bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
2 Chronicles 9
2 Chronicles 9
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 8
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 10 →
1
A phan glybu brenhines Seba glod Solomon, hi a ddaeth i Jerwsalem, i brofi Solomon â chwestiynau caled, â llu mawr iawn, ac â chamelod yn dwyn aroglau, ac aur lawer, a meini gwerthfawr: a hi a ddaeth at Solomon, ac a ddywedodd wrtho ef yr hyn oll oedd yn ei chalon.
2
A Solomon a fynegodd iddi hi ei holl ofynion: ac nid oedd dim yn guddiedig rhag Solomon a'r na fynegodd efe iddi hi.
3
A phan welodd brenhines Seba ddoethineb Solomon, a'r tŷ a adeiladasai efe,
4
A bwyd ei fwrdd, ac eisteddiad ei weision, a threfn ei weinidogion, a'u dillad, a'i drulliadau ef, a'u gwisgoedd, a'i esgynfa ar hyd yr hon yr âi efe i fyny i dŷ yr ARGLWYDD; nid oedd mwyach ysbryd ynddi.
5
A hi a ddywedodd wrth y brenin, Gwir yw y gair a glywais yn fy ngwlad, am dy weithredoedd di, ac am dy ddoethineb:
6
Eto ni choeliais i'w geiriau hwynt, nes i mi ddyfod, ac i'm llygaid weled. Ac wele, ni fynegasid i mi hanner helaethrwydd dy ddoethineb: ychwanegaist at y clod a glywais i.
7
Gwyn fyd dy wŷr di, a gwynfydedig yw dy weision hyn, y rhai sydd yn sefyll yn wastadol ger dy fron, ac yn clywed dy ddoethineb.
8
Bendigedig fyddo yr ARGLWYDD dy DDUW, yr hwn a'th hoffodd di, i'th osod ar ei orseddfa ef, yn frenin dros yr ARGLWYDD dy DDUW: oherwydd cariad dy DDUW tuag at Israel, i'w sicrhau yn dragywydd; am hynny y gwnaeth efe dydi yn frenin arnynt hwy, i wneuthur barn a chyfiawnder.
9
A hi a roddodd i'r brenin chwech ugain talent o aur, a pheraroglau lawer iawn, a meini gwerthfawr: ac ni bu y fath beraroglau â'r rhai a roddodd brenhines Seba i'r brenin Solomon.
10
Gweision Hiram hefyd, a gweision Solomon, y rhai a ddygasant aur o Offir, a ddygasant goed algumim a meini gwerthfawr.
11
A'r brenin a wnaeth o'r coed algumim risiau i dŷ yr ARGLWYDD, ac i dŷ y brenin, a thelynau a nablau i'r cantorion: ac ni welsid eu bath o'r blaen yng ngwlad Jwda.
12
A'r brenin Solomon a roddodd i frenhines Seba ei holl ddymuniad, a'r hyn a ofynnodd hi, heblaw yr hyn a ddygasai hi i'r brenin. Felly hi a ddychwelodd, ac a aeth i'w gwlad, hi a'i gweision.
13
A phwys yr aur a ddeuai i Solomon bob blwyddyn, oedd chwe chant a thrigain a chwech o dalentau aur;
14
Heblaw yr hyn yr oedd y marchnadwyr a'r marsiandwyr yn eu dwyn: a holl frenhinoedd Arabia, a thywysogion y wlad, oedd yn dwyn aur ac arian i Solomon.
15
A'r brenin Solomon a wnaeth ddau can tarian o aur dilin: chwe chan sicl o aur dilin a roddodd efe ym mhob tarian.
16
A thri chant o fwcledi o aur dilin: tri chan sicl o aur a roddodd efe ym mhob bwcled. A'r brenin a'u gosododd hwynt yn nhŷ coed Libanus.
17
A'r brenin a wnaeth orseddfa fawr o ifori, ac a'i gwisgodd ag aur pur.
18
A chwech o risiau oedd i'r orseddfa, a throedle o aur, ynglŷn wrth yr orseddfa, a chanllawiau o bob tu i'r eisteddle, a dau lew yn sefyll wrth y canllawiau;
19
A deuddeg o lewod yn sefyll yno ar y chwe gris o bob tu. Ni wnaethpwyd y fath mewn un deyrnas.
20
A holl lestri diod y brenin Solomon oedd o aur, a holl lestri tŷ coed Libanus oedd aur pur: nid oedd yr un o arian; nid oedd dim bri arno yn nyddiau Solomon.
21
Canys llongau y brenin oedd yn myned i Tarsis gyda gweision Hiram: unwaith yn y tair blynedd y deuai llongau Tarsis yn dwyn aur, ac arian, ac ifori, ac epaod, a pheunod.
22
A'r brenin Solomon a ragorodd ar holl frenhinoedd y ddaear mewn cyfoeth a doethineb.
23
A holl frenhinoedd y ddaear oedd yn ceisio gweled wyneb Solomon, i wrando ei ddoethineb a roddasai DUW yn ei galon ef.
24
A hwy a ddygasant bob un ei anrheg, llestri arian, a llestri aur, a gwisgoedd, arfau, a pheraroglau, meirch, a mulod, dogn bob blwyddyn.
25
Ac yr oedd gan Solomon bedair mil o bresebau meirch a cherbydau, a deuddeng mil o wŷr meirch; ac efe a'u cyfleodd hwynt yn ninasoedd y cerbydau, a chyda'r brenin yn Jerwsalem.
26
Ac yr oedd efe yn arglwyddiaethu ar yr holl frenhinoedd, o'r afon hyd wlad y Philistiaid, a hyd derfyn yr Aifft.
27
A'r brenin a wnaeth yr arian yn Jerwsalem fel cerrig, a'r cedrwydd a wnaeth efe fel y sycamorwydd yn y doldir, o amldra.
28
Ac yr oeddynt hwy yn dwyn meirch i Solomon o'r Aifft, ac o bob gwlad.
29
A'r rhan arall o weithredoedd Solomon, cyntaf a diwethaf, onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yng ngeiriau Nathan y proffwyd, ac ym mhroffwydoliaeth Ahïa y Siloniad, ac yng ngweledigaethau Ido y gweledydd yn erbyn Jeroboam mab Nebat?
30
A Solomon a deyrnasodd yn Jerwsalem ar holl Israel ddeugain mlynedd.
31
A Solomon a hunodd gyda'i dadau, a chladdwyd ef yn ninas Dafydd ei dad; a Rehoboam ei fab a deyrnasodd yn ei le ef.
← Chapter 8
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 10 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36