bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
/
John 3
John 3
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
← Chapter 2
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 4 →
1
Ac yr oedd un o’r Phariseaid, Nicodemus wrth ei enw, cynghorwr gyda’r Iddewon.
2
Daeth hwn ato yn y nos, a dywedodd wrtho: “Rabbi, gwyddom mai oddiwrth Dduw y daethost yn ddysgawdwr, gan na all neb wneuthur yr arwyddion yma yr wyt ti’n eu gwneuthur, oni bydd Duw gydag ef.”
3
Atebodd Iesu, a dywedodd wrtho: “Ar fy ngwir, meddaf i ti, oni enir dyn yr eilwaith, ni all weled teyrnas Dduw.”
4
Medd Nicodemus wrtho: “Pa fodd y gall dyn gael ei eni, ag yntau’n hen ŵr? A all ef fyned i mewn yn ei ôl i groth ei fam a’i eni?”
5
Atebodd Iesu: “Ar fy ngwir, meddaf i ti, oni bydd dyn wedi ei eni o ddwfr ac ysbryd, ni all fyned i mewn i deyrnas Dduw.
6
Yr hyn a aned o’r cnawd, cnawd yw, a’r hyn a aned o’r ysbryd, ysbryd yw.
7
Na ryfedda i mi ddywedyd wrthyt, ‘Rhaid eich geni chwi yr eilwaith.’
8
Mae’r gwynt yn chwythu lle y myn, ac yr wyt yn clywed ei lais, ond ni wyddost o ba le y mae’n dyfod nac i ba le y mae’n myned. Felly y mae pob un a aned o’r ysbryd.”
9
Atebodd Nicodemus a dywedodd wrtho: “Pa fodd y gall y pethau hyn fod?”
10
Atebodd Iesu a dywedodd wrtho. “Oni wyddost ti’r pethau hyn, a thithau’n ddysgawdwr yn yr Israel?
11
Ar fy ngwir, meddaf i ti, am yr hyn a wyddom yr ydym yn siarad, â’r hyn a welsom yr ydym yn ei dystio, a’n tystiolaeth ni nis derbyniwch.
12
Os am bethau’r ddaear y dywedais wrthych ac ni chredwch, pa fodd os dywedaf am bethau’r nefoedd, y credwch?
13
Ac nid oes neb wedi esgyn i’r nefoedd ond yr hwn a ddisgynnodd o’r nefoedd, mab y dyn.
14
Ac fel y dyrchafodd Moesen y sarff yn yr anialwch, felly ei ddyrchafu sydd yn rhaid i fab y dyn,
15
er mwyn i bob un a gredo ynddo gael bywyd tragwyddol;
16
canys cymaint y carodd Duw y byd ag y rhoes ei uniganedig fab fel na chyfrgoller neb a gredo ynddo, ond cael ohono fywyd tragwyddol;
17
oherwydd ni ddanfonodd Duw y mab i’r byd er mwyn barnu’r byd, ond er mwyn achub y byd drwyddo ef.
18
Y neb a gredo ynddo nis bernir; y neb nid yw’n credu, y mae ef wedi ei farnu eisoes, am nad yw wedi credu yn enw uniganedig fab Duw.
19
A dyma’r farn, bod y goleuni wedi dyfod i’r byd, a charu o ddynion y tywyllwch yn hytrach na’r goleuni, oherwydd mai drygionus oedd eu gweithredoedd.
20
Canys y mae pob un sy’n gwneuthur pethau drwg yn cashau’r goleuni, ac ni ddaw at y goleuni rhag dadlennu ei weithredoedd.
21
Ond daw’r hwn sy’n gwneuthur y gwir at y goleuni, fel yr amlyger ei weithredoedd mai yn Nuw y maent wedi eu gwneuthur.”
22
Ar ôl hyn aeth yr Iesu a’i ddisgyblion i dir Iwdea, ac yno y trigai gyda hwy ac y bedyddiai.
23
Ac yr oedd Ioan hefyd yn bedyddio yn Ainon yn ymyl Salim, am fod llawer o ddyfroedd yno, ac yr oedd cyrchu yno a bedyddio,
24
canys yr oedd Ioan eto heb ei fwrw i’r carchar.
25
A chyfododd dadl gan ddisgyblion Ioan gydag Iddew yng nghylch defod glanhad.
26
A daethant at Ioan a dywedasant wrtho: “Rabbi, yr hwn oedd gyda thi dros Iorddonen, ac yr wyt ti wedi tystio amdano, dyma ef yn bedyddio a phawb yn dyfod ato.”
27
Atebodd Ioan a dywedodd: “Ni all neb dderbyn dim heb ei fod wedi ei roddi iddo o’r nefoedd.
28
Yr ydych chwi eich hunain yn dystion imi ddywedyd ‘Nid myfi yw’r Eneiniog,’ ond ‘Wedi f’anfon yr wyf o flaen hwnnw.’
29
Y priodfab yw hwnnw y mae’r briodferch ganddo, ond y mae cyfaill y priodfab sydd yn sefyll ac yn ei glywed yn llawenhau’n fawr wrth lais y priodfab. Dyna fy llawenydd i sydd yn awr yn gyflawn.
30
Am hwn, rhaid iddo gynyddu, ac i minnau leihau.”
31
Yr hwn sy’n dyfod oddiuchod, y mae ef uwch ben pawb. Yr hwn sydd o’r ddaear, o’r ddaear y mae ac o’r ddaear y mae’n siarad. Yr hwn sy’n dyfod o’r nefoedd, y mae ef uwchben pawb.
32
Yr hyn a welodd ac a glywodd, hynny a dystia, a’i dystiolaeth ef nis derbyn neb.
33
Yr hwn sy’n derbyn ei dystiolaeth ef, y mae ef yn gwarantu bod Duw yn eirwir,
34
canys y mae’r hwn a anfonodd Duw yn llefaru geiriau Duw, oherwydd nid wrth fesur y bydd yn rhoddi’r ysbryd.
35
Y mae’r tad yn caru’r mab, ac wedi rhoddi popeth yn ei law.
36
Yr hwn sy’n credu yn y mab, y mae bywyd tragwyddol ganddo, ond am yr hwn sydd yn anghredu yn y mab, ni wêl ef fywyd, ond y mae digofaint Duw yn aros arno.
← Chapter 2
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 4 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21