bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
/
John 6
John 6
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
← Chapter 5
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 7 →
1
Ar ôl hynny aeth yr Iesu ymaith dros fôr Galilea, môr Tiberias,
2
ac yr oedd tyrfa fawr yn ei ganlyn am eu bod yn gweled yr arwyddion a wnâi ar y cleifion.
3
Ond aeth Iesu i fyny i’r mynydd ac yno yr eisteddai gyda’i ddisgyblion.
4
Ac yr oedd y pasg, gŵyl yr Iddewon, yn agos.
5
Felly wedi codi ei olygon a gweled bod tyrfa fawr yn dyfod ato, medd ef wrth Phylip: “O ba le y prynwn fara i’r rhain i gael bwyd?”
6
Dywedyd hyn yr oedd i’w brofi, canys gwyddai ef beth yr oedd am ei wneuthur.
7
Atebodd Phylip iddo: “Nid yw gwerth dau can ceiniog o fara yn ddigon iddynt, i bob un i gael rhyw dameidyn.”
8
Medd un o’i ddisgyblion wrtho, Andreas brawd Simon Pedr:
9
“Y mae yma fachgen bach a chanddo bum torth haidd a dau bysgodyn, ond beth yw hynny rhwng cynifer?”
10
Dywedodd yr Iesu: “Gwnewch i’r bobl orwedd i lawr,” (yr oedd glaswellt lawer yn y lle). Felly gorweddodd y dynion, a’u rhif tua phum mil.
11
Yna cymerth yr Iesu y torthau ac wedi diolch rhannodd hwy rhwng y rhai oedd yn gorwedd, ac yn yr un modd hefyd o’r pysgod, faint a fynnent.
12
A phan ddigonwyd hwy, medd ef wrth ei ddisgyblion: “Cesglwch y darnau sydd yn weddill rhag difetha dim.”
13
Felly casglasant, a llanwasant ddeuddeg basged â darnau o’r pum torth haidd oedd yn weddill gan y rhai a fwytasai.
14
Dywedodd y bobl, gan hynny, wedi gweled yr arwydd a wnaeth: “Hwn yn wir yw’r proffwyd sy’n dyfod i’r byd.”
15
Felly, wedi deall bod yn eu bryd ddyfod a’i gipio i’w wneuthur yn frenin, ciliodd yr Iesu yn ôl i’r mynydd ar ei ben ei hun.
16
A phan aeth yn hwyr, aeth ei ddisgyblion i lawr i’r môr,
17
ac wedi myned i long, yr oeddynt ar eu ffordd dros y môr i Gapernaum. Ac yr oedd hi eisoes wedi tywyllu,
18
a’r Iesu heb ddyfod atynt, a’r môr oedd yn dygyfor gan wynt mawr yn chwythu.
19
Felly wedi rhwyfo tua phum neu ddeg ystad ar hugain, y maent yn gweled yr Iesu’n rhodio ar y môr ac yn dyfod yn agos i’r llong, a daeth ofn arnynt.
20
Medd yntau wrthynt: “Myfi sydd yma, peidiwch ag ofni;”
21
felly derbyniasant ef yn llawen i’r llong, ac ar unwaith yr oedd y llong wrth y lan yr oeddynt yn hwylio ati.
22
Trannoeth gwelodd y dyrfa oedd wedi aros yr ochr draw i’r môr na bu dim cwch arall yno ond un, ac nad aethai’r Iesu gyda’i ddisgyblion i’r llong ond mai’r disgyblion yn unig a aethai ymaith.
23
Ond daeth cychod o Diberias yn agos i’r lle y bwytasent y bara wedi i’r Arglwydd roddi diolch.
24
Felly pan welodd y dyrfa nad oedd Iesu yno na’i ddisgyblion, aethant hwythau i’r cychod, a daethant i Gapernaum gan geisio’r Iesu,
25
a phan gawsant ef yr ochr arall i’r môr, dywedasant wrtho: “Rabbi, pa bryd y daethost yma?”
26
Atebodd yr Iesu iddynt a dywedodd: “Ar fy ngwir, meddaf i chwi, yr ydych yn fy ngheisio i nid am i chwi weled arwyddion, ond am i chwi fwyta o’r bara a chael digon.
27
Gweithiwch nid am y bwyd sy’n darfod ond am y bwyd sy’n para i fywyd tragwyddol, a ddyry mab y dyn i chwi. Canys arno ef y rhoes y tad, sef Duw, ei sêl.”
28
Meddent hwythau wrtho: “Beth a wnawn ni fel y gweithiom waith Duw?”
29
Atebodd Iesu a dywedodd wrthynt: “Dyma waith Duw, credu ohonoch yn yr hwn a anfonodd ef.”
30
Ac meddent wrtho: “Beth felly a wnei’n arwydd inni weled a chredu ynot? Pa waith a wnei?
31
Bwytaodd ein tadau y manna yn yr anialwch, fel y mae’r ysgrythur: Bara o’r nef a roes iddynt i’w fwyta.”
32
Meddai’r Iesu felly wrthynt: “Ar fy ngwir, meddaf i chwi, nid Moesen a roes i chwi’r bara o’r nefoedd, ond fy nhad sydd yn rhoddi i chwi’r gwir fara o’r nefoedd,
33
canys bara Duw ydyw hwnnw sy’n dyfod i lawr o’r nefoedd, ac yn rhoddi bywyd i’r byd.”
34
Meddent hwythau wrtho: “Syr, dyro inni bob amser y bara hwn.”
35
Medd yr Iesu wrthynt: “Myfi ydyw bara’r bywyd. Y neb a ddaw ataf i, ni ddaw newyn arno byth, a’r neb sy’n credu ynof i, ni ddaw syched arno byth.
36
Ond dywedais wrthych eich bod wedi fy ngweled ac eto eich bod heb gredu.
37
Y cwbl a ddyry’r tad i mi, daw hynny ataf, ac am yr hwn a ddaw ataf i, nis bwriaf ef allan ddim,
38
oblegid deuthum i lawr o’r nefoedd, nid i wneuthur f’ewyllys fy hun, ond ewyllys yr hwn a’m hanfonodd i.
39
A hyn yw ewyllys yr hwn a’m hanfonodd, — o’r cwbl a roes imi na chollwyf ddim, ond ei atgyfodi yn y dydd diwethaf.
40
Canys hyn yw ewyllys fy nhad, i bob un sy’n edrych ar y mab ac yn credu ynddo gael bywyd tragwyddol, a minnau a’i hatgyfodaf ef yn y dydd diwethaf.”
41
Felly dechreuodd yr Iddewon furmur amdano am iddo ddywedyd, “Myfi yw’r bara a ddaeth i lawr o’r nefoedd,”
42
a dywedasant: “Onid Iesu yw hwn, fab Ioseff, a ninnau’n adnabod ei dad a’i fam? Pa fodd y mae’n dywedyd yr awron, ‘O’r nefoedd yr wyf wedi dyfod i lawr’?”
43
Atebodd Iesu a dywedodd wrthynt: “Peidiwch â murmur drwy’ch gilydd.
44
Ni all neb ddyfod ataf i heb i’r tad a’m hanfonodd ei dynnu ef, ac atgyfodaf innau ef yn y dydd diwethaf.
45
Y mae adnod yn y proffwydi: ‘A byddant bawb dan addysg Duw.’ Daw pawb sydd wedi gwrando ar Dduw a dysgu ataf i;
46
nid bod neb wedi gweled y tad, oddieithr y neb sydd oddiwrth Dduw, gwelodd hwnnw y tad.
47
Ar fy ngwir, meddaf i chwi, y mae gan yr hwn a gredo fywyd tragwyddol.
48
Myfi yw bara’r bywyd.
49
Bwytaodd eich tadau yn yr anialwch y manna, a buont feirw.
50
Hwn yw’r bara sy’n dyfod i lawr o’r nefoedd, yn gyfryw ag na bo farw y neb a fwytao ohono.
51
Myfi yw’r bara byw a ddaeth i lawr o’r nefoedd. Os bwyta neb o’r bara hwn, bydd fyw yn dragwyddol. A’r bara, meddaf, a roddaf i, fy nghnawd i ydyw dros fywyd y byd.”
52
Felly ymrysonai’r Iddewon drwy’i gilydd a dywedyd: “Pa fodd y gall hwn roddi i ni ei gnawd i’w fwyta?”
53
Yna meddai’r Iesu wrthynt: “Ar fy ngwir, meddaf i chwi, oni fwytewch gnawd mab y dyn ac yfed ei waed, nid oes gennych fywyd ynoch eich hunain.
54
Y mae gan y neb a fwytao fy nghnawd i, ac a yfo fy ngwaed i, fywyd tragwyddol, ac atgyfodaf innau ef yn y dydd diwethaf.
55
Canys fy nghnawd i sydd wir fwyd, a’m gwaed i ’n wir ddiod.
56
Y neb a fwytao fy nghnawd i ac a yfo fy ngwaed i, erys hwn ynof i a minnau ynddo yntau.
57
Megis yr anfonodd y tad byw fi, a minnau’n byw drwy’r tad, felly hefyd am yr hwn a’m bwytao i, bydd yntau fyw trwof i.
58
Hwn yw’r bara a ddaeth i lawr o’r nefoedd, nid fel y tadau’n bwyta a marw; y neb a fwytao’r bara hwn, bydd ef fyw yn dragywydd.”
59
Hyn a ddywedodd mewn synagog wrth ddysgu yng Nghapernaum.
60
Ac meddai llawer a’i clywodd o’i ddisgyblion gan hynny: “Caled yw’r gair hwn. Pwy a all wrando arno?”
61
Ond meddai’r Iesu wrthynt, ag yntau’n gwybod ynddo’i hun fod ei ddisgyblion yn murmur am hyn: “Ai hyn sydd yn eich maglu?
62
Beth felly os gwelwch fab y dyn yn myned i fyny i’r lle yr oedd gynt?
63
Yr ysbryd sy’n peri bywyd, nid oes dim grym yn y cnawd. Y geiriau a ddywedais i wrthych, ysbryd ydynt a bywyd ydynt.
64
Ond y mae rhai ohonoch sydd heb fod yn credu.” Canys gwyddai’r Iesu o’r dechreu pwy oedd y rhai oedd heb fod yn credu a phwy fyddai ei fradychwr.
65
Ac meddai ef: “Oherwydd hyn y dywedais wrthych na all neb ddyfod ataf i heb fod hynny wedi ei roddi iddo gan y tad.”
66
O hynny allan aeth llawer o’i ddisgyblion yn eu holau, ac ni rodient mwy gydag ef.
67
Meddai’r Iesu felly wrth y deuddeg: “Nid oes awydd myned ymaith arnoch chwithau hefyd, a oes?”
68
Atebodd Simon Pedr iddo: “Arglwydd, at bwy yr awn oddiwrthyt? Geiriau bywyd tragwyddol sydd gennyt,
69
ac yr ydym ni wedi credu ac yn gwybod mai ti yw sanct Duw.”
70
Atebodd yr Iesu iddynt: “Oni’ch ddewisais chwi’r deuddeg? ac ohonoch y mae un yn gythraul.”
71
Sôn yr oedd am Iwdas fab Simon o Gerioth, canys hwn wedi hynny a’i bradychai ef, ag yntau’n un o’r deuddeg.
← Chapter 5
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 7 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21