bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
2 Chronicles 31
2 Chronicles 31
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 30
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 32 →
1
Ac wedi gorffen hyn i gyd, holl Israel y rhai oedd bresennol a aethant allan i ddinasoedd Jwda, ac a ddrylliasant y delwau, ac a dorasant y llwyni, ac a ddistrywiasant yr uchelfeydd a'r allorau allan o holl Jwda a Benjamin, yn Effraim hefyd a Manasse, nes eu llwyr ddifa. Yna holl feibion Israel a ddychwelasant bob un i'w feddiant, i'w dinasoedd.
2
A Heseceia a osododd ddosbarthiadau yr offeiriaid a'r Lefiaid, yn eu cylchoedd, pob un yn ôl ei weinidogaeth, yr offeiriaid a'r Lefiaid i'r poethoffrwm, ac i'r ebyrth hedd, i weini, ac i foliannu, ac i ganmol, ym mhyrth gwersylloedd yr ARGLWYDD.
3
A rhan y brenin oedd o'i olud ei hun i'r poethoffrymau, sef i boethoffrymau y bore a'r hwyr, ac i boethoffrymau y Sabothau, a'r newyddloerau, a'r gwyliau arbennig, fel y mae yn ysgrifenedig yng nghyfraith yr ARGLWYDD.
4
Efe a ddywedodd hefyd wrth y bobl, trigolion Jerwsalem, am roddi rhan i'r offeiriaid a'r Lefiaid, fel yr ymgryfhaent yng nghyfraith yr ARGLWYDD.
5
A phan gyhoeddwyd y gair hwn, meibion Israel a ddygasant yn aml, flaenffrwyth yr ŷd, y gwin, a'r olew, a'r mêl, ac o holl gnwd y maes, a'r degwm o bob peth a ddygasant hwy yn helaeth.
6
A meibion Israel a Jwda, y rhai oedd yn trigo yn ninasoedd Jwda, hwythau a ddygasant ddegwm gwartheg a defaid, a degwm y pethau cysegredig a gysegrasid i'r ARGLWYDD eu DUW, ac a'u gosodasant bob yn bentwr.
7
Yn y trydydd mis y dechreuasant hwy seilio'r pentyrrau, ac yn y seithfed mis y gorffenasant hwynt.
8
A phan ddaeth Heseceia a'r tywysogion, a gweled y pentyrrau, hwy a fendithiasant yr ARGLWYDD, a'i bobl Israel.
9
A Heseceia a ymofynnodd â'r offeiriaid a'r Lefiaid oherwydd y pentyrrau.
10
Ac Asareia yr offeiriad pennaf o dŷ Sadoc, a ddywedodd wrtho, ac a lefarodd, Er pan ddechreuwyd dwyn offrymau i dŷ yr ARGLWYDD, bwytasom a digonwyd ni, gweddillasom hefyd lawer iawn: canys yr ARGLWYDD a fendithiodd ei bobl; a'r gweddill yw yr amldra hyn.
11
A Heseceia a ddywedodd am baratoi celloedd yn nhŷ yr ARGLWYDD; a hwy a'u paratoesant,
12
Ac a ddygasant i mewn y blaenffrwyth, a'r degwm, a'r pethau cysegredig, yn ffyddlon: a Chononeia y Lefiad oedd flaenor arnynt hwy, a Simei ei frawd ef yn ail.
13
Jehiel hefyd, ac Asaseia, a Nahath, ac Asahel, a Jerimoth, a Josabad, ac Eliel, ac Ismachia, a Mahath, a Benaia, oedd swyddogion dan law Cononeia a Simei ei frawd ef, trwy orchymyn Heseceia y brenin, ac Asareia blaenor tŷ DDUW.
14
A Chore mab Imna y Lefiad, y porthor tua'r dwyrain, oedd ar y pethau a offrymid yn ewyllysgar i DDUW, i rannu offrymau yr ARGLWYDD, a'r pethau sancteiddiolaf.
15
Ac wrth ei law ef yr oedd Eden, a Miniamin, a Jesua, a Semaia, Amareia, a Sechaneia, yn ninasoedd yr offeiriaid, yn eu swydd, i roddi i'w brodyr yn ôl eu rhan, i fawr ac i fychan:
16
Heblaw y gwrywiaid o'u cenedl hwynt, o fab tair blwydd ac uchod, i bawb a'r oedd yn dyfod i dŷ yr ARGLWYDD, ddogn dydd yn ei ddydd, yn eu gwasanaeth hwynt, o fewn eu goruchwyliaethau, yn ôl eu dosbarthiadau;
17
I genedl yr offeiriaid wrth dŷ eu tadau, ac i'r Lefiaid o fab ugain mlwydd ac uchod, yn ôl eu goruchwyliaethau, yn eu dosbarthiadau;
18
Ac i genedl eu holl blant hwy, eu gwragedd, a'u meibion, a'u merched, trwy'r holl gynulleidfa: oblegid trwy eu ffyddlondeb y trinent hwy yn sanctaidd yr hyn oedd sanctaidd:
19
Ac i feibion Aaron, yr offeiriaid, y rhai oedd ym meysydd pentrefol eu dinasoedd, ym mhob dinas, y gwŷr a enwasid wrth eu henwau, i roddi rhannau i bob gwryw ymysg yr offeiriaid, ac i'r holl rai a gyfrifwyd wrth achau ymhlith y Lefiaid.
20
Ac fel hyn y gwnaeth Heseceia trwy holl Jwda, ac efe a wnaeth yr hyn oedd dda ac uniawn, a'r gwirionedd, gerbron yr ARGLWYDD ei DDUW.
21
Ac ym mhob gwaith a ddechreuodd efe yng ngweinidogaeth tŷ DDUW, ac yn y gyfraith, ac yn y gorchymyn i geisio ei DDUW, efe a'i gwnaeth â'i holl galon, ac a ffynnodd.
← Chapter 30
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 32 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36