bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
/
John 13
John 13
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
← Chapter 12
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 14 →
1
A chyn gŵyl y Pasg, gwyddai’r Iesu fod ei adeg ef wedi dyfod i ymadael â’r byd hwn at ei dad; yr oedd wedi caru ei bobl ei hun yn y byd, a charodd hwy hyd y diwedd.
2
Ac ar swper, — a’r diafol eisoes wedi bwrw yng nghalon Iwdas fab Simon o Gerioth i’w fradychu ef, —
3
gan ei fod yn gwybod bod y tad wedi rhoddi popeth yn ei ddwylo, a’i fod wedi dyfod oddiwrth Dduw ac yn myned at Dduw,
4
y mae’n codi oddiwrth swper ac yn diosg ei ddillad, ac wedi cymryd tywel, yn ei ddodi am ei ganol.
5
Yna y mae’n tywallt dwfr i’r cawg, a dechreuodd olchi traed y disgyblion a’u sychu â’r tywel a ddodasai am ei ganol.
6
Felly y mae’n dyfod at Simon Pedr. Dywed yntau wrtho: “Arglwydd, tydi ’n golchi fy nhraed i?”
7
Atebodd Iesu a dywedodd wrtho: “Yr hyn yr wyf i yn ei wneuthur, ni wyddost yn awr, ond cei wybod ar ôl hyn.”
8
Medd Pedr wrtho: “Ni chei olchi fy nhraed i yn dragywydd.” Atebodd Iesu iddo: “Oni’th olchaf di, nid oes gennyt ran gyda mi.”
9
Medd Simon Pedr wrtho: “Arglwydd, nid fy nhraed yn unig ond fy nwylo hefyd a’m pen.”
10
Medd Iesu wrtho: “Yr hwn sydd wedi ymolchi drosto, nid oes angen golchi dim ond y traed arno, ond y mae’n lân i gyd: ac yr ydych chwi’n lân, ond nid pawb”;
11
canys yr oedd ei fradychwr yn wybyddus iddo; am hyn y dywedodd: “Nid ydych bawb yn lân.”
12
Yna ar ôl golchi eu traed a chymryd ei ddillad a myned at y bwrdd drachefn, dywedodd wrthynt: “A wyddoch chwi beth a wneuthum i chwi?
13
Yr ydych chwi yn fy ngalw yn ‘Athro’ ac ‘Arglwydd,’ a da y dywedwch; dyna ydwyf.
14
Felly os golchais i, yr Arglwydd a’r Athro, eich traed chwi, dylech chwithau hefyd olchi traed eich gilydd,
15
canys esiampl a roddais i chwi er mwyn i chwithau hefyd wneuthur fel y gwneuthum i â chwi.
16
Ar fy ngwir, meddaf i chwi, nid yw’r gwas yn fwy na’i feistr, ac nid yw’r negesydd yn fwy na’r hwn a’i hanfonodd.
17
Os gwyddoch y pethau hyn, gwyn eich byd os gwnewch hwy.
18
Nid am bawb ohonoch yr wyf yn dywedyd, — mi wn i pwy a ddewisais, — ond er mwyn cyflawni’r ysgrythur: Yr hwn sy’n bwyta fy mara a gyfododd ei sawdl i’m herbyn.
19
Yr wyf yn dywedyd yn awr cyn ei ddigwydd, er mwyn i chwi gredu, pan ddigwyddo, mai myfi yw.
20
Ar fy ngwir, meddaf i chwi, y mae’r neb sy’n derbyn unrhyw un a anfonwyf yn fy nerbyn i, a’r hwn sy’n fy nerbyn i yn derbyn yr hwn a’m hanfonodd i.”
21
Wedi dywedyd hyn, cynhyrfwyd yr Iesu yn ei ysbryd, a thystiodd a dywedodd: “Ar fy ngwir, meddaf i chwi, y mae un ohonoch am fy mradychu i.”
22
A dyma’r disgyblion yn edrych ar ei gilydd, yn methu deall am bwy y soniai.
23
Yr oedd wrth y bwrdd un o’i ddisgyblion â’i bwys ar fynwes yr Iesu, yr hwn yr oedd yr Iesu’n ei garu.
24
Felly y mae Simon Pedr yn amneidio ar hwnnw ac yn dywedyd wrtho: “Dywed am bwy y mae’n sôn.”
25
Ac y mae yntau, wedi rhyw bwyso’n ôl ar fron yr Iesu, yn dywedyd wrtho: “Arglwydd, pwy yw?”
26
Y mae’r Iesu’n ateb: “Hwnnw ydyw y byddaf i yn mwydo’r tamaid ac yn ei roddi iddo.” Felly cymer y tamaid, ar ôl ei fwydo, a dyry ef i Iwdas fab Simon o Gerioth.
27
Ac ar ôl y tamaid, yna aeth Satan i mewn iddo. Medd yr Iesu felly wrtho: “Y gwaith sydd gennyt, gwna ar frys.”
28
Ond ni wyddai neb o’r rhai oedd wrth y bwrdd mo hyn, — i ba amcan y dywedodd ef wrtho,
29
canys tybiai rhai, gan mai gan Iwdas yr oedd y blwch, fod Iesu yn dywedyd wrtho: “Pryn yr hyn y mae arnom ei eisiau at yr ŵyl,” neu am iddo roi rhywbeth i’r tlodion.
30
Felly cymerth yntau’r tamaid, ac aeth allan yn y fan. Ac yr oedd hi’n nos.
31
Felly, ar ôl iddo fyned allan, medd Iesu: “Yn awr y gogoneddwyd mab y dyn, ac y gogoneddwyd Duw ynddo ef.
32
Os Duw a ogoneddwyd ynddo, Duw hefyd a’i gogonedda ef ynddo’i hun, ac fe’i gogonedda ar unwaith.
33
Blant bach, ychydig eto y byddaf gyda chwi. Chwi a’m ceisiwch, ac fel y dywedais wrth yr Iddewon, ‘y lle yr wyf i yn myned, ni ellwch chwi ddyfod,’ yn awr yr wyf yn dywedyd wrthych chwithau.
34
Gorchymyn newydd yr wyf yn ei roddi i chwi, i chwi garu eich gilydd; fel y cerais i chwi, i chwithau garu eich gilydd.
35
Wrth hyn, gwybydd pawb mai disgyblion i mi ydych, os bydd gennych gariad at eich gilydd.”
36
Medd Simon Pedr wrtho: “Arglwydd, i ba le yr wyt ti’n myned?” Atebodd Iesu: “Y lle yr wyf i’n myned ni elli di fy nilyn yn awr, ond dilyni fi maes o law.”
37
Medd Pedr wrtho: “Paham na allaf i dy ddilyn di yn awr? Mi a roddaf fy mywyd trosot.”
38
Y mae Iesu’n ateb: “Tydi am roddi dy fywyd trosof? Ar fy ngwir, meddaf i ti, ni chân y ceiliog cyn iti fy ngwadu deirgwaith.”
← Chapter 12
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 14 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21