bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
2 Chronicles 30
2 Chronicles 30
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 29
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 31 →
1
A Heseceia a anfonodd at holl Israel a Jwda, ac a ysgrifennodd lythyrau hefyd at Effraim a Manasse, i ddyfod i dŷ yr ARGLWYDD i Jerwsalem i gynnal Pasg i ARGLWYDD DDUW Israel.
2
A'r brenin a ymgynghorodd, a'i dywysogion, a'r holl gynulleidfa, yn Jerwsalem, am gynnal y Pasg yn yr ail fis.
3
Canys ni allent ei gynnal ef y pryd hwnnw; oblegid nid ymsancteiddiasai yr offeiriaid ddigon, ac nid ymgasglasai y bobl i Jerwsalem.
4
A da oedd y peth yng ngolwg y brenin, ac yng ngolwg yr holl gynulleidfa.
5
A hwy a orchmynasant gyhoeddi trwy holl Israel, o Beerseba hyd Dan, am ddyfod i gynnal y Pasg i ARGLWYDD DDUW Israel yn Jerwsalem: canys ni wnaethent er ys talm fel yr oedd yn ysgrifenedig.
6
Felly y rhedegwyr a aethant â'r llythyrau o law y brenin a'i dywysogion trwy holl Israel a Jwda, ac wrth orchymyn y brenin, gan ddywedyd, O feibion Israel, dychwelwch at ARGLWYDD DDUW Abraham, Isaac, ac Israel, ac efe a ddychwel at y gweddill a ddihangodd ohonoch chwi o law brenhinoedd Asyria.
7
Ac na fyddwch fel eich tadau, nac fel eich brodyr, y rhai a droseddasant yn erbyn ARGLWYDD DDUW eu tadau; am hynny efe a'u rhoddodd hwynt yn anghyfannedd, megis y gwelwch chwi.
8
Yn awr na chaledwch eich gwar, fel eich tadau; rhoddwch law i'r ARGLWYDD, a deuwch i'w gysegr a gysegrodd efe yn dragywydd: a gwasanaethwch yr ARGLWYDD eich DUW, fel y tro llid ei ddigofaint ef oddi wrthych chwi.
9
Canys os dychwelwch chwi at yr ARGLWYDD, eich brodyr chwi a'ch meibion a gânt drugaredd gerbron y rhai a'u caethgludodd hwynt, fel y dychwelont i'r wlad yma: oblegid grasol a thrugarog yw yr ARGLWYDD eich DUW, ac ni thry efe ei wyneb oddi wrthych, os dychwelwch ato ef.
10
Felly y rhedegwyr a aethant o ddinas i ddinas trwy wlad Effraim a Manasse, hyd Sabulon: ond hwy a wawdiasant, ac a'u gwatwarasant hwy.
11
Er hynny gwŷr o Aser, a Manasse, ac o Sabulon, a ymostyngasant, ac a ddaethant i Jerwsalem.
12
Llaw DUW hefyd fu yn Jwda, i roddi iddynt un galon i wneuthur gorchymyn y brenin a'r tywysogion, yn ôl gair yr ARGLWYDD.
13
A phobl lawer a ymgasglasant i Jerwsalem, i gynnal gŵyl y bara croyw, yn yr ail fis; cynulleidfa fawr iawn.
14
A hwy a gyfodasant, ac a fwriasant ymaith yr allorau oedd yn Jerwsalem: bwriasant ymaith allorau yr arogl-darth, a thaflasant hwynt i afon Cidron.
15
Yna y lladdasant y Pasg ar y pedwerydd dydd ar ddeg o'r ail fis: yr offeiriaid hefyd a'r Lefiaid a gywilyddiasant, ac a ymsancteiddiasant, ac a ddygasant y poethoffrymau i dŷ yr ARGLWYDD.
16
A hwy a safasant yn eu lle, wrth eu harfer, yn ôl cyfraith Moses gŵr DUW: yr offeiriaid oedd yn taenellu y gwaed o law y Lefiaid.
17
Canys yr oedd llawer yn y gynulleidfa y rhai nid ymsancteiddiasent: ac ar y Lefiaid yr oedd lladd y Pasg dros yr holl rai aflan, i'w sancteiddio i'r ARGLWYDD.
18
Oherwydd llawer o'r bobl, sef llawer o Effraim a Manasse, Issachar, a Sabulon, nid ymlanhasent; eto hwy a fwytasant y Pasg, yn amgenach nag yr oedd yn ysgrifenedig. Ond Heseceia a weddïodd drostynt hwy, gan ddywedyd, Yr ARGLWYDD daionus a faddeuo i bob un
19
A baratôdd ei galon i geisio DUW, sef ARGLWYDD DDUW ei dadau, er na lanhawyd ef yn ôl puredigaeth y cysegr.
20
A'r ARGLWYDD a wrandawodd ar Heseceia, ac a iachaodd y bobl.
21
A meibion Israel, y rhai a gafwyd yn Jerwsalem, a gynaliasant ŵyl y bara croyw saith niwrnod trwy lawenydd mawr: y Lefiaid hefyd a'r offeiriaid oedd yn moliannu yr ARGLWYDD o ddydd i ddydd, gan ganu ag offer soniarus i'r ARGLWYDD.
22
A Heseceia a ddywedodd wrth fodd calon yr holl Lefiaid, y rhai oedd yn dysgu gwybodaeth ddaionus yr ARGLWYDD; a hwy a fwytasant ar hyd yr ŵyl saith niwrnod, ac a aberthasant ebyrth hedd, ac a gyffesasant i ARGLWYDD DDUW eu tadau.
23
A'r holl gynulleidfa a ymgyngorasant i gynnal saith o ddyddiau eraill: felly y cynaliasant saith o ddyddiau eraill trwy lawenydd.
24
Canys Heseceia brenin Jwda a roddodd i'r gynulleidfa fil o fustych, a saith mil o ddefaid: a'r tywysogion a roddasant i'r gynulleidfa fil o fustych, a deng mil o ddefaid: a llawer o offeiriaid a ymsancteiddiasant.
25
A holl gynulleidfa Jwda a lawenychasant, gyda'r offeiriaid a'r Lefiaid, a'r holl gynulleidfa a ddaeth o Israel, a'r dieithriaid a ddaethai o wlad Israel, ac oeddynt yn gwladychu yn Jwda.
26
Felly y bu llawenydd mawr yn Jerwsalem: canys er dyddiau Solomon mab Dafydd brenin Israel ni bu y cyffelyb yn Jerwsalem.
27
Yna yr offeiriaid a'r Lefiaid a gyfodasant, ac a fendithiasant y bobl; a gwrandawyd ar eu llef hwynt, a'u gweddi hwynt a ddaeth i fyny i'w breswylfa sanctaidd ef, i'r nefoedd.
← Chapter 29
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 31 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36