bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
/
John 5
John 5
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
← Chapter 4
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 6 →
1
Wedi hynny yr oedd gŵyl yr Iddewon, ac aeth Iesu i fyny i Gaersalem.
2
Ac y mae yng Nghaersalem, wrth y Ddefeidiog, lyn a’i enw Bethsatha yn Hebraeg, a phum porth iddo.
3
Yn y rhain gorweddai tyrfa o gleifion, yn ddeillion, cloffion, gwywedigion.
5
Ac yr oedd yno un wedi bod dan ei glefyd am ddeunaw mlynedd ar hugain.
6
Pan welodd yr Iesu hwn yn gorwedd, a gwybod ei fod felly ers talm bellach, dywed wrtho: “A fynni di ddyfod yn iach?”
7
Atebodd y claf iddo: “Syr, neb nid oes gennyf, pan gynhyrfer y dwfr, i’m bwrw i’r llyn, ond tra fwyf i’n dyfod, â rhywun arall i lawr o’m blaen i.”
8
Medd yr Iesu wrtho: “Saf, cyfod dy wely a cherdda.”
9
Ac ar unwaith aeth y dyn yn iach, a dyma ef yn codi ei wely ac yn cerdded. Ac yr oedd hi’n Sabath ar y dydd hwnnw:
10
am hynny dywedodd yr Iddewon wrth y dyn a iachasid: “Y mae hi’n Sabath, ac nid yw’n iawn iti godi’r gwely.”
11
Ond atebodd yntau iddynt: “Yr hwn a’m gwnaeth yn iach, hwnnw a ddywedodd wrthyf, ‘Cyfod dy wely a cherdda.’ ”
12
Gofynasant iddo: “Pwy ydyw’r hwn a ddywedodd wrthyt, ‘Cyfod a cherdda’?”
13
Ond ni wyddai’r hwn a iachasid pwy oedd, canys ciliasai’r Iesu gan fod tyrfa yn y lle.
14
Wedi hynny caiff yr Iesu ef yn y cysegr a dywedodd wrtho: “Dyma di wedi dy iacháu; paid â phechu mwyach rhag digwydd rhywbeth gwaeth iti.”
15
Aeth y dyn ymaith a dywedodd wrth yr Iddewon mai Iesu oedd yr hwn a’i gwnaeth yn iach.
16
Ac am hynny yr oedd yr Iddewon am erlid yr Iesu, am ei fod yn gwneuthur y pethau hyn ar y Sabath.
17
Atebodd yntau iddynt: “Y mae fy nhad i’n dal i weithio, ac yr wyf innau’n gweithio.”
18
Am hynny yr oedd yr Iddewon yn ceisio’n fwy ei ladd ef, am iddo nid yn unig dorri’r Sabath, ond hefyd alw Duw’n dad iddo’i hunan, a’i wneuthur ei hunan yn gyfartal â Duw.
19
Atebodd yr Iesu felly a dywedodd wrthynt: “Ar fy ngwir, meddaf i chwi, ni all y mab wneuthur dim ohono’i hunan, ond yr hyn a wêl y tad yn ei wneuthur. Canys y pethau a wnêl ef, dyna’r pethau a wna’r mab yn yr un modd.
20
Canys y mae’r tad yn caru’r mab ac yn dangos iddo bopeth a wna ei hunan, a gweithredoedd mwy na’r rhain a ddengys ef iddo nes synnu ohonoch:
21
oherwydd fel y mae’r tad yn atgyfodi’r meirw ac yn eu bywhau, felly y mae’r mab hefyd yn bywhau y rhai a fynn,
22
oherwydd nid yw’r tad yn barnu neb ond y mae wedi rhoddi pob barn i’r mab,
23
er mwyn i bawb anrhydeddu’r mab fel y maent yn anrhydeddu’r tad. Yr hwn nid yw’n anrhydeddu’r mab, nid yw’n anrhydeddu’r tad a’i hanfonodd ef.
24
Ar fy ngwir; meddaf i chwi, y neb sy’n gwrando ar fy ngair i ac yn credu i’r hwn a’m hanfonodd i, y mae ganddo, ef fywyd tragwyddol, ac i farn ni ddaw, ond y mae wedi croesi o farwolaeth i fywyd.
25
Ar fy ngwir, meddaf i chwi; y mae adeg yn dyfod ac yn awr y mae, pan glywo’r meirw lais mab Duw a bydd byw y rhai a’i clywodd.
26
Canys megis y mae gan y tad fywyd ynddo’i hunan, felly hefyd y rhoes i’r mab fod iddo fywyd ynddo’i hunan.
27
A hawl a roes iddo i wneuthur barn am ei fod yn fab dyn.
28
Na ryfeddwch at hyn, am fod adeg yn dyfod pan glyw pawb sydd yn eu beddau ei lais ef,
29
a dyfod allan, y rhai a wnaeth dda i atgyfodiad bywyd, y rhai a wnaeth ddrwg i atgyfodiad barn.
30
Ni allaf i wneuthur dim ohonof fy hunan; fel yr wyf yn clywed yr wyf yn barnu, ac y mae fy marn yn gyfiawn, am nad wyf yn ceisio fy ewyllys i ond ewyllys yr hwn a’m hanfonodd i.
31
Os tystiaf i amdanaf fy hun, nid gwir yw fy nhystiolaeth i.
32
Arall yw’r hwn sy’n tystio amdanaf i, a gwn mai gwir yw’r dystiolaeth a dystia ef amdanaf.
33
Danfonasoch chwi at Ioan, a thystiodd ef i’r gwirionedd.
34
Minnau, nid gan ddyn yr wyf yn derbyn tystiolaeth, ond fy mod yn dywedyd y pethau hyn fel y’ch cadwer chwi.
35
Hwnnw oedd y lamp yn llosgi ac yn goleuo, a chwithau fuoch foddlon i orfoleddu am ennyd yn ei oleu ef.
36
Ond gennyf i y mae tystiolaeth sydd fwy nag eiddo Ioan, canys y gweithredoedd a roes y tad imi i’w dwyn i ben, — y gweithredoedd hynny yr wyf yn eu gwneuthur, — sydd yn tystio amdanaf mai’r tad a’m hanfonodd.
37
A’r tad a’m hanfonodd, hwnnw sydd wedi tystio amdanaf. Ei lais ef nis clywsoch chwi erioed, a’i lun nis gwelsoch,
38
a’i air ef nid yw gennych yn aros ynoch, oherwydd yr hwn a anfonodd ef, ni chredwch ynddo.
39
Yr ydych yn chwilio’r ysgrythurau, am eich bod yn tybio cael ynddynt fywyd tragwyddol, a’r rheiny sydd yn tystio amdanaf i,
40
eto ni fynnwch ddyfod ataf i, i gael bywyd.
41
Clod gan ddynion nid wyf yn ei dderbyn,
42
ond adwaen chwi nad oes gennych gariad Duw ynoch.
43
Yr wyf i wedi dyfod yn enw fy nhad, ac nid ydych yn fy nerbyn; os daw arall yn ei enw ei hun, chwi dderbyniwch hwnnw.
44
Pa fodd y gellwch chwi gredu a chwithau’n derbyn clod y naill gan y llall a heb geisio’r clod a ddaw oddiwrth yr unig Dduw?
45
Na thybiwch y cyhuddaf i chwi ger bron y tad; y mae a’ch cyhudda chwi, Moesen, y gŵr yr ydych chwi wedi gobeithio ynddo.
46
Canys pe credech ym Moesen, credech ynof i, oherwydd amdanaf i yr ysgrifennodd hwnnw.
47
Eithr onid ydych yn credu yn ei ysgrifeniadau ef, pa fodd y credwch yn fy ngeiriau i?”
← Chapter 4
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 6 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21