bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
/
John 8
John 8
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
← Chapter 7
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 9 →
1
Ond aeth Iesu i fynydd yr Olewydd,
2
ac yn fore aeth drachefn i’r deml, ac yr oedd yr holl bobl yn dyfod ato, ac eisteddodd yntau a dechreu eu dysgu.
3
A daw’r ysgrifenyddion a’r Phariseaid â gwraig ato wedi ei dal mewn godineb, ac wedi ei gosod yn y canol,
4
meddent hwy wrtho: “Athro, y mae’r wraig hon wedi ei dal yn y weithred yn godinebu.
5
Yn awr, yn y gyfraith, gorchmynnodd Moesen inni labyddio merched o’r fath; beth a ddywedi di felly?”
6
Dywedyd hyn yr oeddynt i’w brofi er mwyn cael lle i’w gyhuddo. Ond plygodd yr Iesu i lawr a dechreuodd ysgrifennu ar y ddaear â’i fys.
7
Ond wrth eu bod yn dal i’w holi, ymunionodd a dywedodd wrthynt: “Y dibechod ohonoch, tafled hwnnw yn gyntaf garreg ati.”
8
A phlygodd i lawr wedyn ac ysgrifennu ar y ddaear.
9
Dyma hwythau wedi ei glywed [ac yn euog yn eu cydwybod] yn myned allan y naill ar ôl y llall, gan ddechreu gyda’r rhai hynaf, a gadawyd yr Iesu ei hunan, a’r wraig yn sefyll yn y canol.
10
Ac ymunionodd yr Iesu, a heb weled neb ond y wraig, dywedodd wrthi: “Wreigdda, ym mha le y maent hwy, dy gyhuddwyr? Oni chondemniodd neb di?”
11
Medd hithau: “Neb, Syr.” Medd yr Iesu wrthi: “Nid wyf innau chwaith yn dy gondemnio. Dos, ac o hyn allan paid â phechu.”]
12
Felly siaradodd yr Iesu wrthynt drachefn a dywedyd: “Myfi yw goleuni’r byd. Ni rodia neb sy’n fy nghanlyn i, yn y tywyllwch, ond bydd ganddo oleuni’r bywyd.”
13
Medd y Phariseaid wrtho: “Yr wyt ti’n tystio amdanat dy hun; nid yw dy dystiolaeth di yn wir.”
14
Atebodd Iesu a dywedodd wrthynt: “Hyd yn oed os wyf i’n tystio amdanaf fy hun, gwir yw fy nhystiolaeth i, am fy mod yn gwybod o ba le y deuthum ac i ba le yr wyf yn myned, ond ni wyddoch chwi o ba le yr wyf yn dyfod nac i ba le yr wyf yn myned.
15
Yr ydych chwi’n barnu yn ôl y cnawd, nid wyf i ’n barnu neb.
16
A hyd yn oed os wyf yn barnu, y mae fy marn i’n gywir, oherwydd nid fy hunan yr ydwyf, ond myfi a’r hwn a’m hanfonodd.
17
Ac yn eich cyfraith chwi y mae wedi ei ysgrifennu bod tystiolaeth dau ddyn yn wir.
18
Myfi sydd yn tystio amdanaf fy hun, a thystia’r hwn a’m hanfonodd i, y tad, amdanaf.”
19
Meddent hwy felly wrtho: “Ym mha le y mae dy dad?” Atebodd Iesu: “Nid ydych yn fy adnabod i na’m tad. Pe baech yn fy adnabod i, byddech yn adnabod fy nhad hefyd.”
20
Y geiriau hyn a ddywedodd yn y trysordy wrth ddysgu yn y deml. Ond ni ddaliodd neb ef am na ddaethai ei adeg ef eto.
21
Dywedodd wrthynt wedyn: “Yr wyf i’n myned, a byddwch yn chwilio amdanaf, a byddwch feirw yn eich pechod. Lle yr wyf i yn myned, ni ellwch chwi ddyfod.”
22
Medd yr Iddewon felly: “Tybed ei fod am ei ladd ei hun pan ddywed, ‘Lle yr wyf i yn myned, ni ellwch chwi ddyfod’?”
23
Ac medd ef wrthynt: “Yr ydych chwi o’r pethau isod, a minnau o’r pethau uchod; yr ydych chwi o’r byd hwn, a minnau nid wyf o’r byd hwn.
24
Dywedais am hynny wrthych y byddwch feirw yn eich pechodau; canys oni chredwch fy mod i, byddwch feirw yn eich pechodau.”
25
Meddent hwy felly wrtho: “Pwy wyt ti?” Medd yr Iesu wrthynt: “Paham yr wyf i hyd yn oed yn siarad â chwi o gwbl?
26
Y mae gennyf lawer i’w ddywedyd amdanoch ac i’w farnu. Ond y mae’r hwn a’m hanfonodd i yn wir; a minnau, yr hyn a glywais ganddo ef, hynny yr wyf yn ei ddywedyd wrth y byd.”
27
Ni wyddent mai am y tad y soniai ef wrthynt.
28
Medd yr Iesu felly: “Pan ddyrchefwch fab y dyn, yna y gwybyddwch fy mod i, ac nad wyf yn gwneuthur dim ohonof fy hun, ond fel y dysgodd y tad fi, dyna’r hyn yr wyf yn ei ddywedyd.
29
Ac y mae’r hwn a’m hanfonodd i gyda mi. Ni adawodd fi wrthyf fy hunan, canys yr wyf i yn gwneuthur bob amser y pethau sydd wrth ei fodd ef.”
30
Ag yntau’n dywedyd hyn, credodd llawer ynddo.
31
Meddai’r Iesu felly wrth yr Iddewon oedd wedi credu ynddo: “Os arhoswch chwi yn fy ngair i, yr ydych yn wir ddisgyblion i mi,
32
a chewch adnabod y gwir, a’r gwir a’ch rhyddha chwi.”
33
Atebasant iddo: “Had Abraham ydym ni, ac ni buom gaethion i neb erioed. Sut yr wyt ti’n dywedyd, ‘Chwi ddeuwch yn rhyddion’?”
34
Atebodd yr Iesu iddynt: “Ar fy ngwir, meddaf i chwi, y mae pob un sy’n gwneuthur pechod yn gaethwas i bechod.
35
Nid yw’r caethwas yn aros yn y tŷ am byth; y mab sy’n aros am byth.
36
Felly, os y mab a’ch rhyddha chwi, byddwch ryddion mewn gwirionedd.
37
Gwn mai had Abraham ydych, ond yr ydych yn ceisio fy lladd, am nad yw fy ngair i yn cerdded ynoch.
38
Y pethau a welais i gyda’r tad yr wyf yn eu dywedyd, ac felly gwnewch chwithau yr hyn a glywsoch gan y tad.”
39
Atebasant a dywedasant wrtho: “Abraham yw ein tad ni.” Medd yr Iesu wrthynt:. “Os plant Abraham ydych, gwnewch weithredoedd Abraham;
40
ond yn awr yr ydych yn ceisio fy lladd, dyn sydd wedi dywedyd y gwir wrthych a glywais gan Dduw. Dyma beth na wnaeth Abraham.
41
Yr ydych chwi yn gwneuthur gweithredoedd eich tad chwi.” Meddent hwy wrtho: “Nid o buteindra y ganwyd ni; un tad sydd gennym, Duw.”
42
Medd yr Iesu wrthynt: “Pe bai Duw yn dad i chwi, fe’m carech i, oherwydd o Dduw y deuthum allan, a dyma fi; ac nid ohonof fy hunan y deuthum, ond efô a’m hanfonodd.
43
Paham nad ydych yn adnabod fy lleferydd i? Am na ellwch glywed fy ngair i.
44
O’ch tad, y diafol, yr ydych chwi ac yn dewis gwneuthur nwydau eich tad. Llofrudd oedd hwnnw o’r dechreu ac ni saif yn y gwir am nad oes wir ynddo. Pan ddywed gelwydd, siarad o’i natur ei hun y mae, oherwydd celwyddog ydyw ef, a thad iddo.
45
Ond â minnau’n dywedyd y gwir, ni chredwch fi.
46
Pwy ohonoch a’m prawf i’n euog o bechod? Os y gwir yr ydwyf yn ei ddywedyd, paham na chredwch chwi fi?
47
Y mae’r hwn sy’n hanfod o Dduw yn clywed geiriau Duw. Dyma paham nad ydych chwi yn clywed, am nad o Dduw yr ydych.”
48
Atebodd yr Iddewon a dywedasant wrtho: “Onid da y dywedwn ni mai Samariad wyt ti a bod gennyt gythraul?”
49
Atebodd Iesu: “Nid oes gennyf gythraul, ond yr wyf yn parchu fy nhad, a chwithau ’n fy amharchu i.
50
Ac nid wyf yn ceisio fy ngogoniant fy hun; y mae un sydd yn ceisio ac yn barnu.
51
Ar fy ngwir, meddaf i chwi, os ceidw neb fy ngair i, ni wêl farwolaeth byth yn dragywydd.”
52
Meddai’r Iddewon wrtho: “Yn awr gwyddom fod gennyt gythraul. Bu farw Abraham a’r proffwydi hefyd, ac yr wyt ti’n dywedyd, ‘os ceidw neb fy ngair i, ni phrofa farwolaeth byth yn dragywydd.’
53
A wyt ti’n fwy na’n tad Abraham, a fu farw? A’r proffwydi hefyd, buont hwythau feirw. Pwy yr wyt ti yn dy wneuthur dy hun?”
54
Atebodd Iesu: “Os wyf i yn fy ngogoneddu fy hunan, nid yw fy ngogoniant i ddim. Fy nhad i, hwnnw sydd yn fy ngogoneddu, yr hwn y dywedwch chwi amdano, ‘Ein Duw ydyw’;
55
ac eto yr ydych heb ei adnabod, ond adwaen i ef, ac os dywedaf nas adwaen ef, byddaf fel chwi yn gelwyddog. Ond adwaen i ef, ac yr wyf yn cadw ei air.
56
Gorfoleddodd Abraham eich tad chwi y gwelai fy nydd i; a gwelodd a llawenhaodd.”
57
Meddai’r Iddewon felly wrtho: “Nid wyt ti eto’n hanner can mlwydd, ac a welaist ti Abraham?”
58
Meddai’r Iesu wrthynt: “Ar fy ngwir, meddaf i chwi, yr wyf i cyn bod Abraham.”
59
Felly cyfodasant gerrig i’w taflu ato, ond aeth Iesu o’r golwg, ac allan o’r deml.
← Chapter 7
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 9 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21