bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
2 Chronicles 10
2 Chronicles 10
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 9
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 11 →
1
A Rehoboam a aeth i Sichem; canys i Sichem y daethai holl Israel i'w urddo ef yn frenin.
2
A phan glybu Jeroboam mab Nebat, ac yntau yn yr Aifft, lle y ffoesai efe o ŵydd Solomon y brenin, Jeroboam a ddychwelodd o'r Aifft.
3
Canys hwy a anfonasent, ac a alwasent amdano ef. A Jeroboam a holl Israel a ddaethant, ac a ymddiddanasant â Rehoboam, gan ddywedyd,
4
Dy dad a wnaeth ein hiau ni yn drom; yn awr gan hynny ysgafnha beth o gaethiwed caled dy dad, ac o'i iau drom ef yr hon a roddodd efe arnom ni, a ni a'th wasanaethwn di.
5
Ac efe a ddywedodd wrthynt, Ymhen y tridiau dychwelwch ataf fi. A'r bobl a aethant ymaith.
6
A'r brenin Rehoboam a ymgynghorodd â'r henuriaid a fuasai yn sefyll o flaen Solomon ei dad ef pan ydoedd efe yn fyw, gan ddywedyd, Pa fodd yr ydych chwi yn cynghori ateb y bobl hyn?
7
A hwy a lefarasant wrtho, gan ddywedyd, Os byddi yn dda i'r bobl yma, a'u bodloni hwynt, ac os dywedi wrthynt eiriau teg, hwy a fyddant yn weision i ti byth.
8
Ond efe a wrthododd gyngor yr henuriaid a gyngorasent hwy iddo; ac efe a ymgynghorodd â'r gwŷr ieuainc a gynyddasent gydag ef, a'r rhai oedd yn sefyll ger ei fron ef.
9
Ac efe a ddywedodd wrthynt hwy, Beth yr ydych chwi yn ei gynghori, fel yr atebom y bobl hyn, y rhai a lefarasant wrthyf, gan ddywedyd, Ysgafnha beth ar yr iau a osododd dy dad arnom ni?
10
A'r gwŷr ieuainc y rhai a gynyddasent gydag ef a lefarasant wrtho, gan ddywedyd, Fel hyn y dywedi wrth y bobl a lefarasant wrthyt, gan ddywedyd, Dy dad a wnaeth ein hiau ni yn drom, ysgafnha dithau hi oddi arnom ni: fel hyn y dywedi wrthynt; Fy mys bach fydd ffyrfach na llwynau fy nhad.
11
Ac yn awr fy nhad a'ch llwythodd chwi â iau drom, minnau hefyd a chwanegaf ar eich iau chwi: fy nhad a'ch ceryddodd chwi â ffrewyllau, a minnau a'ch ceryddaf ag ysgorpionau.
12
Yna y daeth Jeroboam, a'r holl bobl, at Rehoboam y trydydd dydd, fel y llefarasai y brenin, gan ddywedyd, Dychwelwch ataf fi y trydydd dydd.
13
A'r brenin a'u hatebodd hwynt yn arw: a'r brenin Rehoboam a wrthododd gyngor yr henuriaid;
14
Ac efe a lefarodd wrthynt yn ôl cyngor y gwŷr ieuainc, gan ddywedyd, Fy nhad a wnaeth eich iau chwi yn drom, a minnau a chwanegaf arni hi: fy nhad a'ch ceryddodd chwi â ffrewyllau, a minnau a'ch ceryddaf chwi ag ysgorpionau.
15
Ac ni wrandawodd y brenin ar y bobl: oherwydd yr achos oedd oddi wrth DDUW, fel y cwblhâi yr ARGLWYDD ei air a lefarasai efe trwy law Ahïa y Siloniad wrth Jeroboam mab Nebat.
16
A phan welodd holl Israel na wrandawai y brenin arnynt hwy, y bobl a atebasant y brenin, gan ddywedyd, Pa ran sydd i ni yn Dafydd? nid oes chwaith i ni etifeddiaeth ym mab Jesse: O Israel, aed pawb i'w pebyll, edrych yn awr ar dy dŷ dy hun, Dafydd. Felly holl Israel a aethant i'w pebyll.
17
Ond meibion Israel, y rhai oedd yn preswylio yn ninasoedd Jwda, Rehoboam a deyrnasodd arnynt hwy.
18
A'r brenin Rehoboam a anfonodd Hadoram, yr hwn oedd ar y dreth, a meibion Israel a'i llabyddiasant ef â meini, fel y bu efe farw: ond y brenin Rehoboam a brysurodd i fyned i'w gerbyd, i ffoi i Jerwsalem.
19
Ac Israel a wrthryfelasant yn erbyn tŷ Dafydd hyd y dydd hwn.
← Chapter 9
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 11 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36