bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
/
John 12
John 12
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
← Chapter 11
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 13 →
1
Chwe diwrnod cyn y Pasg, daeth yr Iesu i Fethania, lle yr oedd Lasarus a gyfodasai Iesu o feirw.
2
Am hynny gwnaethant swper iddo yno, ac yr oedd Martha yn gweini, ac yr oedd Lasarus yn un o’r rhai a oedd wrth y bwrdd gydag ef.
3
A chymerth Mair bwys o ennaint nard pur costus, ac eneiniodd draed yr Iesu, a sychodd ei draed ef â’i gwallt. A llanwyd y tŷ ag aroglau’r ennaint,
4
ac medd Iwdas o Gerioth, un o’i ddisgyblion, — ei fradychwr wedi hynny
5
— “Pam na werthwyd yr ennaint hwn am dri chan swllt a’i roddi i dlodion?”
6
Dywedodd hyn, nid am ei fod yn malio am y tlodion, ond am mai lleidr oedd, a chanddo’r blwch ac yn dwyn yr hyn a fwrrid iddo.
7
Medd yr Iesu felly: “Gad iddi hi gadw hyn ar gyfer dydd fy nghladdu.
8
Y tlodion sydd gennych gyda chwi bob amser, ond myfi, nid wyf i gennych bob amser.”
9
Felly gwybu tyrfa fawr o’r Iddewon ei fod yno, a daethant, nid o achos yr Iesu yn unig, ond i weled Lasarus hefyd, a gyfodasai ef o feirw.
10
Cynlluniodd y prif offeiriaid i ladd Lasarus hefyd,
11
am fod llawer o’r Iddewon yn ymadael o’i achos, ac yn credu yn yr Iesu.
12
Trannoeth, wedi clywed bod yr Iesu yn dyfod i
13
Gaersalem, cymerth y dyrfa fawr, a oedd wedi dyfod i’r ŵyl, gangau’r palmwydd, ac aethant allan i gyfarfod ag ef, a gweiddi: “Hosanna, Bendigedig yr hwn sy’n dyfod yn enw yr Arglwydd,a brenin yr Israel.”
14
A chafodd yr Iesu asyn bach, ac eisteddodd arno fel y mae’r adnod:
15
Nac ofna, ferch Seion; Gwêl, y mae dy Frenin yn dyfod yn eistedd ar ebol asyn.
16
Ni ddeallodd ei ddisgyblion ef hyn ar y cyntaf, ond pan ogoneddwyd Iesu, yna cofiasant fod hyn wedi ei ysgrifennu amdano, a’u bod wedi gwneuthur hyn iddo.
17
Felly tystiai’r dyrfa a oedd gydag ef pan alwodd ef Lasarus o’r bedd a’i gyfodi o feirw.
18
Am hyn hefyd y daeth y dyrfa i gyfarfod ag ef, am iddynt glywed ei fod wedi gwneuthur yr arwydd hwn.
19
Felly meddai’r Phariseaid wrth ei gilydd: “Gwelwch nad ydych yn tycio dim; dyma’r byd wedi myned ymaith ar ei ôl.”
20
Ac yr oedd rhai Groegiaid ymhlith y rhai a oedd yn myned i fyny i addoli yn yr ŵyl.
21
Daeth y rhain at Phylip a oedd o Fethsaida yng Ngalilea, a gofynasant iddo gan ddywedyd: “Syr, yr ydym yn dymuno gweled yr Iesu.”
22
Y mae Phylip yn dyfod ac yn dywedyd wrth Andreas; daw Andreas a Phylip a dywedyd wrth yr Iesu.
23
Ac y mae’r Iesu yn eu hateb gan ddywedyd: “Y mae’r awr wedi dyfod i fab y dyn gael ei ogoneddu.
24
Ar fy ngwir, meddaf i chwi, oni syrth y gronyn ŷd i’r ddaear a marw, fe erys hwnnw’n unig. Ond os bydd marw, y mae’n dwyn ffrwyth lawer.
25
Yr hwn sy’n caru ei enaid ei hun, fe’i cyll ef, a’r hwn sy’n cashau ei enaid yn y byd hwn, fe’i ceidw i fywyd tragwyddol.
26
Os gwasanaetha neb fi, dilyned fi, a lle yr wyf i, yno y bydd fy ngwasanaethwr hefyd. Os gwasanaetha neb fi, anrhydedda’r tad ef.
27
Yn awr y mae f’enaid wedi ei gynhyrfu, a beth a ddywedaf? Dad, gwared fi o’r awr hon, ond er mwyn hyn y deuthum i’r awr hon.
28
Dad, gogonedda dy enw.” A daeth gan hynny lais o’r nef: “Yr wyf wedi ei ogoneddu, a gogoneddaf eto.”
29
Felly dywedodd y dyrfa, a oedd yn sefyll ac yn clywed, ei bod wedi taranu. Meddai eraill: “Angel a siaradodd wrtho.”
30
Atebodd Iesu a dywedodd: “Nid o’m hachos i y daeth y llais hwn, ond o’ch achos chwi.
31
Yn awr y mae barn y byd hwn; yn awr y bwrrir allan bennaeth y byd hwn.
32
A minnau, os dyrchefir fi o’r ddaear, a dynnaf bawb ataf fy hun.”
33
Hyn a ddywedodd i arwyddo drwy ba angeu y byddai farw.
34
Felly atebodd y dyrfa iddo: “Clywsom ni o’r gyfraith fod yr Eneiniog yn aros yn dragywydd, a sut yr wyt ti yn dywedyd bod yn rhaid i fab y dyn gael ei ddyrchafu? Pwy ydyw’r ‘mab y dyn’ hwn?”
35
Meddai’r Iesu wrthynt felly: “Ychydig amser eto y mae’r goleuni gyda chwi. Rhodiwch tra fo’r goleuni gennych, rhag i’r tywyllwch eich gorddiwes: ac ni ŵyr yr hwn sy’n rhodio yn y tywyllwch i ba le y mae’n myned.
36
Tra fo’r goleuni gennych, credwch yn y goleuni, er mwyn i chwi ddyfod yn feibion goleuni.” Hyn a ddywedodd Iesu, ac wedi myned ymaith, diflannodd o’u canol.
37
Ond er iddo wneuthur cymaint o arwyddion ger eu bron, ni chredent ynddo,
38
fel y cyflawnid gair y proffwyd Eseia, a ddywedodd: Arglwydd, pwy a gredodd i’r hyn a glybuwyd gennym? a braich yr Arglwydd, i bwy y datguddiwyd hi?
39
Am hyn, ni allent gredu, gan fod Eseia wedi dywedyd wedyn:
40
Y mae wedi dallu eu llygaid, a chaledu eu calon, fel na welont â’u llygaid a deall â’u calon a dychwelyd, a minnau a’u hiachaf hwynt.
41
Hyn a ddywedodd Eseia am iddo weled ei ogoniant ef, a soniodd amdano.
42
Ac yn wir, ar waethaf popeth, credodd llawer hyd yn oed o’r penaethiaid ynddo, ond oherwydd y Phariseaid, ni chyfaddefent rhag eu torri allan o’r synagog,
43
canys yr oeddynt yn caru clod gan ddynion yn fwy na chlod gan Dduw.
44
A gwaeddodd yr Iesu a dywedodd: “Y neb sy’n credu ynof i, nid ynof i y mae’n credu ond yn yr hwn a’m hanfonodd i;
45
a’r neb sy’n fy ngweled i, sy’n gweled yr hwn a’m hanfonodd i.
46
Yn oleuni yr wyf i wedi dyfod i’r byd, fel nad arhoso neb sy’n credu ynof i yn y tywyllwch.
47
Ac os clyw neb fy ngeiriau i ac nis ceidw hwynt, nid wyf i’n ei farnu, canys ni ddeuthum i farnu’r byd ond i achub y byd.
48
Yr hwn sy’n fy nibrisio i a heb dderbyn fy ngeiriau i, y mae ganddo un sydd yn ei farnu. Y gair a ddywedais, hwnnw a’i barn yn y dydd diwethaf;
49
am nad ohonof fy hun y lleferais, ond yr hwn a’m hanfonodd i, y tad, hwnnw a roes siars arnaf beth a ddywedwyf a beth a lefarwyf.
50
A gwn fod ei siars ef yn fywyd tragwyddol. Yr hyn felly a lefaraf yn awr, fel y dywedodd y tad wrthyf, felly y llefaraf.”
← Chapter 11
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 13 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21