bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
2 Chronicles 29
2 Chronicles 29
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 28
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 30 →
1
Mab pum mlwydd ar hugain oedd Heseceia pan ddechreuodd efe deyrnasu, a naw mlynedd ar hugain y teyrnasodd efe yn Jerwsalem; ac enw ei fam ef oedd Abeia merch Sechareia.
2
Ac efe a wnaeth yr hyn oedd uniawn yng ngolwg yr ARGLWYDD, yn ôl yr hyn oll a wnaethai Dafydd ei dad.
3
Yn y flwyddyn gyntaf o'i deyrnasiad ef, yn y mis cyntaf, efe a agorodd ddrysau tŷ yr ARGLWYDD, ac a'u cyweiriodd hwynt.
4
Ac efe a ddug i mewn yr offeiriaid, a'r Lefiaid, ac a'u casglodd hwynt ynghyd i heol y dwyrain,
5
Ac a ddywedodd wrthynt hwy, Gwrandewch fi, O Lefiaid, ymsancteiddiwch yn awr, a sancteiddiwch dŷ ARGLWYDD DDUW eich tadau, a dygwch yr aflendid allan o'r lle sanctaidd.
6
Canys ein tadau ni a droseddasant, ac a wnaethant yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD ein DUW, ac a'i gwrthodasant ef, ac a droesant eu hwynebau oddi wrth babell yr ARGLWYDD, ac a droesant eu gwarrau.
7
Caeasant hefyd ddrysau y porth, ac a ddiffoddasant y lampau, ac nid arogldarthasant arogl-darth, ac ni offrymasant boethoffrymau yn y cysegr i DDUW Israel.
8
Am hynny digofaint yr ARGLWYDD a ddaeth yn erbyn Jwda a Jerwsalem, ac efe a'u rhoddodd hwynt yn gyffro, yn syndod, ac yn watwargerdd, fel yr ydych yn gweled â'ch llygaid.
9
Canys wele, ein tadau ni a syrthiasant trwy'r cleddyf, ein meibion hefyd, a'n merched, a'n gwragedd, ydynt mewn caethiwed oherwydd hyn.
10
Yn awr y mae yn fy mryd i wneuthur cyfamod ag ARGLWYDD DDUW Israel; fel y tro ei ddigofaint llidiog ef oddi wrthym ni.
11
Fy meibion, na fyddwch ddifraw yn awr: canys yr ARGLWYDD a'ch dewisodd chwi i sefyll ger ei fron ef, i weini iddo ef, ac i fod yn gweini, ac yn arogldarthu iddo ef.
12
Yna y Lefiaid a gyfodasant, Mahath mab Amasai, a Joel mab Asareia, o feibion y Cohathiaid: ac o feibion Merari; Cis mab Abdi, ac Asareia mab Jehaleleel: ac o'r Gersoniaid; Joa mab Simma, ac Eden mab Joa:
13
Ac o feibion Elisaffan; Simri, a Jeiel; ac o feibion Asaff; Sechareia, a Mataneia:
14
Ac o feibion Heman; Jehiel, a Simei: ac o feibion Jedwthwn; Semaia, ac Ussiel.
15
A hwy a gynullasant eu brodyr, ac a ymsancteiddiasant, ac a ddaethant yn ôl gorchymyn y brenin, trwy eiriau yr ARGLWYDD, i lanhau tŷ yr ARGLWYDD.
16
A'r offeiriaid a ddaethant i fewn tŷ yr ARGLWYDD i'w lanhau ef, ac a ddygasant allan yr holl frynti a gawsant hwy yn nheml yr ARGLWYDD, i gyntedd tŷ yr ARGLWYDD. A'r Lefiaid a'i cymerasant, i'w ddwyn ymaith allan i afon Cidron.
17
Ac yn y dydd cyntaf o'r mis cyntaf y dechreuasant ei sancteiddio, ac ar yr wythfed dydd o'r mis y daethant i borth yr ARGLWYDD: ac mewn wyth niwrnod y sancteiddiasant dŷ yr ARGLWYDD, ac yn yr unfed dydd ar bymtheg o'r mis cyntaf y gorffenasant.
18
Yna y daethant hwy i mewn at Heseceia y brenin, ac a ddywedasant, Glanhasom holl dŷ yr ARGLWYDD, ac allor y poethoffrwm, a'i holl lestri, a bwrdd y bara gosod, a'i holl lestri.
19
A'r holl lestri a fwriasai y brenin Ahas ymaith yn ei gamwedd, pan oedd efe yn teyrnasu, a baratoesom, ac a sancteiddiasom ni: ac wele hwy gerbron allor yr ARGLWYDD.
20
Yna Heseceia y brenin a gododd yn fore, ac a gasglodd dywysogion y ddinas, ac a aeth i fyny i dŷ yr ARGLWYDD.
21
A hwy a ddygasant saith o fustych, a saith o hyrddod, a saith o ŵyn, a saith o fychod geifr, yn bech-aberth dros y frenhiniaeth, a thros y cysegr, a thros Jwda: ac efe a ddywedodd wrth yr offeiriaid meibion Aaron, am offrymu y rhai hynny ar allor yr ARGLWYDD.
22
Felly hwy a laddasant y bustych, a'r offeiriaid a dderbyniasant y gwaed, ac a'i taenellasant ar yr allor: lladdasant hefyd yr hyrddod, a thaenellasant y gwaed ar yr allor: a hwy a laddasant yr ŵyn, ac a daenellasant y gwaed ar yr allor.
23
A hwy a ddygasant fychod y pech-aberth o flaen y brenin a'r gynulleidfa, ac a osodasant eu dwylo arnynt hwy.
24
A'r offeiriaid a'u lladdasant hwy, ac a wnaethant gymod ar yr allor â'u gwaed hwynt, i wneuthur cymod dros holl Israel: canys dros holl Israel yr archasai y brenin wneuthur y poethoffrwm a'r pech-aberth.
25
Ac efe a osododd y Lefiaid yn nhŷ yr ARGLWYDD, â symbalau, ac â nablau, ac â thelynau, yn ôl gorchymyn Dafydd, a Gad gweledydd y brenin, a Nathan y proffwyd: canys y gorchymyn oedd trwy law yr ARGLWYDD, trwy law ei broffwydi ef.
26
A'r Lefiaid a safasant ag offer Dafydd, a'r offeiriaid â'r utgyrn.
27
A Heseceia a ddywedodd am offrymu poethoffrwm ar yr allor: a'r amser y dechreuodd y poethoffrwm, y dechreuodd cân yr ARGLWYDD, â'r utgyrn, ac ag offer Dafydd brenin Israel.
28
A'r holl gynulleidfa oedd yn addoli, a'r cantorion yn canu, a'r utgyrn yn lleisio; hyn oll a barhaodd nes gorffen y poethoffrwm.
29
A phan orffenasant hwy offrymu, y brenin a'r holl rai a gafwyd gydag ef, a ymgrymasant, ac a addolasant.
30
A Heseceia y brenin a'r tywysogion a ddywedasant wrth y Lefiaid am foliannu yr ARGLWYDD, â geiriau Dafydd ac Asaff y gweledydd. Felly hwy a folianasant â llawenydd, ac a ymostyngasant, ac a addolasant.
31
A Heseceia a atebodd ac a ddywedodd, Yn awr yr ymgysegrasoch chwi i'r ARGLWYDD; nesewch, a dygwch ebyrth, ac ebyrth moliant, i dŷ yr ARGLWYDD. A'r gynulleidfa a ddygasant ebyrth, ac ebyrth moliant, a phob ewyllysgar o galon, boethoffrymau.
32
A rhifedi y poethoffrymau a ddug y gynulleidfa, oedd ddeg a thrigain o fustych, cant o hyrddod, dau cant o ŵyn: y rhai hyn oll oedd yn boethoffrwm i'r ARGLWYDD.
33
A'r pethau cysegredig oedd chwe chant o fustych, a thair mil o ddefaid.
34
Ond yr oedd rhy fychan o offeiriaid, fel na allent flingo yr holl boethoffrymau: am hynny eu brodyr y Lefiaid a'u cynorthwyasant hwy, nes gorffen y gwaith, ac nes i'r offeiriaid ymgysegru: canys y Lefiaid oedd uniawnach o galon i ymgysegru na'r offeiriaid.
35
Y poethoffrymau hefyd oedd yn aml, gyda braster yr hedd-offrwm, a'r ddiod-offrwm i'r poethoffrymau. Felly y trefnwyd gwasanaeth tŷ yr ARGLWYDD.
36
A Heseceia a lawenychodd, a'r holl bobl, oherwydd paratoi o DDUW y bobl: oblegid yn ddisymwth y bu y peth.
← Chapter 28
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 30 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36