bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
2 Chronicles 4
2 Chronicles 4
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 3
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 5 →
1
Ac efe a wnaeth allor bres, o ugain cufydd ei hyd, ac ugain cufydd ei lled, a deg cufydd ei huchder.
2
Gwnaeth hefyd fôr tawdd, yn ddeg cufydd o ymyl i ymyl, yn grwn o amgylch, ac yn bum cufydd ei uchder, a llinyn o ddeg cufydd ar hugain a'i hamgylchai oddi amgylch.
3
A llun ychen oedd dano yn ei amgylchu o amgylch, mewn deg cufydd yr oeddynt yn amgylchu y môr oddi amgylch: dwy res o ychen oedd wedi eu toddi, pan doddwyd yntau.
4
Sefyll yr oedd ar ddeuddeg o ychen; tri yn edrych tua'r gogledd, a thri yn edrych tua'r gorllewin, a thri yn edrych tua'r deau, a thri yn edrych tua'r dwyrain: a'r môr arnynt oddi arnodd, a'u holl bennau ôl hwynt oedd o fewn.
5
A'i dewder oedd ddyrnfedd, a'i ymyl fel gwaith ymyl cwpan, â blodau lili: a thair mil o bathau a dderbyniai, ac a ddaliai.
6
Gwnaeth hefyd ddeg o noeau, ac efe a roddodd bump o'r tu deau, a phump o'r tu aswy, i ymolchi ynddynt: trochent ynddynt ddefnydd y poethoffrwm; ond y môr oedd i'r offeiriaid i ymolchi ynddo.
7
Ac efe a wnaeth ddeg canhwyllbren aur yn ôl eu portreiad, ac a'u gosododd yn y deml, pump o'r tu deau, a phump o'r tu aswy.
8
Gwnaeth hefyd ddeg o fyrddau, ac a'u gosododd yn y deml, pump o'r tu deau, a phump o'r tu aswy: ac efe a wnaeth gant o gawgiau aur.
9
Ac efe a wnaeth gyntedd yr offeiriaid, a'r cyntedd mawr, a dorau i'r cynteddoedd; a'u dorau hwynt a wisgodd efe â phres.
10
Ac efe a osododd y môr ar yr ystlys ddeau, tua'r dwyrain, ar gyfer y deau.
11
Gwnaeth Hiram hefyd y crochanau, a'r rhawiau, a'r cawgiau: a darfu i Hiram wneuthur y gwaith a wnaeth efe dros frenin Solomon i dŷ DDUW:
12
Y ddwy golofn, a'r cnapiau, a'r coronau ar ben y ddwy golofn, a'r ddwy bleth i guddio y ddau gnap coronog, y rhai oedd ar ben y colofnau:
13
A phedwar cant o bomgranadau ar y ddwy bleth; dwy res oedd o bomgranadau ar bob pleth, i guddio y ddau gnap coronog oedd ar bennau y colofnau.
14
Ac efe a wnaeth ystolion, ac a wnaeth noeau ar yr ystolion;
15
Un môr, a deuddeg o ychen dano:
16
Y crochanau hefyd, a'r rhawiau, a'r cigweiniau, a'u holl lestri hwynt, a wnaeth Hiram ei dad i'r brenin Solomon, yn nhŷ yr ARGLWYDD, o bres gloyw.
17
Yng ngwastadedd yr Iorddonen y toddodd y brenin hwynt, mewn cleidir, rhwng Succoth a Seredatha.
18
Fel hyn y gwnaeth Solomon yr holl lestri hyn, yn lluosog iawn; canys anfeidrol oedd bwys y pres.
19
A Solomon a wnaeth yr holl lestri oedd yn nhŷ DDUW, a'r allor aur, a'r byrddau oedd â'r bara gosod arnynt,
20
A'r canwyllbrennau, a'u lampau, i oleuo yn ôl y ddefod o flaen y gafell, o aur pur;
21
Y blodau hefyd, a'r lampau, a'r gefeiliau, oedd aur, a hwnnw yn aur perffaith.
22
Y saltringau hefyd, a'r cawgiau, a'r llwyau, a'r thuserau, oedd aur pur: a drws y tŷ, a'i ddorau, o du mewn y cysegr sancteiddiolaf, a dorau tŷ y deml, oedd aur.
← Chapter 3
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 5 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36