bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
2 Chronicles 26
2 Chronicles 26
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 25
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 27 →
1
Yna holl bobl Jwda a gymerasant Usseia, ac yntau yn fab un flwydd ar bymtheg, ac a'i hurddasant ef yn frenin yn lle Amaseia ei dad.
2
Efe a adeiladodd Eloth, ac a'i dug hi drachefn i Jwda, ar ôl huno o'r brenin gyda'i dadau.
3
Mab un flwydd ar bymtheg oedd Usseia pan ddechreuodd efe deyrnasu, a deuddeng mlynedd a deugain y teyrnasodd efe yn Jerwsalem: ac enw ei fam ef oedd Jecholeia o Jerwsalem.
4
Ac efe a wnaeth yr hyn oedd uniawn yng ngolwg yr ARGLWYDD, yn ôl yr hyn oll a wnaethai Amaseia ei dad ef.
5
Ac efe a ymgeisiodd â DUW yn nyddiau Sechareia, yr hwn oedd ganddo ddeall yng ngweledigaethau DUW: a'r dyddiau y ceisiodd efe yr ARGLWYDD, DUW a'i llwyddodd ef.
6
Ac efe a aeth allan, ac a ryfelodd yn erbyn y Philistiaid, ac a dorrodd i lawr fur Gath, a mur Jabne, a mur Asdod, ac a adeiladodd ddinasoedd yn Asdod, ac ymysg y Philistiaid.
7
A DUW a'i cynorthwyodd ef yn erbyn y Philistiaid, ac yn erbyn yr Arabiaid, y rhai oedd yn trigo yn Gur-baal, a'r Mehuniaid.
8
A'r Ammoniaid a roesant roddion i Usseia: a'i enw ef a aeth hyd y mynediad i'r Aifft; oherwydd efe a ymgryfhaodd yn ddirfawr.
9
Hefyd Usseia a adeiladodd dyrau yn Jerwsalem wrth borth y gongl, ac wrth borth y glyn, ac wrth droad y mur, ac a'u cadarnhaodd hwynt.
10
Ac efe a adeiladodd dyrau yn yr anialwch, ac a gloddiodd bydewau lawer; oblegid yr oedd ganddo lawer o anifeiliaid, yn y dyffryndir ac yn y gwastadedd: a llafurwyr a gwinllanwyr yn y mynyddoedd, ac yn Carmel: canys hoff oedd ganddo goledd y ddaear.
11
Ac yr oedd gan Usseia lu o ryfelwyr, yn myned allan yn fyddinoedd, yn ôl nifer eu cyfrif hwynt, trwy law Jeiel yr ysgrifennydd, a Maaseia y llywydd, dan law Hananeia, un o dywysogion y brenin.
12
Holl nifer pennau-cenedl y rhai cedyrn o nerth oedd ddwy fil a chwe chant.
13
A than eu llaw hwynt yr oedd llu grymus, tri chan mil a saith mil a phum cant, yn rhyfela â chryfder nerthol, i gynorthwyo'r brenin yr erbyn y gelyn.
14
Ac Usseia a ddarparodd iddynt, sef i'r holl lu, darianau, a gwaywffyn, a helmau, a llurigau, a bwâu, a thaflau i daflu cerrig.
15
Ac efe a wnaeth yn Jerwsalem offer trwy gelfyddyd y rhai cywraint, i fod ar y tyrau ac ar y conglau, i ergydio saethau a cherrig mawrion: a'i enw ef a aeth ymhell, canys yn rhyfedd y cynorthwywyd ef, nes ei gadarnhau.
16
Ond pan aeth yn gryf, ei galon a ddyrchafwyd i'w ddinistr ei hun; canys efe a droseddodd yn erbyn yr ARGLWYDD ei DDUW: ac efe a aeth i mewn i deml yr ARGLWYDD i arogldarthu ar allor yr arogl-darth.
17
Ac Asareia yr offeiriad a aeth i mewn ar ei ôl ef, a chydag ef bedwar ugain o offeiriaid yr ARGLWYDD, yn feibion grymus:
18
A hwy a safasant yn erbyn Usseia y brenin, ac a ddywedasant wrtho, Ni pherthyn i ti, Usseia, arogldarthu i'r ARGLWYDD, ond i'r offeiriaid meibion Aaron, y rhai a gysegrwyd i arogldarthu: dos allan o'r cysegr; canys ti a droseddaist, ac ni bydd hyn i ti yn ogoniant oddi wrth yr ARGLWYDD DDUW.
19
Yna y llidiodd Usseia, a'r arogl-darth i arogldarthu oedd yn ei law ef: a thra yr ydoedd efe yn llidiog yn erbyn yr offeiriaid, gwahanglwyf a gyfododd yn ei dalcen ef, yng ngŵydd yr offeiriaid yn nhŷ yr ARGLWYDD, gerllaw allor yr arogl-darth.
20
Ac edrychodd Asareia yr archoffeiriad a'r holl offeiriaid arno ef, ac wele, yr oedd efe yn wahanglwyfus yn ei dalcen, a gwnaethant iddo frysio oddi yno: ac yntau hefyd a frysiodd i fyned allan, oherwydd i'r ARGLWYDD ei daro ef.
21
Ac Usseia y brenin a fu wahanglwyfus hyd ddydd ei farwolaeth, ac a drigodd yn wahanglwyfus mewn tŷ neilltuol; canys efe a dorasid ymaith o dŷ yr ARGLWYDD: a Jotham ei fab ef oedd ar dŷ y brenin, yn barnu pobl y wlad.
22
A'r rhan arall o weithredoedd cyntaf a diwethaf Usseia, a ysgrifennodd Eseia y proffwyd mab Amos.
23
Felly Usseia a hunodd gyda'i dadau, a chladdasant ef gyda'i dadau ym maes beddrod y brenhinoedd; canys dywedasant, Gwahanglwyfus ydyw efe. A Jotham ei fab a deyrnasodd yn ei le ef.
← Chapter 25
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 27 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36