bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
/
John 9
John 9
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
← Chapter 8
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 10 →
1
Ac wrth fyned heibio, gwelodd ddyn dall o’i enedigaeth,
2
a holodd ei ddisgyblion ef gan ddywedyd: “Rabbi, pwy a bechodd, ai hwn ai ei rieni fel y ganed ef yn ddall?”
3
Atebodd Iesu: “Nid hwn a bechodd na’i rieni chwaith, ond er mwyn amlygu gweithredoedd Duw ynddo ef.
4
Rhaid i ni weithio gweithredoedd yr hwn a’m hanfonodd tra fo hi’n ddydd. Y mae’r nos yn dyfod pan na all neb weithio.
5
Tra fwyf yn y byd, goleuni’r byd ydwyf.”
6
Wedi dywedyd hyn, poerodd ar lawr a gwnaeth laid o’r poer, a rhoes y llaid ar ei lygaid
7
a dywedodd wrtho: “Dos, ymolch yn llyn Siloam” (a gyfieithir yn Anfonedig). Aeth yntau ymaith ac ymolchodd a daeth yn gweled.
8
Felly dywedodd y cymdogion, a’r rhai a’i gwelai gynt pan oedd yn gardotyn: “Onid hwn yw’r dyn oedd yn eistedd ac yn cardota?”
9
“Hwn ydyw,” medd rhai. “Nage,” medd eraill, “ond un tebig iddo ydyw.” Medd yntau: “Myfi yw.”
10
Dywedasant hwythau wrtho: “Sut felly yr agorwyd dy lygaid?”
11
Atebodd yntau: “Y dyn a’i enw Iesu a wnaeth laid ac a irodd fy llygaid ac a ddywedodd wrthyf: ‘Dos i Siloam ac ymolch’; felly wedi myned ac ymolchi, mi ddeuthum i weled.”
12
A dywedasant wrtho: “Ym mha le y mae ef?” Medd yntau: “Ni wn i.”
13
Ant ag ef at y Phariseaid, y dyn oedd gynt yn ddall;
14
ac yr oedd hi’n Sabath ar y dydd y gwnaeth yr Iesu y llaid ac yr agorodd ei lygaid.
15
Felly dyma’r Phariseaid hefyd yn ei holi wedyn sut y daeth i weled, ac meddai yntau wrthynt: “Llaid a roes ar fy llygaid i ac ymolchais ac yr wyf yn gweled.”
16
Dywedodd rhai o’r Phariseaid, felly: “Nid ydyw’r dyn hwn oddiwrth Dduw ag yntau heb fod yn cadw y Sabath.” Medd eraill, “Sut y gall dyn pechadurus wneuthur arwyddion o’r fath?” Ac aeth yn ddwyblaid yn eu plith,
17
a dywedasant wedyn wrth y dyn dall: “Beth a ddywedi di amdano, ag yntau wedi agor dy lygaid?” Dywedodd yntau: “Proffwyd ydyw.”
18
Felly ni chredai’r Iddewon amdano ei fod yn ddall ac wedi dyfod i weled nes galw ohonynt ei rieni ef, y dyn a ddaethai i weled,
19
a holasant hwynt gan ddywedyd: “Hwn yw eich mab chwi y dywedwch chwi ei fod wedi ei eni’n ddall? Sut ynteu y mae yn awr yn gweled?”
20
Atebodd ei rieni a dywedasant: “Gwyddom mai hwn yw ein mab ac mai’n ddall y ganed ef,
21
ond sut y mae’n gweled yn awr nis gwyddom, a phwy a agorodd ei lygaid nis gwyddom ni; holwch ef, y mae mewn oed, fe sieryd ef amdano’i hun.”
22
Hyn a ddywedodd ei rieni am fod ofn yr Iddewon arnynt, oherwydd yr oedd yr Iddewon eisoes wedi cytuno i dorri allan o’r synagog bob un a’i harddelai ef yn Eneiniog.
23
Dyna paham y dywedodd ei rieni, “Y mae mewn oed, holwch ef.”
24
Felly galwasant yr ail waith y dyn a fuasai’n ddall, ac meddent hwy wrtho: “Dyro ogoniant i Dduw; gwyddom ni mai pechadur ydyw hwn.”
25
Atebodd yntau: “Ai pechadur ydyw, nis gwn. Un peth a wn, mai dall oeddwn a’m bod yn awr yn gweled.”
26
Meddent hwy felly wrtho: “Beth a wnaeth iti? Sut yr agorodd dy lygaid di?”
27
Atebodd iddynt: “Yr wyf wedi dywedyd wrthych yn barod, ond ni wrandawsoch. Paham y mynnwch glywed eilwaith? Nid oes arnoch chwithau hefyd eisieu bod yn ddisgyblion iddo, a oes?”
28
A chablasant ef a dywedasant wrtho: “Yr wyt ti’n ddisgybl i hwn, ond disgyblion Moesen ydym ni.
29
Gwyddom ni am Foesen, i Dduw lefaru wrtho, ond am hwn, ni wyddom o ba le y mae.”
30
Atebodd y dyn a dywedodd wrthynt: “Ie, dyna’r rhyfeddod na wyddoch chwi o ba le y mae, ag yntau wedi agor fy llygaid i.
31
Gwyddom nad yw Duw yn gwrando ar bechaduriaid, ond os yw neb yn ofni Duw ac yn gwneuthur ei ewyllys ef, hwnnw y mae’n ei wrando.
32
Ni bu erioed sôn bod neb wedi agor llygaid dyn wedi ei eni’n ddall.
33
Onid oedd hwn o Dduw, ni allasai wneuthur dim.”
34
Atebasant a dywedasant wrtho: “Mewn pechodau y ganed di’n gyfangwbl, ac a wyt ti’n ein dysgu ni?” A bwriasant ef allan.
35
Clywodd Iesu eu bod wedi ei fwrw allan, ac meddai ef, wedi dyfod o hyd iddo: “A wyt ti’n credu ym mab y dyn?”
36
Atebodd yntau a dywedodd: “A phwy yw, Syr, er mwyn i mi gredu ynddo?”
37
Dywedodd yr Iesu wrtho: “Nid yn unig yr wyt ti wedi ei weled, ond yr hwn sydd yn siarad â thi ydyw.”
38
Medd ef: “Yr wyf yn credu, Arglwydd.” Ac addolodd ef.
39
A dywedodd yr Iesu: “I farn y deuthum i i’r byd hwn, fel y gwelo’r rhai ni welant ac yr êl y rhai sy’n gweled yn ddeillion.”
40
Clywodd y rhai o’r Phariseaid a oedd gydag ef hynny, a dywedasant wrtho: “A ydym ninnau hefyd yn ddeillion?”
41
Meddai’r Iesu wrthynt: “Pe baech ddeillion, ni byddai pechod arnoch. Yn awr dywedwch, ‘Yr ydym yn gweled’; y mae eich pechod yn aros.”
← Chapter 8
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 10 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21