bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
/
John 19
John 19
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
← Chapter 18
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 20 →
1
Yna, felly, cymerth Pilat yr Iesu, a chwipiodd ef.
2
A phlethodd y milwyr ddrain yn goron, a dodasant hi ar ei ben, a rhoddasant amdano wisg borffor,
3
a myned ato a dywedyd: “Henffych well, Frenin yr Iddewon,” a rhoddi cernodiau iddo.
4
Ac aeth Pilat allan wedyn, ac medd ef wrthynt: “Dyma fi’n dyfod ag ef allan i chwi, er mwyn i chwi wybod nad wyf i yn cael dim achos yn ei erbyn.”
5
Felly daeth yr Iesu allan yn gwisgo’r goron ddrain a’r wisg borffor. Ac medd ef wrthynt: “Dyma fo.”
6
Felly, pan welodd y prif offeiriaid a’r swyddogion ef, gwaeddasant gan ddywedyd: “Croeshoelia, croeshoelia.” Medd Pilat wrthynt: “Cymerwch ef eich hunain, a chroeshoeliwch, oherwydd nid wyf i yn cael achos yn ei erbyn.”
7
Atebodd yr Iddewon iddo: “Y mae gennym ni gyfraith, ac yn ôl y gyfraith, dylai farw, am iddo ei wneuthur ei hunan yn fab Duw.”
8
Felly, pan glywodd Pilat y gair hwn, daeth arno fwy o ofn,
9
ac aeth yn ei ôl i’r Plas, ac medd ef wrth yr Iesu: “O ba le yr wyt ti?” Ond ateb ni roddes yr Iesu iddo.
10
Felly, medd Pilat wrtho: “Oni ddywedi di wrthyf? Oni wyddost fod gennyf hawl i’th ryddhau, a bod gennyf hawl i’th groeshoelio?”
11
Atebodd Iesu: “Ni buasai gennyt ddim hawl arnaf i, heb fod hynny wedi ei roddi i ti oddiuchod. Am hyn, yr hwn a’m rhoes yn dy ddwylo, y mae mwy pechod arno.”
12
O hyn allan, ceisiai Pilat ei ryddhau ef, ond gwaeddodd yr Iddewon gan ddywedyd: “Os rhyddhei hwn, nid wyt ti’n bleidiol i Gesar; y mae pob un sy’n ei wneuthur ei hun yn frenin yn erbyn Cesar.”
13
Felly, pan glywodd Pilat y geiriau hyn, aeth â’r Iesu allan, ac eisteddodd ar fainc yn y lle a elwir y Palmant, yn Hebraeg, Gabbatha.
14
A noswyl y Pasg ydoedd hi, a thua’r wythfed awr. Ac medd ef wrth yr Iddewon: “Dyma’ch brenin.”
15
Felly gwaeddasant hwy: “Ymaith, ymaith ag ef; croeshoelia ef.” Medd Pilat wrthynt: “A wyf i groeshoelio eich brenin?” Atebodd y prif offeiriaid: “Nid oes gennym frenin ond Cesar.”
16
Yna, felly, traddododd yntau’r Iesu iddynt, i’w groeshoelio. Felly cymerasant yr Iesu.
17
Ac aeth allan gan gario’i groes ei hunan, i’r fan a elwir Lle’r Benglog (a elwir Golgotha yn Hebraeg),
18
lle y croeshoeliasant ef, a chydag ef ddau arall, un o boptu, a’r Iesu yn y canol.
19
Ac ysgrifennodd Pilat hysbysiad, a gosododd ef ar y groes, a’r ysgrifen oedd, Iesu o Nasareth, Brenin yr Iddewon.
20
Felly darllenodd llawer o’r Iddewon yr hysbysiad hwn, am fod y fan lle y croeshoeliwyd yr Iesu yn agos i’r ddinas; ac yr oedd wedi ei ysgrifennu yn Hebraeg, yn Lladin, yn Roeg.
21
Felly dywedodd prif offeiriaid yr Iddewon wrth Bilat: “Nac ysgrifenna ‘Brenin yr Iddewon,’ ” ond “Dywedodd hwn, ‘Brenin yr Iddewon ydwyf.’ ”
22
Atebodd Pilat: “Yr hyn a ysgrifennais, a ysgrifennais.”
23
Yna wedi croeshoelio’r Iesu, cymerth y milwyr ei ddillad, a gwnaethant bedair rhan, — rhan i bob milwr, — ynghyd â’r crys, ac yr oedd y crys yn ddiwnïad, wedi ei weu drwyddo oll o’r cwr uchaf.
24
Felly meddent hwy wrth ei gilydd: “Na rwygwn ef, ond bwrw coelbren arno pwy a’i caiff”; fel y cyflawnid yr adnod, Rhanasant fy nillad rhyngddynt, ac ar fy ngwisg bwriasant goelbren; a hyn felly a wnaeth y milwyr.
25
Ac yr oedd yn sefyll wrth groes yr Iesu, ei fam, a chwaer ei fam, Mair Clopas, a Mair o Fagdala.
26
A phan welodd Iesu ei fam a’r disgybl a garai yn sefyll yn agos, medd ef wrth ei fam: “Mam, dyma dy fab.”
27
Yna medd ef wrth y disgybl: “Dyma dy fam.” Ac o hynny allan, cymerth y disgybl hi i’w gartref ei hun.
28
Ar ôl hynny, dywedodd yr Iesu, ac yntau’n gwybod bod popeth bellach wedi dyfod i’r pen (fel y cyflawnid yr ysgrythur): “Y mae syched arnaf.”
29
Yr oedd llestr wrth law yn llawn o finegr; felly dodasant yspwng yn llawn o finegr ar flaen picell, a chyfodasant ef at ei enau.
30
Felly pan gafodd yr Iesu y finegr, dywedodd: “Dyma’r diwedd,” ac wedi plygu ei ben, rhoddodd i fyny ei ysbryd.
31
Felly, gan ei bod yn noswyl y Sabath, rhag i’r cyrff aros ar y groes ar y Sabath (canys y dydd Sabath mawr oedd hwnnw), gofynnodd yr Iddewon gan Bilat gael torri eu coesau hwynt a’u tynnu i lawr.
32
Felly daeth y milwyr a thorasant goesau’r cyntaf ac yna’r ail a groeshoeliasid gydag ef.
33
Ond pan ddaethant at yr Iesu, gan eu bod yn gweled ei fod eisoes wedi marw, ni thorasant ei goesau ef,
34
ond gwanodd un o’r milwyr ei ochr â gwaywffon, ac ar unwaith daeth allan waed a dwfr.
35
Ac y mae’r un a’i gwelodd wedi tystio, a gwir yw ei dystiolaeth ef, a gŵyr hwnnw ei fod yn dywedyd y gwir, er mwyn i chwithau hefyd gredu.
36
Canys bu hynny fel y cyflawnid yr adnod: Asgwrn ohono ni ddryllir.
37
Ac y mae adnod arall eto yn dywedyd: Edrychant ar yr hwn a drywanasant.
38
Ond ar ôl hyn, gofynnodd Ioseff o Arimathea (ag yntau’n ddisgybl i’r Iesu, ond yn ddirgel rhag ofn yr Iddewon) gan Bilat a gâi gymryd ymaith gorff yr Iesu. A chaniataodd Pilat. Felly daeth a chymerth ymaith ei gorff ef.
39
A daeth Nicodemus hefyd (a ddaethai ato y tro cyntaf yn y nos) a chanddo gymysgedd o fyrr ac aloes, tua chan pwys.
40
Felly cymerasant gorff yr Iesu a rhwymasant ef â llieiniau gyda’r perlysiau, fel y mae’n arfer gan yr Iddewon at gladdu.
41
Ac yr oedd gardd yn y lle y croeshoeliwyd ef, ac yn yr ardd fedd newydd na ddodasid neb ynddo hyd hynny.
42
Yno, felly, o achos noswyl yr Iddewon, gan fod y bedd yn agos, y dodasant yr Iesu.
← Chapter 18
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 20 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21