bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
/
John 20
John 20
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
← Chapter 19
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 21 →
1
Ac ar ddydd cyntaf yr wythnos, y mae Mair o Fagdala yn y bore bach, a hi eto’n dywyll, yn dyfod at y bedd, ac y mae’n gweled y garreg wedi ei symud oddiar y bedd.
2
Felly, y mae’n rhedeg ac yn dyfod at Simon Pedr ac at y disgybl arall yr oedd yr Iesu yn ei garu, ac yn dywedyd wrthynt: “Y maent wedi myned â’r Arglwydd o’r bedd, ac ni wyddom ym mha le y maent wedi ei ddodi.”
3
Felly aeth Pedr a’r disgybl arall allan, a chychwyn at y bedd.
4
Ac yr oedd y ddau’n rhedeg gyda’i gilydd, ond rhedodd y disgybl arall yn gynt na Phedr o’i flaen, a daeth yn gyntaf at y bedd,
5
ac wedi gwyro, y mae’n gweled y llieiniau ar lawr, ond eto nid aeth i mewn.
6
Felly daw Simon Pedr yn ei ddilyn, ac aeth i mewn i’r bedd; ac y mae’n gweled y llieiniau ar lawr,
7
a’r ffunen oedd ar ei ben, nid ar lawr gyda’r llieiniau, ond yn ei phlyg ar wahân yn ei lle.
8
Yna aeth y disgybl arall hefyd i mewn, a ddaethai’n gyntaf at y bedd, a gwelodd a chredodd;
9
canys nid oeddynt yn deall eto yr Ysgrythur, ei bod yn rhaid iddo atgyfodi oddiwrth y meirw.
10
Felly aeth y disgyblion yn ôl tua thref.
11
Ond safai Mair wrth y bedd, y tu allan, yn wylo. Yn awr, fel yr oedd yn wylo, gŵyrodd i’r bedd,
12
ac y mae’n gweled dau angel wedi eu gwisgo mewn gwyn yn eistedd, un wrth y pen a’r llall wrth y traed, yn y lle y buasai corff yr Iesu yn gorwedd.
13
A dywed y rhain wrthi: “Ferch, paham yr wyt ti’n wylo?” Medd hithau wrthynt: “Am eu bod wedi myned â’m Harglwydd ymaith, ac ni wn ym mha le y maent wedi ei ddodi ef.”
14
Wedi dywedyd hyn, troes yn ei hôl, ac y mae’n gweled yr Iesu’n sefyll, ac ni wyddai mai Iesu oedd.
15
Medd Iesu wrthi: “Ferch, paham yr wyt ti’n wylo? Pwy a geisi?” A chan feddwl mai ceidwad yr ardd ydoedd, medd hithau wrtho: “Syr, os ti a’i dug, dywed i mi ym mha le y dodaist ef, ac af innau ag ef ymaith.”
16
Medd Iesu wrthi: “Mair.” Troes hithau, ac medd hi wrtho yn Hebraeg, “Rabboni” (hynny yw, Athro).
17
Medd Iesu wrthi: “Paid â chyffwrdd â mi; nid wyf i eto wedi myned i fyny at fy nhad, ond dos at fy mrodyr a dywed hyn wrthynt: ‘Yr wyf i yn myned i fyny at fy nhad i a’ch tad chwithau, a’m Duw i a’ch Duw chwithau.’ ”
18
Y mae Mair o Fagdala yn dyfod ac yn mynegi i’r disgyblion: “Yr wyf wedi gweled yr Arglwydd,” ac iddo ddywedyd felly wrthi.
19
A phan oedd hi’n hwyr y dydd cyntaf hwnnw o’r wythnos, a’r drysau wedi eu cau, lle yr oedd y disgyblion, rhag ofn yr Iddewon, daeth yr Iesu a safodd yn y canol, ac medd ef wrthynt: “Tangnefedd i chwi.”
20
Ac wedi dywedyd hyn, dangosodd ei ddwylo a’i ochr iddynt; felly llawenhaodd y disgyblion wedi gweled yr Arglwydd.
21
A dywedodd yr Iesu wrthynt wedyn: “Tangnefedd i chwi; fel yr anfonodd y tad fi, yr wyf innau yn eich anfon chwithau.”
22
Ac wedi dywedyd hyn, anadlodd arnynt a dywedodd wrthynt: “Derbyniwch ysbryd santaidd.
23
Pwy bynnag y maddeuoch chwi eu pechodau, y maent wedi eu maddeu iddynt, a phwy bynnag y rhwymoch eu pechodau arnynt, y maent wedi eu rhwymo.”
24
Ond nid oedd Thomas (a elwid yn Efell), un o’r deuddeg, gyda hwynt pan ddaeth Iesu.
25
Felly dywedodd y disgyblion eraill wrtho: “Yr ydym ni wedi gweled yr Arglwydd.” Ond medd yntau wrthynt: “Oni welaf yn ei ddwylo dwll yr hoelion, a rhoddi fy mys yn lle yr hoelion, a rhoddi fy llaw yn ei ochr, ni chredaf i byth.”
26
Ac wedi wyth niwrnod, yr oedd ei ddisgyblion wedyn yn y tŷ, a Thomas gyda hwy. Y mae’r Iesu yn dyfod, a’r drysau wedi eu cau, a safodd yn y canol a dywedodd: “Tangnefedd i chwi.”
27
Yna dywed wrth Domas: “Tyred â’th fys yma, a gwêl fy nwylo, a thyred â’th law a dyro hi yn fy ochr, ac na bydd anghredwr, ond credwr.”
28
Atebodd Thomas a dywedodd wrtho: “Fy Arglwydd a’m Duw.”
29
Dywed yr Iesu wrtho: “Ai am dy fod wedi fy ngweled i, yr wyt wedi credu? Gwyn eu byd a gredodd a heb weled.”
30
A gwnaeth yr Iesu yn wir lawer o arwyddion eraill hefyd yng ngŵydd y disgyblion, nad ydynt wedi eu hysgrifennu yn y llyfr hwn;
31
ond y mae’r rhai hyn wedi eu hysgrifennu er mwyn i chwi gredu mai Iesu ydyw’r Eneiniog, mab Duw, ac er mwyn i chwi, drwy gredu, gael bywyd yn ei enw.
← Chapter 19
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 21 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21