bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
/
John 21
John 21
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
← Chapter 20
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
1
Ar ôl hyn, fe’i dangosodd Iesu ei hun drachefn i’r disgyblion, ar fôr Tiberias, ac a fel hyn y’i dangosodd ei hun.
2
Yr oeddynt ynghŷd — Simon Pedr a Thomas a elwir Gefell, a Nathanael o Gana Galilea, a meibion Sebedeus, a dau arall o’i ddisgyblion.
3
Medd Simon Pedr wrthynt: “Yr wyf yn myned i bysgota.” Meddant hwy wrtho: “Yr ydym ninnau yn dyfod gyda thi.” Aethant allan a myned i mewn i’r llong, a’r nos honno ni ddaliasant ddim.
4
Ond â hi’n awr yn dyddio, safodd Iesu ar y lan, ond eto, ni wyddai’r disgyblion mai Iesu oedd.
5
Medd Iesu wrthynt: “Fechgyn, onid oes gennych ddim i’w fwyta?” Atebasant iddo: “Nac oes.”
6
Ac medd yntau wrthynt: “Bwriwch y rhwyd ar ochr ddeheu’r llong, a chwi gewch.” Felly bwriasant, ac nid oedd ganddynt nerth i’w thynnu gan nifer y pysgod.
7
Felly dywed y disgybl a garai’r Iesu wrth Bedr: “Yr Arglwydd yw.” Felly, pan glywodd Simon Pedr mai’r Arglwydd oedd, gwregysodd ei wisg uchaf amdano (canys yn ei grys yr oedd), ac ymdaflodd i’r môr,
8
ond daeth y disgyblion eraill yn y llong (oherwydd nid oeddynt ymhell o’r lan, dim ond rhyw ddeucan cufydd) gan lusgo’r rhwyd o bysgod.
9
Ac wedi dyfod i’r lan, y maent yn gweled tân glo ar y ddaear, a phryd o bysgod arno a bara.
10
Medd yr Iesu wrthynt: “Dewch â rhai o’r pysgod a ddaliasoch gynneu.”
11
Aeth Simon i’r llong, a thynnodd y rhwyd i’r lan yn llawn o bysgod mawr, cant a thri ar ddeg a deugain ohonynt, ac er cynifer oeddynt, ni rwygodd y rhwyd.
12
Medd yr Iesu wrthynt: “Dewch at eich brecwast.” Ni feiddiodd yr un o’r disgyblion ofyn iddo “Pwy wyt ti?” a hwythau’n gwybod mai’r Arglwydd ydoedd.
13
A dyma’r Iesu’n dyfod ac yn cymryd y bara ac yn ei roddi iddynt, a’r pysgod yr un modd.
14
Hwn oedd y trydydd tro i Iesu ymddangos i’r disgyblion wedi cyfodi o feirw.
15
Felly ar ôl iddynt gael eu brecwast, medd yr Iesu wrth Simon Pedr: “Simon fab Ioan, a wyt ti’n fy ngharu i yn fwy na’r rhain?” Medd ef wrtho: “Ydwyf, Arglwydd. Ti wyddost fy mod yn dy garu di.” Medd ef wrtho: “Portha fy ŵyn i.”
16
Medd ef wrtho eilwaith drachefn: “Simon fab Ioan, a wyt yn fy ngharu i?” Medd ef wrtho: “Ydwyf, Arglwydd, ti wyddost fy mod yn dy garu.” Medd ef wrtho: “Bydd yn fugail ar fy nefaid i.”
17
Medd ef wrtho y trydydd tro: “Simon fab Ioan, a wyt yn fy ngharu i?” Gofidiodd Pedr iddo ddywedyd wrtho y trydydd tro, “A wyt ti’n fy ngharu i?” ac medd ef wrtho: “Arglwydd, gwyddost ti bopeth, gwyddost ti fy mod yn dy garu di.” Medd Iesu wrtho: “Portha fy nefaid i.
18
Ar fy ngwir meddaf i ti, pan oeddit iau, ti a’th wregysit dy hun, a rhodit oddiamgylch i ba le bynnag y mynnit; ond pan ei ’n hen, estynni dy ddwylo, ac arall a’th wregysa di ac a’th ddwg i’r lle nis mynnych.”
19
Hyn a ddywedodd i arwyddocau â pha fath o farw y gogoneddai Dduw. Ac wedi dywedyd hyn, medd ef wrtho: “Canlyn fi.”
20
Ac y mae Pedr yn troi yn ei ôl ac yn gweled y disgybl yr oedd yr Iesu yn ei garu yn canlyn, (hwnnw hefyd a bwysodd yn ôl ar ei fron ef ar y swper, ac a ddywedodd: “Arglwydd, pwy ydyw dy fradychwr?”)
21
Felly pan welodd Pedr hwn, medd ef wrth yr Iesu: “Ond, Arglwydd, beth am hwn?”
22
Medd yr Iesu wrtho: “Os mynnai i iddo ef aros hyd oni ddelwyf, beth yw hynny iti? Canlyn di fi.”
23
Felly aeth y gair hwn allan ymysg y brodyr, na byddai i’r disgybl hwnnw farw. Ond ni ddywedodd yr Iesu wrtho: “Ni bydd farw,” ond “Os mynnaf iddo aros oni ddelwyf, beth yw hynny i ti?”
24
Hwn yw’r disgybl sydd yn tystio am y pethau hyn ac a ysgrifennodd y pethau hyn, a gwyddom mai gwir yw ei dystiolaeth ef.
25
Ond y mae llawer o bethau eraill a wnaeth yr Iesu, a phed ysgrifennid y rhain bob yn un, nid wyf yn tybio y cynwysai’r byd yn grwn y llyfrau a ysgrifennid.
← Chapter 20
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21