bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
/
John 2
John 2
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
← Chapter 1
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 3 →
1
A thrennydd yr oedd priodas yng Nghana Galilea, ac yr oedd mam yr Iesu yno.
2
Gwahoddwyd yr Iesu hefyd a’i ddisgyblion i’r briodas.
3
A phan ballodd gwin, medd mam yr Iesu wrtho, “Nid oes ganddynt win.”
4
Ac medd yr Iesu wrthi, “Beth sydd rhyngof â thi, wreigdda? Nid yw f’awr i wedi dyfod eto.”
5
Medd ei fam wrth y gwasanaethyddion, “Beth bynnag a ddywedo wrthych, gwnewch.”
6
Ac yr oedd yno chwe dyfrlestr maen wedi eu gosod yn ôl defod glanhad yr Iddewon, yn dal dau neu dri ffurcyn bob un.
7
Medd yr Iesu wrthynt, “Llenwch y dyfrlestri â dwfr,” a llanwasant hwy hyd yr ymyl.
8
Ac medd ef wrthynt, “Tynnwch allan yn awr a dygwch i lywydd y wledd”; dygasant hwythau.
9
Pan brofodd llywydd y wledd y dwfr a aethai’n win, — ni wyddai ef o ba le yr oedd, ond gwyddai’r gwasanaethyddion a fu’n tynnu’r dwfr — y mae llywydd y wledd yn galw y priodfab,
10
ac medd ef wrtho: “Bydd pawb yn rhoddi’r gwin da i ddechreu, yna pan fônt feddw, y gwin gwaelach. Tithau, cedwaist y gwin da hyd yn awr.”
11
Hyn a wnaeth yr Iesu yng Nghana Galilea yn ddechreu’r arwyddion, ac amlygodd ei ogoniant, a chredodd ei ddisgyblion ynddo.
12
Wedi hyn, aeth i lawr i Gapernaum, ef a’i fam a’i frodyr a’i ddisgyblion, ac arosasant yno ychydig ddyddiau.
13
Ac yr oedd pasg yr Iddewon yn agos, ac aeth yr Iesu i fyny i Gaersalem.
14
A chafodd yn y cysegr y gwerthwyr ychen a defaid a cholomennod a’r newidwyr arian yn eistedd,
15
ac wedi gwneuthur fflangell o reffynnau, bwriodd hwy oll allan o’r cysegr, y defaid a’r ychen, ac am y newidwyr, tywalltodd eu mân arian a dymchwelodd eu byrddau,
16
ac wrth y gwerthwyr colomennod dywedodd, “Ewch â’r pethau yna allan, na wnewch dŷ fy nhad yn dŷ marchnad.”
17
Cofiodd ei ddisgyblion fod adnod: “Eiddigedd dy dŷ di a’m hysa i.”
18
Felly atebodd yr Iddewon a dywedasant wrtho: “Pa arwydd yr wyt yn ei ddangos i ni gan dy fod yn gwneuthur y pethau hyn?”
19
Atebodd Iesu a dywedodd wrthynt: “Chwelwch y deml hon, ac mewn tridiau atgyfodaf hi.”
20
Meddai’r Iddewon felly: “Chwe blynedd a deugain y buwyd yn adeiladu’r deml hon, a thithau, a atgyfodi di hi mewn tridiau?”
21
Ond sôn yr oedd yntau am deml ei gorff.
22
Felly pan atgyfododd o feirw, cofiodd ei ddisgyblion iddo ddywedyd hyn, a chredasant yr Ysgrythur a’r gair a ddywedodd yr Iesu.
23
A thra oedd yng Nghaersalem ar y pasg ar yr ŵyl, credodd llawer yn ei enw, wrth weled ei arwyddion a wnâi.
24
Ond yr Iesu, nis ymddiriedai ei hun iddynt, am ei fod ef yn adnabod pawb,
25
ac nad oedd angen arno i neb dystio am ddyn, oherwydd gwyddai ei hunan beth oedd mewn dyn.
← Chapter 1
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 3 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21