bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
2 Chronicles 35
2 Chronicles 35
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 34
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 36 →
1
A Joseia a gynhaliodd Basg i'r ARGLWYDD yn Jerwsalem: a hwy a laddasant y Pasg y pedwerydd dydd ar ddeg o'r mis cyntaf.
2
Ac efe a gyfleodd yr offeiriaid yn eu goruchwyliaethau, ac a'u hanogodd hwynt i weinidogaeth tŷ yr ARGLWYDD;
3
Ac a ddywedodd wrth y Lefiaid, y rhai oedd yn dysgu holl Israel, ac oedd sanctaidd i'r ARGLWYDD, Rhoddwch yr arch sanctaidd yn y tŷ a adeiladodd Solomon mab Dafydd brenin Israel; na fydded hi mwyach i chwi yn faich ar ysgwydd: gwasanaethwch yn awr yr ARGLWYDD eich DUW, a'i bobl Israel,
4
Ac ymbaratowch wrth deuluoedd eich tadau, yn ôl eich dosbarthiadau, yn ôl ysgrifen Dafydd brenin Israel, ac yn ôl ysgrifen Solomon ei fab ef.
5
A sefwch yn y cysegr yn ôl dosbarthiadau tylwyth tadau eich brodyr y bobl, ac yn ôl dosbarthiad tylwyth y Lefiaid.
6
Felly lleddwch y Pasg, ac ymsancteiddiwch, a pharatowch eich brodyr, i wneuthur yn ôl gair yr ARGLWYDD trwy law Moses.
7
A Joseia a roddodd i'r bobl ddiadell o ŵyn, a mynnod, i gyd tuag at y Pasg-aberthau, sef i bawb a'r a gafwyd, hyd rifedi deng mil ar hugain, a thair mil o eidionau; hyn oedd o gyfoeth y brenin.
8
A'i dywysogion ef a roddasant yn ewyllysgar i'r bobl, i'r offeiriaid, ac i'r Lefiaid: Hilceia, a Sechareia, a Jehiel, blaenoriaid tŷ DDUW, a roddasant i'r offeiriaid tuag at y Pasg-aberthau, ddwy fil a chwe chant o ddefaid, a thri chant o eidionau.
9
Cononeia hefyd, a Semaia, a Nethaneel, ei frodyr, a Hasabeia, a Jehiel, a Josabad, tywysogion y Lefiaid, a roddasant i'r Lefiaid yn Basg-ebyrth, bum mil o ddefaid, a phum cant o eidionau.
10
Felly y paratowyd y gwasanaeth; a'r offeiriaid a safasant yn eu lle, a'r Lefiaid yn eu dosbarthiadau, yn ôl gorchymyn y brenin.
11
A hwy a laddasant y Pasg; a'r offeiriaid a daenellasant y gwaed o'u llaw hwynt, a'r Lefiaid oedd yn eu blingo hwynt.
12
A chymerasant ymaith y poethoffrymau, i'w rhoddi yn ôl dosbarthiadau teuluoedd y bobl, i offrymu i'r ARGLWYDD, fel y mae yn ysgrifenedig yn llyfr Moses: ac felly am yr eidionau.
13
A hwy a rostiasant y Pasg wrth dân yn ôl y ddefod: a'r cysegredig bethau eraill a ferwasant hwy mewn crochanau, ac mewn pedyll, ac mewn peiriau, ac a'u rhanasant ar redeg i'r holl bobl.
14
Wedi hynny y paratoesant iddynt eu hunain, ac i'r offeiriaid; canys yr offeiriaid meibion Aaron oedd yn offrymu'r poethoffrymau a'r braster hyd y nos; am hynny y Lefiaid oedd yn paratoi iddynt eu hunain, ac i'r offeiriaid meibion Aaron.
15
A meibion Asaff y cantorion oedd yn eu sefyllfa, yn ôl gorchymyn Dafydd, ac Asaff, a Heman, a Jeduthun gweledydd y brenin; a'r porthorion ym mhob porth: ni chaent hwy ymado o'u gwasanaeth; canys eu brodyr y Lefiaid a baratoent iddynt hwy.
16
Felly y paratowyd holl wasanaeth yr ARGLWYDD y dwthwn hwnnw, i gynnal y Pasg, ac i offrymu poethoffrymau ar allor yr ARGLWYDD, yn ôl gorchymyn y brenin Joseia.
17
A meibion Israel y rhai a gafwyd, a gynaliasant y Pasg yr amser hwnnw, a gŵyl y bara croyw, saith niwrnod.
18
Ac ni chynaliasid Pasg fel hwnnw yn Israel, er dyddiau Samuel y proffwyd: ac ni chynhaliodd neb o frenhinoedd Israel gyffelyb i'r Pasg a gynhaliodd Joseia, a'r offeiriaid, a'r Lefiaid, a holl Jwda, a'r neb a gafwyd o Israel, a thrigolion Jerwsalem.
19
Yn y ddeunawfed flwyddyn o deyrnasiad Joseia y cynhaliwyd y Pasg hwn.
20
Wedi hyn oll, pan baratoesai Joseia y tŷ, Necho brenin yr Aifft a ddaeth i fyny i ryfela yn erbyn Charcemis wrth Ewffrates: a Joseia a aeth allan yn ei erbyn ef.
21
Yntau a anfonodd genhadau ato ef, gan ddywedyd, Beth sydd i mi a wnelwyf â thi, O frenin Jwda? nid yn dy erbyn di y deuthum i heddiw, ond yn erbyn tŷ arall y mae fy rhyfel i; a DUW a archodd i mi frysio: paid di â DUW, yr hwn sydd gyda mi, fel na ddifetho efe dydi.
22
Ond ni throai Joseia ei wyneb oddi wrtho ef, eithr newidiodd ei ddillad i ymladd yn ei erbyn ef, ac ni wrandawodd ar eiriau Necho o enau DUW, ond efe a ddaeth i ymladd i ddyffryn Megido.
23
A'r saethyddion a saethasant at y brenin Joseia: a'r brenin a ddywedodd wrth ei weision, Dygwch fi ymaith, canys clwyfwyd fi yn dost.
24
Felly ei weision a'i tynasant ef o'r cerbyd, ac a'i gosodasant ef yn yr ail gerbyd yr hwn oedd ganddo: dygasant ef hefyd i Jerwsalem, ac efe fu farw, ac a gladdwyd ym meddrod ei dadau. A holl Jwda a Jerwsalem a alarasant am Joseia.
25
Jeremeia hefyd a alarnadodd am Joseia, a'r holl gantorion a'r cantoresau yn eu galarnadau a soniant am Joseia hyd heddiw, a hwy a'i gwnaethant yn ddefod yn Israel; ac wele hwynt yn ysgrifenedig yn y galarnadau.
26
A'r rhan arall o hanes Joseia a'i ddaioni ef, yn ôl yr hyn oedd ysgrifenedig yng nghyfraith yr ARGLWYDD,
27
A'i weithredoedd ef, cyntaf a diwethaf, wele hwynt yn ysgrifenedig yn llyfr brenhinoedd Israel a Jwda.
← Chapter 34
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 36 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36