bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
/
John 10
John 10
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
← Chapter 9
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 11 →
1
“Ar fy ngwir, meddaf, i chwi, yr hwn nid yw’n dyfod i mewn drwy’r drws i gorlan y defaid ond sydd yn dringo drosodd ffordd arall, lleidr ac ysbeiliwr yw hwnnw,
2
ond yr hwn sy’n dyfod i mewn drwy’r drws, bugail y defaid ydyw.
3
I hwn yr egyr y porthor, a gwrendy’r defaid ar ei lais ef, a geilw ef ei ddefaid ei hunan wrth eu henw a thywys hwy allan.
4
Pan dry ei holl ddefaid ei hun allan, y mae’n cerdded o’u blaen ac y mae’r defaid yn ei ddilyn am eu bod yn adnabod ei lais.
5
Ond byth ni ddilynant ddieithryn, ond dihangant oddiwrtho, am nad adwaenant lais dieithriaid.”
6
Y ddameg hon a ddywedodd yr Iesu wrthynt, ond ni wyddent hwy beth oedd yr hyn a ddywedai wrthynt.
7
Felly, dywedodd yr Iesu wrthynt drachefn: “Ar fy ngwir, meddaf i chwi, myfi yw drws y defaid.
8
Pawb a ddaeth o’m blaen i, lladron ydynt ac ysbeilwyr, ond ni wrandawodd y defaid arnynt.
9
Myfi yw’r drws; os daw neb i mewn drwof i, bydd yn ddiogel, ac â i mewn ac allan a chaiff borfa.
10
Nid yw’r lleidr yn dyfod ond i ladrata a lladd a difetha. Ond deuthum i er mwyn iddynt gael bywyd a’i gael yn helaethach.
11
Myfi yw’r bugail da; y mae’r bugail da yn rhoddi ei fywyd dros y defaid.
12
Ond y gwas cyflog, nad yw’n fugail, ac nad yw’r defaid yn eiddo iddo ef ei hunan, — y mae hwn yn gweled y blaidd yn dyfod ac yn gadael y defaid ac yn dianc, ac y mae’r blaidd yn eu llarpio a’u tarfu —
13
am mai gwas cyflog ydyw, ac nad yw’n hidio am y defaid.
14
Myfi yw’r bugail da, ac yr wyf yn adnabod fy nefaid fy hun, ac y mae fy nefaid yn fy adnabod i,
15
fel y mae’r tad yn fy adnabod i a minnau’n adnabod y tad, ac yr ydwyf yn rhoddi fy mywyd dros y defaid.
16
A defaid eraill sydd gennyf nad ydynt o’r gorlan hon, a’r rheiny hefyd y mae’n rhaid i mi eu cyrchu, a gwrandawant ar fy llais, a bydd un ddiadell, un bugail.
17
Am hyn y mae fy nhad yn fy ngharu i am fy mod yn rhoddi fy mywyd, fel y caffwyf ef yn ôl.
18
Ni chymerth neb ef oddiarnaf, ond yr wyf i yn ei roddi ef ohonof fy hun. Y mae gennyf hawl i’w roddi, ac y mae gennyf hawl i’w gael yn ôl. Dyma’r siars a gefais gan fy nhad.”
19
Ac aeth yn ddwyblaid drachefn ymhlith yr Iddewon o achos y geiriau hyn;
20
ac meddai llawer ohonynt: “Y mae ganddo gythraul ac y mae o’i gof. Paham yr ydych yn gwrando arno?”
21
Meddai eraill: “Nid dyna eiriau dyn a chythraul ganddo; a all cythraul agor llygaid deillion?”
22
Ac yr oedd yn ŵyl yr ailgysegriad y pryd hwnnw yng Nghaersalem; y gaeaf ydoedd,
23
ac yr oedd yr Iesu yn cerdded yn y deml ym mhendist Solomon.
24
Felly gwnaeth yr Iddewon gylch amdano, a dywedasant wrtho: “Pa hyd yr wyt am ein cadw rhwng dau feddwl? Os ti yw’r Eneiniog, dywed wrthym yn blaen.”
25
Atebodd yr Iesu iddynt: “Dywedais wrthych, ac nid ydych yn credu. Y gweithredoedd yr wyf i yn eu gwneuthur yn enw fy nhad, y rhai hynny sydd yn tystio amdanaf i.
26
Ond nid ydych chwi’n credu, am nad ydych o blith fy nefaid.
27
Y mae fy nefaid i yn gwrando ar fy llais, ac adwaen i hwy, ac y maent yn fy nghanlyn,
28
ac yr wyf innau yn rhoddi iddynt fywyd tragwyddol, ac ni threngant hwy byth yn dragywydd, ac ni chipia neb hwy o’m llaw i.
29
Fy nhad, — yr hyn a roes ef i mi, y mae hynny’n fwy na phopeth, ac ni all neb gipio o law y tad;
30
yr ydwyf i a’r tad yn un.”
31
Cododd yr Iddewon gerrig drachefn i’w labyddio.
32
Atebodd yr Iesu iddynt: “Llawer o weithredoedd a ddangosais i chwi, rhai da, oddiwrth y tad: am ba weithred ohonynt yr ydych yn fy llabyddio?”
33
Atebodd yr Iddewon iddo: “Am weithred dda nid ydym yn dy labyddio di, ond am gabledd, ac am dy fod di, â thithau’n ddyn, yn dy wneuthur dy hun yn dduw.”
34
Atebodd yr Iesu iddynt: “Onid yw wedi ei ysgrifennu yn eich cyfraith chwi, Dywedais i, duwiau ydych?
35
Os galwodd ef y rheiny’n dduwiau y daeth gair Duw atynt (ac ni ellir diddymu’r ysgrythur),
36
a ddywedwch chwi am yr hwn a gysegrodd y tad a’i anfon i’r byd, ‘Yr wyt yn cablu,’ am i mi ddywedyd, ‘Mab Duw ydwyf?’
37
Onid wyf yn gwneuthur gweithredoedd fy nhad, na chredwch fi:
38
ond os wyf yn eu gwneuthur, hyd yn oed oni chredwch fi, credwch y gweithredoedd, fel y gwypoch ac y dealloch fod y tad ynof i a minnau yn y tad.”
39
Felly yr oeddynt yn ceisio drachefn ei ddal, ond aeth allan o’u gafael hwynt.
40
Ac aeth ymaith drachefn dros Iorddonen i’r fan lle y byddai Ioan yn bedyddio ar y cyntaf, ac arhosodd yno.
41
A daeth llawer ato, a dywedasant: “Ni wnaeth Ioan un arwydd, ond eto yr oedd y cwbl a ddywedodd Ioan am hwn yn wir.”
42
A chredodd llawer ynddo yn y fan honno.
← Chapter 9
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 11 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21