bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
2 Chronicles 11
2 Chronicles 11
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 10
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 12 →
1
A phan ddaeth Rehoboam i Jerwsalem, efe a gasglodd o holl dŷ Jwda, ac o Benjamin, gant a phedwar ugain mil o wŷr dewisol, cymwys i ryfel, i ymladd ag Israel, ac i ddwyn drachefn y frenhiniaeth i Rehoboam.
2
Ond gair yr ARGLWYDD a ddaeth at Semaia gŵr DUW, gan ddywedyd,
3
Dywed wrth Rehoboam mab Solomon brenin Jwda, ac wrth holl Israel yn Jwda a Benjamin, gan ddywedyd,
4
Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Nac ewch i fyny, ac nac ymleddwch yn erbyn eich brodyr; dychwelwch bob un i'w dŷ ei hun: canys trwof fi y gwnaethpwyd y peth hyn. A hwy a wrandawsant ar eiriau yr ARGLWYDD, ac a ddychwelasant, heb fyned yn erbyn Jeroboam.
5
A Rehoboam a drigodd yn Jerwsalem, ac a adeiladodd ddinasoedd cedyrn yn Jwda.
6
Ac efe a adeiladodd Bethlehem, ac Etam, a Thecoa,
7
A Bethsur, a Socho, ac Adulam,
8
A Gath, a Maresa, a Siff,
9
Ac Adoraim, a Lachis, ac Aseca,
10
A Sora, ac Ajalon, a Hebron, y rhai oedd yn Jwda, ac yn Benjamin; dinasoedd o gadernid.
11
Ac efe a gadarnhaodd yr amddiffynfaoedd, ac a osododd flaenoriaid ynddynt hwy, a chellau bwyd, ac olew, a gwin.
12
Ac ym mhob dinas y gosododd efe darianau, a gwaywffyn, ac a'u cadarnhaodd hwynt yn gadarn iawn, ac eiddo ef oedd Jwda a Benjamin.
13
A'r offeiriaid a'r Lefiaid, y rhai oedd yn holl Israel, a gyrchasant ato ef o'u holl derfynau.
14
Canys y Lefiaid a adawsant eu meysydd pentrefol, a'u meddiant, ac a ddaethant i Jwda, ac i Jerwsalem: canys Jeroboam a'i feibion a'u bwriasai hwynt ymaith o fod yn offeiriaid i'r ARGLWYDD.
15
Ac efe a osododd iddo offeiriaid i'r uchelfeydd, ac i'r cythreuliaid, ac i'r lloi a wnaethai efe.
16
Ac ar eu hôl hwynt, o holl lwythau Israel, y rhai oedd yn rhoddi eu calon i geisio ARGLWYDD DDUW Israel, a ddaethant i Jerwsalem, i aberthu i ARGLWYDD DDUW eu tadau.
17
Felly hwy a gadarnhasant frenhiniaeth Jwda, ac a gryfhasant Rehoboam mab Solomon, dros dair blynedd: canys hwy a rodiasant yn ffordd Dafydd a Solomon dair blynedd.
18
A Rehoboam a gymerth Mahalath, merch Jerimoth mab Dafydd, yn wraig iddo, ac Abihail merch Eliab mab Jesse:
19
A hi a ymddûg iddo ef feibion, sef Jeus, a Samareia, a Saham.
20
Ac ar ei hôl hi efe a gymerth Maacha merch Absalom: a hi a ymddûg iddo ef Abeia, ac Attai, a Sisa, a Selomith.
21
A Rehoboam a garodd Maacha merch Absalom yn fwy na'i holl wragedd a'i ordderchadon: canys deunaw o wragedd a gymerth efe, a thrigain o ordderchadon; ac efe a genhedlodd wyth ar hugain o feibion, a thrigain o ferched.
22
A Rehoboam a osododd Abeia mab Maacha yn ben, yn flaenor ar ei frodyr; canys yr oedd yn ei fryd ei urddo ef yn frenin.
23
Ac efe a fu gall, ac a wasgarodd rai o'i feibion i holl wledydd Jwda a Benjamin, i bob dinas gadarn, ac a roddes iddynt hwy luniaeth yn helaeth: ac efe a geisiodd liaws o wragedd.
← Chapter 10
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 12 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36