bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
/
John 4
John 4
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
← Chapter 3
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 5 →
1
Felly pan wybu’r Arglwydd fod y Phariseaid wedi clywed bod Iesu’n gwneuthur ac yn bedyddio mwy o ddisgyblion na Ioan,
2
— er nad oedd Iesu ei hun yn bedyddio, eithr ei ddisgyblion —
3
gadawodd Iwdea ac aeth yn ôl i Galilea.
4
Ac yr oedd yn rhaid iddo fyned trwy Samaria,
5
ac felly y mae’n dyfod i ddinas yn Samaria a elwir Sychar, yn ymyl y tir a roes Iacob i’w fab Ioseff,
6
ac yno yr oedd Ffynnon Iacob. A chan fod yr Iesu wedi blino gan y daith, eisteddodd fel yr oedd wrth y ffynnon, a thua’r chweched awr oedd hi.
7
Y mae gwraig o Samaria yn dyfod i dynnu dwfr; medd yr Iesu wrthi: “Dyro imi ddiod,”
8
— canys aethai ei ddisgyblion ymaith i’r ddinas i brynu bwydydd.
9
Felly medd y wraig o Samaria wrtho: “Pa fodd yr wyt ti, a thithau’n Iddew, yn gofyn am ddiod gennyf i, a minnau’n Samaritanes?” (canys nid oes dim cyfathrach rhwng Iddewon a Samariaid).
10
Atebodd Iesu a dywedodd wrthi: “Pe buasit yn gwybod rhodd Duw, a phwy yw’r hwn sy’n dywedyd wrthyt ‘dyro imi ddiod,’ tydi a fuasai’n gofyn ganddo ef, a rhoesai yntau i ti ddwfr byw.”
11
Medd hithau wrtho: “Syr, nid oes gennyt biser, a hefyd y mae’r pydew’n ddwfn; o ba le felly y mae’r dwfr byw hwn gennyt?
12
A wyt ti’n fwy na Iacob, ein tad ni, a roes y pydew inni, ac yfodd yntau ohono, a’i feibion a’i ddiadelloedd?”
13
Atebodd Iesu a dywedodd wrthi: “Pob un sy’n yfed o’r dwfr hwn, fe ddaw syched arno wedyn,
14
ond pwy bynnag a yfo o’r dwfr a roddaf i iddo, ni ddaw syched arno byth yn dragywydd, ond â’r dwfr a roddaf i iddo yn ffynhonnell ddwfr ynddo yn ffrydio i fywyd tragwyddol.”
15
Medd y wraig wrtho: “Syr, dyro imi’r dwfr hwn, fel na bo syched arnaf a cherdded yma i dynnu dwfr.”
16
Medd ef wrthi: “Dos, galw dy ŵr a thyred yma.”
17
Atebodd y wraig a dywedodd: “Nid oes gennyf ŵr.” Medd yr Iesu wrthi: “Gwych y dywedaist ‘Nid oes gennyf ŵr,’
18
oherwydd pump o wŷr a fu gennyt, a’r hwn sydd gennyt yn awr, nid dy ŵr di ydyw; hyn o wir a ddywedaist.”
19
Medd y wraig wrtho: “Syr, mi welaf mai proffwyd wyt ti.
20
Addolodd ein tadau ni yn y mynydd hwn, ac yr ydych chwithau’n dywedyd mai yng Nghaersalem y mae’r lle y dylid addoli.”
21
Medd yr Iesu wrthi: “Cred fi, wreigdda, fod adeg yn dyfod pryd na byddwch yn addoli’r tad yn y mynydd hwn nac yng Nghaersalem.
22
Yr ydych chwi’n addoli’r hyn ni wyddoch a ninnau’n addoli’r hyn a wyddom, am fod y waredigaeth o’r Iddewon.
23
Ond y mae’r adeg yn dyfod, ac y mae yn awr, pan addolo’r gwir addolwyr y tad mewn ysbryd a gwirionedd, oherwydd dyna’n wir y fath a gais y tad yn addolwyr iddo.
24
Ysbryd yw Duw, a rhaid i’w addolwyr addoli mewn ysbryd a gwirionedd.”
25
Medd y wraig wrtho: “Gwn fod Meseia yn dyfod, a elwir yn Eneiniog. Pan ddêl hwnnw, fe fynega bopeth inni.”
26
Medd yr Iesu wrthi: “Myfi sydd yn siarad â thi ydyw.”
27
Ac ar hynny daeth ei ddisgyblion, a synnent ei fod yn siarad â merch, ond er hynny ni ddywedodd neb, ‘Beth yr wyt ti’n ei geisio?’ neu ‘Am beth yr wyt ti’n siarad â hi?’
28
Gadawodd y wraig felly ei llestr, ac aeth ymaith i’r dref, ac medd wrth y bobl:
29
“Dewch i weled dyn a ddywedodd wrthyf bopeth a wneuthum; tybed nad hwn yw’r Eneiniog?”
30
Aethant allan o’r dref, ac yr oeddynt ar eu ffordd tuag ato.
31
Yn y cyfamser, erfyniai ei ddisgyblion arno a dywedyd: “Rabbi, bwyta.”
32
Meddai yntau wrthynt: “Y mae gennyf i ymborth i’w fwyta na wyddoch chwi ddim amdano.”
33
Felly dywedodd y disgyblion wrth ei gilydd: “Yn siŵr, ni ddaeth neb â bwyd iddo?”
34
Medd yr Iesu wrthynt: “Fy mwyd i yw gwneuthur ewyllys yr hwn a’m hanfonodd i, a dwyn ei waith i ben.
35
Oni byddwch chwi ’n dywedyd, ‘Pedwar mis eto a bydd yn gynhaeaf,’ ond dyma fi’n dywedyd wrthych, ‘Codwch eich llygaid a sylwch ar y meysydd eu bod yn wynion i gynhaeaf.’
36
Y mae’r medelwr eisoes yn derbyn ei gyflog, ac yn casglu cynnyrch i fywyd tragwyddol, fel y llawenhao’r heuwr a’r medelwr ynghyd,
37
oherwydd yn hyn o beth y mae’r gair yn wir mai un sy’n heu ac arall yn medi.
38
Gyrrais i chwi i fedi’r hyn nid ydych wedi llafurio wrtho; eraill sydd wedi llafurio ac aethoch chwithau i mewn i’w llafur hwynt.”
39
Ac o’r dref honno credodd llawer o’r Samariaid ynddo oherwydd gair y wraig yn tystio, “Dywedodd wrthyf bopeth a wneuthum.”
40
Felly pan ddaeth y Samariaid ato, erfynient arno aros gyda hwy; ac arhosodd yno ddeuddydd.
41
A chredodd mwy o lawer oherwydd ei ymadrodd ef ei hun,
42
a dywedasant wrth y wraig: “Nid o achos dy siarad di yr ydym yn credu bellach, canys clywsom ein hunain, a gwyddom mai hwn mewn gwirionedd yw gwaredwr y byd.”
43
Ac ar ôl y ddeuddydd, aeth allan oddiyno i Galilea,
44
oherwydd tystiodd Iesu ei hunan nad oes anrhydedd i broffwyd yn ei wlad ei hun.
45
Felly pan ddaeth i Galilea, derbyniodd y Galileaid ef ar ôl gweled popeth a wnaeth yng Nghaersalem ar yr ŵyl, oherwydd aethent hwythau hefyd i’r ŵyl.
46
Felly daeth yn ôl i Gana Galilea, lle y gwnaethai’r dwfr yn win. Ac yr oedd rhyw swyddog llys, a chanddo fab yn glaf, yng Nghapernaum.
47
Clywodd hwnnw fod Iesu wedi dyfod o Iwdea i Galilea, a daeth ato ac erfyniodd arno ddyfod i lawr ac iacháu ’i fab, gan ei fod ar farw.
48
Felly dywedodd yr Iesu wrtho: “Oni welwch arwyddion a rhyfeddodau, ni chredwch o gwbl.”
49
Medd y swyddog wrtho: “Syr, tyred i lawr cyn marw fy machgen bach.”
50
Medd yr Iesu wrtho: “Dos, y mae dy fab yn fyw.” Credodd y dyn y gair a ddywedodd yr Iesu, a chychwynnodd.
51
Ag yntau eisoes ar ei ffordd i lawr, daeth ei weision i’w gyfarfod a dywedyd bod ei fachgen yn byw.
52
Felly holodd hwynt am yr awr pan droes ar wella, ac meddent hwythau wrtho: “Doe ar y seithfed awr y gadawodd y dwymyn ef.”
53
Felly gwybu’r tad mai dyna’r awr y dywedodd yr Iesu wrtho, “Y mae dy fab yn fyw.” A chredodd ef a’i dylwyth i gyd.
54
Hwn eto yn ail arwydd a wnaeth yr Iesu ar ôl dyfod o Iwdea i Galilea.
← Chapter 3
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 5 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21