bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
/
John 11
John 11
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
← Chapter 10
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 12 →
1
Ac yr oedd rhyw ddyn yn glaf, Lasarus o Fethania o dref Mair a Martha ei chwaer, —
2
Mair oedd honno a eneiniodd yr Arglwydd ag ennaint ac a sychodd ei draed â’i gwallt, a’i brawd hi Lasarus oedd yn glaf.
3
Felly anfonodd y chwiorydd ato a dywedyd: “Arglwydd, dyma’r hwn sydd hoff gennyt yn glaf.”
4
Wedi clywed, dywedodd yr Iesu: “Nid yw’r clefyd yma tuag at farwolaeth, ond er mwyn gogoniant Duw, fel y gogonedder mab Duw drwyddo.”
5
Ac yr oedd yr Iesu yn caru Martha a’i chwaer a Lasarus;
6
felly pan glywodd ei fod yn glaf, yna aros deuddydd a wnaeth yn y fan lle’r oedd.
7
Ond wedi hynny, medd wrth ei ddisgyblion: “Awn yn ôl i Iwdea.” Medd ei ddisgyblion wrtho:
8
“Rabbi, gynneu yr oedd pobl Iwdea yn ceisio dy labyddio, ac a wyt ti’n myned yn ôl yno?”
9
Atebodd Iesu: “Onid oes deuddeg awr yn y dydd?
10
Os rhodia neb yn y dydd, ni fagla am ei fod yn gweled goleuni’r byd hwn; ond os rhodia neb yn y nos, fe fagla, am nad yw’r goleuni ynddo.”
11
Dywedodd hyn, ac wedi hynny medd ef wrthynt: “Y mae Lasarus ein ffrind ni wedi huno, ond yr wyf i yn myned er mwyn ei ddihuno ef.”
12
Medd ei ddisgyblion wrtho felly: “Arglwydd, os ydyw wedi huno, fe wella”;
13
ond soniasasai’r Iesu am ei farw ef, ond tybiasant hwy mai am hun cwsg y soniai.
14
Felly dywedodd yr Iesu wrthynt wedyn yn eglur: “Y mae Lasarus wedi marw, ac y mae’n llawen gennyf nad oeddwn i yno,
15
er eich mwyn chwi, fel y credoch. Ond awn ato.”
16
Felly dywedodd Thomas (a elwir yn Efell) wrth ei gyd-ddisgyblion: “Awn ninnau hefyd i farw gydag ef.”
17
Felly ar ôl i’r Iesu ddyfod, cafodd ef wedi bod eisoes bedwar diwrnod yn ei fedd
18
— ac yr oedd Bethania yn ymyl Caersalem, tua phymtheg ystâd.
19
Ac yr oedd llawer o’r Iddewon wedi dyfod at Fartha a Mair, i’w cysuro hwy am eu brawd.
20
Aeth Martha, wedi clywed bod yr Iesu’n dyfod, i gyfarfod ag ef, ond yr oedd Mair yn eistedd yn y tŷ.
21
Ac meddai Martha wrth Iesu: “Arglwydd, pe buasit ti yma, ni buasai farw fy mrawd.
22
A gwn yn awr, pa beth bynnag a ofynnych gan Dduw, y dyry Duw ef i ti.”
23
Medd yr Iesu wrthi: “Fe atgyfyd dy frawd.”
24
Medd Martha wrtho: “Mi wn yr atgyfyd yn yr atgyfodiad yn y dydd diwethaf.”
25
Medd yr Iesu wrthi: “Myfi ydyw’r atgyfodiad a’r bywyd. Y neb sy’n credu ynof, bydd byw er iddo farw,
26
a phob un sy’n byw ac yn credu ynof i, ni bydd marw byth yn dragywydd.
27
A wyt ti’n credu hyn?” Medd hithau wrtho: “Ydwyf, Arglwydd, yr wyf wedi credu mai ti yw’r Eneiniog, mab Duw sydd yn dyfod i’r byd.”
28
Wedi dywedyd hyn, aeth ymaith a galwodd ei chwaer Mair yn ddistaw a dywedyd: “Y mae’r athro wedi dyfod, ac yn galw amdanat.”
29
A phan glywodd hithau hynny, y mae’n codi i fyny ar unwaith, a chychwynnodd tuag ato,
30
ond nid oedd yr Iesu wedi cyrraedd eto i’r dref, ond yr oedd eto yn y lle y cyfarfu Martha ag ef.
31
A phan welodd yr Iddewon a oedd gyda hi yn y tŷ ac yn ei chysuro, fod Mair wedi cyfodi yn sydyn a myned allan, dilynasant hi, gan dybio ei bod yn myned at y bedd i alaru yno.
32
A phan ddaeth Mair i’r lle yr oedd Iesu, wedi ei weled, syrthiodd wrth ei draed a dywedodd wrtho: “Arglwydd, pe buasit ti yma, ni buasai farw fy mrawd.”
33
Felly pan welodd yr Iesu hi’n galaru a’r Iddewon a ddaethai gyda hi yn galaru, ffromodd yn yr ysbryd ac ymgynhyrfodd,
34
a dywedodd: “Ym mha le yr ydych wedi ei ddodi ef?” Meddant hwy wrtho: “Syr, tyred a gwêl.”
35
Torrodd yr Iesu i wylo.
36
Meddai’r Iddewon felly: “Mor hoff oedd ohono!”
37
Ond meddai rhai ohonynt: “Oni allai hwn, agorwr llygaid y dall, wneuthur â hwn hefyd na byddai farw?”
38
Felly ffromodd yr Iesu drachefn ynddo’i hun, ac aeth at y bedd. Ac ogof oedd, a maen wedi ei osod arno.
39
Medd yr Iesu: “Symudwch y maen.” Medd Martha, chwaer y marw wrtho: “Arglwydd, y mae’n arogleuo erbyn hyn, oherwydd y mae hi’n bedwerydd dydd arno.”
40
Medd yr Iesu wrthi: “Oni ddywedais i wrthyt: ‘Os credi, cei weled gogoniant Duw’?”
41
Felly symudasant y maen, a chododd yr Iesu ei lygaid i fyny a dywedodd: “Dad, yr wyf yn diolch iti am i ti fy ngwrando;
42
mi wyddwn i dy fod bob amser yn fy ngwrando, ond oherwydd y dyrfa sydd yn sefyll o amgylch y dywedais, er mwyn iddynt gredu mai ti a’m hanfonodd.”
43
Ac ar ôl dywedyd hyn, gwaeddodd â llais uchel: “Lasarus, tyrd allan.”
44
Daeth y marw allan a’i draed a’i ddwylo wedi eu rhwymo mewn cadachau, ac yr oedd ei wyneb wedi ei rwymo â ffunen. Medd yr Iesu wrthynt: “Rhyddhewch ef, a gedwch iddo fyned.”
45
Felly credodd ynddo lawer o’r Iddewon a ddaethai at Fair ac a welsai’r hyn a wnaeth.
46
Ond aeth rhai ohonynt at y Phariseaid, a dywedasant wrthynt yr hyn a wnaeth Iesu.
47
Felly galwodd y prif offeiriaid a’r Phariseaid gyngor, a dywedasant: “Pa beth yr ydym ni yn ei wneuthur, gan fod y dyn hwn yn gwneuthur llawer o arwyddion?
48
Os gadwn iddo fel y mae, bydd pawb yn credu ynddo, a daw’r Rhufeiniaid a chymryd ein gwlad a’n cenedl hefyd.”
49
A dywedodd un ohonynt, Caiaffas, a oedd yn brif offeiriad y flwyddyn honno: “Ni wyddoch chwi ddim byd,
50
ac nid ydych yn ystyried ei bod yn ennill i chwi farw o un dyn dros y bobl yn lle dyfod dinistr ar yr holl genedl.”
51
Ond nid ohono’i hun y dywedodd ef hyn, ond ag yntau’n brif offeiriad y flwyddyn honno, proffwydodd y byddai i Iesu farw dros y genedl,
52
ac nid dros y genedl yn unig, ond er mwyn iddo gasglu yn un blant Duw a aethai ar wasgar.
53
Felly o’r dydd hwnnw allan cynlluniasant i’w ladd ef.
54
Gan hynny ni rodiai’r Iesu’n agored mwy ymhlith pobl Iwdea, ond aeth ymaith oddiyno i’r wlad yn ymyl yr anialwch i ddinas a elwir Effraim, ac yno yr arhosodd gyda’i ddisgyblion.
55
Ac yr oedd pasg yr Iddewon yn agos, ac aeth llaweroedd i fyny i Gaersalem o’r wlad, o flaen y pasg, er mwyn ymlanhau.
56
Felly aethant i chwilio am yr Iesu a dywedent wrth ei gilydd wrth sefyll yn y deml: “Beth a feddyliwch chwi? Na ddaw ef i’r ŵyl?”
57
Ac yr oedd y prif offeiriaid a’r Phariseaid wedi rhoddi gorchmynion os gwyddai rhywun lle yr oedd, i hysbysu hynny, er mwyn iddynt ei ddal.
← Chapter 10
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 12 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21