bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
2 Chronicles 23
2 Chronicles 23
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 22
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 24 →
1
Ac yn y seithfed flwyddyn yr ymgadarnhaodd Jehoiada, ac y cymerodd dywysogion y cannoedd, Asareia mab Jeroham, ac Ismael mab Johanan, ac Asareia mab Obed, a Maaseia mab Adaia, ac Elisaffat mab Sichri, gydag ef mewn cyfamod.
2
A hwy a aethant o amgylch yn Jwda, ac a gynullasant y Lefiaid o holl ddinasoedd Jwda, a phennau-cenedl Israel, ac a ddaethant i Jerwsalem.
3
A'r holl gynulleidfa a wnaethant gyfamod â'r brenin yn nhŷ DDUW: ac efe a ddywedodd wrthynt hwy, Wele, mab y brenin a deyrnasa, fel y llefarodd yr ARGLWYDD am feibion Dafydd.
4
Dyma y peth a wnewch chwi; Y drydedd ran ohonoch, yr rhai a ddeuant i mewn ar y Saboth, o'r offeiriaid ac o'r Lefiaid, fydd yn borthorion i'r trothwyau;
5
A'r drydedd ran fydd yn nhŷ y brenin; a'r drydedd ran wrth borth y sylfaen; a'r holl bobl yng nghynteddau tŷ yr ARGLWYDD.
6
Ac na ddeled neb i dŷ yr ARGLWYDD, ond yr offeiriaid, a'r gweinidogion o'r Lefiaid; deuant hwy i mewn, canys sanctaidd ydynt: ond yr holl bobl a gadwant wyliadwriaeth yr ARGLWYDD.
7
A'r Lefiaid a amgylchant y brenin o bob tu, pob un â'i arfau yn ei law; a phwy bynnag arall a ddelo i'r tŷ, lladder ef: ond byddwch chwi gyda'r brenin, pan ddelo efe i mewn, a phan elo efe allan.
8
A'r Lefiaid a holl Jwda a wnaethant yn ôl yr hyn oll a orchmynasai Jehoiada yr offeiriad, a hwy a gymerasant bawb eu gwŷr, y rhai oedd yn dyfod i mewn ar y Saboth, gyda'r rhai oedd yn myned allan ar y Saboth: (canys ni ryddhasai Jehoiada yr offeiriad y dosbarthiadau.)
9
A Jehoiada yr offeiriad a roddodd i dywysogion y cannoedd, y gwaywffyn, a'r tarianau, a'r estylch, a fuasai yn eiddo y brenin Dafydd, y rhai oedd yn nhŷ DDUW.
10
Ac efe a gyfleodd yr holl bobl, a phob un â'i arf yn ei law, o'r tu deau i'r tŷ hyd y tu aswy i'r tŷ, ynghylch yr allor a'r tŷ, yn ymyl y brenin oddi amgylch.
11
Yna y dygasant allan fab y brenin, a rhoddasant y goron arno ef, a'r dystiolaeth, ac a'i hurddasant ef yn frenin: Jehoiada hefyd a'i feibion a'i heneiniasant ef, ac a ddywedasant, Byw fyddo y brenin.
12
A phan glybu Athaleia drwst y bobl yn rhedeg, ac yn moliannu y brenin, hi a ddaeth at y bobl i dŷ yr ARGLWYDD.
13
A hi a edrychodd, ac wele y brenin yn sefyll wrth ei golofn yn y ddyfodfa, a'r tywysogion a'r utgyrn yn ymyl y brenin; a holl bobl y wlad yn llawen, ac yn lleisio mewn utgyrn; a'r cantorion ag offer cerdd, a'r rhai a fedrent foliannu. Yna Athaleia a rwygodd ei dillad, ac a ddywedodd, Bradwriaeth, bradwriaeth!
14
A Jehoiada yr offeiriad a ddug allan dywysogion y cannoedd, sef swyddogion y llu, ac a ddywedodd wrthynt, Dygwch hi allan o'r rhesau: a'r hwn a ddelo ar ei hôl hi, lladder ef â'r cleddyf. Canys dywedasai yr offeiriad, Na leddwch hi yn nhŷ yr ARGLWYDD.
15
A hwy a roddasant ddwylo arni hi, a hi a ddaeth tua'r porth y deuai y meirch i dŷ y brenin, ac yno y lladdasant hwy hi.
16
A Jehoiada a wnaeth gyfamod rhyngddo ei hun, a rhwng yr holl bobl, a rhwng y brenin, i fod yn bobl i'r ARGLWYDD.
17
Yna yr holl bobl a aethant i dŷ Baal, ac a'i distrywiasant ef, a'i allorau, ei ddelwau hefyd a ddrylliasant hwy, ac a laddasant Mattan offeiriad Baal o flaen yr allor.
18
A Jehoiada a osododd swyddau yn nhŷ yr ARGLWYDD, dan law yr offeiriaid y Lefiaid, y rhai a ddosbarthasai Dafydd yn nhŷ yr ARGLWYDD, i offrymu poethoffrymau yr ARGLWYDD, fel y mae yn ysgrifenedig yng nghyfraith Moses, mewn llawenydd a chân, yn ôl trefn Dafydd.
19
Ac efe a gyfleodd y porthorion wrth byrth tŷ yr ARGLWYDD, fel na ddelai i mewn neb a fyddai aflan mewn dim oll.
20
Cymerodd hefyd dywysogion y cannoedd, a'r pendefigion, a'r rhai oedd yn arglwyddiaethu ar y bobl, a holl bobl y wlad, ac efe a ddug y brenin i waered o dŷ yr ARGLWYDD: a hwy a ddaethant trwy y porth uchaf i dŷ y brenin, ac a gyfleasant y brenin ar orseddfa y frenhiniaeth.
21
A holl bobl y wlad a lawenychasant, a'r ddinas a fu lonydd wedi iddynt ladd Athaleia â'r cleddyf.
← Chapter 22
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 24 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36