hwythau wedi eu derbyn a gwybod yn wir mai oddiwrthyt ti y deuthum allan a chredu mai ti a’m hanfonodd.
9
Yr wyf yn gofyn yn eu hachos hwy; nid yn achos y byd yr wyf yn gofyn, ond yn achos y rhai a roddaist i mi, canys ti piau hwy,
10
a’r eiddof i oll, yr eiddot ti ydyw, a’r eiddot ti, yr eiddof i, ac yr wyf wedi fy ngogoneddu ynddynt.
11
A mwyach nid wyf yn y byd, ond y maent hwy yn y byd, ac yr wyf i’n dyfod atat ti. Dad santaidd, cadw hwynt yn d’ enw di a roddaist i mi, fel y byddont yn un fel ninnau.
12
Pan oeddwn gyda hwynt, yr oeddwn i’n eu cadw yn dy enw a roddaist i mi, a gwarchedwais hwy, ac nid aeth yr un ohonynt ar goll, ond mab y golled, er mwyn cyflawni’r Ysgrythur.
13
Ond yn awr yr wyf yn dyfod atat ti, a hyn yr wyf yn ei ddywedyd yn y byd fel y bo ganddynt fy llawenydd i wedi ei gyflawni ynddynt hwy eu hunain.
14
Mi a roddais iddynt d’air di, a chashaodd y byd hwy, am nad ŷnt o’r byd, fel nad wyf innau o’r byd.
15
Nid wyf yn gofyn iti eu symud o’r byd, ond iti eu cadw hwynt o’r drwg.
16
O’r byd nid ydynt fel nad wyf innau o’r byd.
17
Santeiddia hwy â’r gwirionedd. D’air di gwirionedd yw.
18
Fel y’m hanfonaist i i’r byd, felly yr anfonais innau hwynt i’r byd;
19
ac er eu mwyn hwynt yr wyf i’n fy santeiddio fy hun, fel y byddont hwythau hefyd wedi eu santeiddio â’r gwirionedd.
20
“Ond nid yn achos y rhain yn unig yr wyf yn gofyn, ond yn achos y rhai sy’n credu ynof i oherwydd eu gair hwy,
21
fel y byddont oll yn un, fel yr wyt ti, dad, ynof i a minnau ynot tithau, fel y byddont hwythau hefyd ynom ni, fel y credo’r byd mai ti a’m hanfonodd.
22
Ac yr wyf innau wedi rhoddi’r gogoniant, a roddaist i mi, iddynt hwy, fel y byddont yn un megis yr ydym ninnau’n un,
23
myfi ynddynt hwy, a thithau ynof innau, fel y byddont wedi eu perffeithio’n un, fel y gwypo’r byd mai ti a’m hanfonodd, a’th fod wedi eu caru hwynt fel y ceraist fi.
24
Dad, yr hyn a roddaist i mi, yr wyf yn dymuno, lle yr wyf i, iddynt hwythau hefyd fod gyda mi, fel y gwelont fy ngogoniant i a roddaist i mi am iti fy ngharu i cyn sylfaenu’r byd.
25
Dad cyfiawn, nid adnabu’r byd dydi, ond adnabûm i di, ac adnabu’r rhain mai ti a’m hanfonodd.
26
A hysbysais iddynt dy enw di, ac mi a’i hysbysaf eto, fel y bo’r cariad y’m ceraist i ag ef ynddynt hwy, a minnau ynddynt.”
← Chapter 16
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 18 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21