bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
2 Chronicles 20
2 Chronicles 20
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 19
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 21 →
1
Ac wedi hyn meibion Moab a meibion Ammon a ddaethant, a chyda hwynt eraill heblaw yr Ammoniaid, yn erbyn Jehosaffat, i ryfel.
2
Yna y daethpwyd ac y mynegwyd i Jehosaffat, gan ddywedyd, Tyrfa fawr a ddaeth yn dy erbyn di o'r tu hwnt i'r môr, o Syria; ac wele y maent hwy yn Hasason-Tamar, honno yw En-gedi.
3
A Jehosaffat a ofnodd, ac a ymroddodd i geisio yr ARGLWYDD; ac a gyhoeddodd ympryd trwy holl Jwda.
4
A Jwda a ymgasglasant i ofyn cymorth gan yr ARGLWYDD: canys hwy a ddaethant o holl ddinasoedd Jwda i geisio'r ARGLWYDD.
5
A Jehosaffat a safodd yng nghynulleidfa Jwda a Jerwsalem, yn nhŷ yr ARGLWYDD, o flaen y cyntedd newydd,
6
Ac a ddywedodd, O ARGLWYDD DDUW ein tadau, onid wyt ti yn DDUW yn y nefoedd, ac yn llywodraethu ar holl deyrnasoedd y cenhedloedd; ac onid yn dy law di y mae nerth a chadernid, fel nad oes a ddichon dy wrthwynebu di?
7
Onid tydi ein DUW ni a yrraist ymaith breswylwyr y wlad hon o flaen dy bobl Israel, ac a'i rhoddaist hi i had Abraham dy garedigol yn dragywydd?
8
A thrigasant ynddi, ac adeiladasant i ti ynddi gysegr i'th enw, gan ddywedyd,
9
Pan ddêl niwed arnom ni, sef cleddyf, barnedigaeth, neu haint y nodau, neu newyn; os safwn o flaen y tŷ hwn, a cher dy fron di, (canys dy enw di sydd yn y tŷ hwn,) a gweiddi arnat yn ein cyfyngdra, ti a wrandewi ac a'n gwaredi ni.
10
Ac yn awr wele feibion Ammon a Moab, a thrigolion mynydd Seir, y rhai ni chaniateaist i Israel fyned atynt, pan ddaethant o wlad yr Aifft; ond hwy a droesant oddi wrthynt, ac ni ddifethasant hwynt:
11
Eto wele hwynt-hwy yn talu i ni, gan ddyfod i'n bwrw ni allan o'th etifeddiaeth di, yr hon a wnaethost i ni ei hetifeddu.
12
O ein DUW ni, oni ferni di hwynt? canys nid oes gennym ni nerth i sefyll o flaen y dyrfa fawr hon sydd yn dyfod i'n herbyn; ac ni wyddom ni beth a wnawn: ond arnat ti y mae ein llygaid.
13
A holl Jwda oedd yn sefyll gerbron yr ARGLWYDD, â'u rhai bach, eu gwragedd, a'u plant.
14
Yna ar Jahasiel mab Sechareia, fab Benaia, fab Jeiel, fab Mataneia, Lefiad o feibion Asaff, y daeth ysbryd yr ARGLWYDD yng nghanol y gynulleidfa.
15
Ac efe a ddywedodd, Gwrandewch holl Jwda, a thrigolion Jerwsalem, a thithau frenin Jehosaffat, Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD wrthych chwi, Nac ofnwch, ac na ddigalonnwch rhag y dyrfa fawr hon: canys nid eiddoch chwi y rhyfel, eithr eiddo DDUW.
16
Yfory ewch i waered yn eu herbyn hwynt; wele hwynt yn dyfod i fyny wrth riw Sis, a chwi a'u goddiweddwch hwynt yng nghwr yr afon, tuag anialwch Jeruel.
17
Nid rhaid i chwi ymladd yn y rhyfel hwn: sefwch yn llonydd, a gwelwch ymwared yr ARGLWYDD tuag atoch, O Jwda a Jerwsalem: nac ofnwch, ac na ddigalonnwch: ewch yfory allan yn eu herbyn hwynt, a'r ARGLWYDD fydd gyda chwi.
18
A Jehosaffat a ymgrymodd i lawr ar ei wyneb: holl Jwda hefyd a holl drigolion Jerwsalem a syrthiasant gerbron yr ARGLWYDD, gan addoli yr ARGLWYDD.
19
A'r Lefiaid, o feibion y Cohathiaid, ac o feibion y Corhiaid, a gyfodasant i foliannu ARGLWYDD DDUW Israel â llef uchel ddyrchafedig.
20
A hwy a gyfodasant yn fore, ac a aethant i anialwch Tecoa: ac wrth fyned ohonynt, Jehosaffat a safodd, ac a ddywedodd, Gwrandewch fi, O Jwda, a thrigolion Jerwsalem; Credwch yn yr ARGLWYDD eich DUW, a chwi a sicrheir; coeliwch ei broffwydi ef, a chwi a ffynnwch.
21
Ac efe a ymgynghorodd â'r bobl, ac a osododd gantorion i'r ARGLWYDD, a rhai i foliannu prydferthwch sancteiddrwydd, pan aent allan o flaen y rhyfelwyr; ac i ddywedyd, Clodforwch yr ARGLWYDD, oherwydd ei drugaredd a bery yn dragywydd.
22
Ac yn yr amser y dechreuasant hwy y gân a'r moliant, y rhoddodd yr ARGLWYDD gynllwynwyr yn erbyn meibion Ammon, Moab, a thrigolion mynydd Seir, y rhai oedd yn dyfod yn erbyn Jwda; a hwy a laddasant bawb ei gilydd.
23
Canys meibion Ammon a Moab a gyfodasant yn erbyn trigolion mynydd Seir, i'w difrodi, ac i'w difetha hwynt: a phan orffenasant hwy drigolion Seir, hwy a helpiasant ddifetha pawb ei gilydd.
24
A phan ddaeth Jwda hyd Mispa yn yr anialwch, hwy a edrychasant ar y dyrfa, ac wele hwynt yn gelaneddau meirwon yn gorwedd ar y ddaear, ac heb un dihangol.
25
A phan ddaeth Jehosaffat a'i bobl i ysglyfaethu eu hysbail hwynt, hwy a gawsant yn eu mysg hwy lawer o olud, gyda'r cyrff meirw, a thlysau dymunol, yr hyn a ysglyfaethasant iddynt, beth anfeidrol: a thridiau y buant yn ysglyfaethu yr ysbail; canys mawr oedd.
26
Ac ar y pedwerydd dydd yr ymgynullasant i ddyffryn y fendith; canys yno y bendithiasant yr ARGLWYDD: am hynny y gelwir enw y fan honno Dyffryn y fendith, hyd heddiw.
27
Yna y dychwelodd holl wŷr Jwda a Jerwsalem, a Jehosaffat yn flaenor iddynt, i fyned yn eu hôl i Jerwsalem mewn llawenydd; canys yr ARGLWYDD a roddasai lawenydd iddynt hwy ar eu gelynion.
28
A hwy a ddaethant i Jerwsalem â nablau, a thelynau, ac utgyrn, i dŷ yr ARGLWYDD.
29
Ac ofn DUW oedd ar holl deyrnasoedd y ddaear, pan glywsant hwy fel y rhyfelasai yr ARGLWYDD yn erbyn gelynion Israel.
30
Felly teyrnas Jehosaffat a gafodd lonydd: canys ei DDUW a roddodd iddo lonyddwch o amgylch.
31
A Jehosaffat a deyrnasodd ar Jwda: mab pymtheng mlwydd ar hugain oedd efe pan ddechreuodd deyrnasu, a phum mlynedd ar hugain y teyrnasodd efe yn Jerwsalem: ac enw ei fam ef oedd Asuba merch Silhi.
32
Ac efe a rodiodd yn ffordd Asa ei dad, ac ni chiliodd oddi wrthi, gan wneuthur yr hyn oedd uniawn yng ngolwg yr ARGLWYDD.
33
Er hynny ni thynnwyd yr uchelfeydd ymaith: canys ni pharatoesai y bobl eu calon eto at DDUW eu tadau.
34
A'r rhan arall o'r gweithredoedd cyntaf a diwethaf i Jehosaffat, wele hwy yn ysgrifenedig ymysg geiriau Jehu mab Hanani, yr hwn y crybwyllir amdano yn llyfr brenhinoedd Israel.
35
Ac wedi hyn Jehosaffat brenin Jwda a ymgyfeillodd ag Ahaseia brenin Israel, yr hwn a ymroddasai i ddrygioni.
36
Ac efe a unodd ag ef ar wneuthur llongau i fyned i Tarsis: a gwnaethant y llongau yn Esion-gaber.
37
Yna Elieser mab Dodafa o Maresa a broffwydodd yn erbyn Jehosaffat, gan ddywedyd, Oherwydd i ti ymgyfeillachu ag Ahaseia, yr ARGLWYDD a ddrylliodd dy waith di. A'r llongau a ddrylliwyd, fel na allasant fyned i Tarsis.
← Chapter 19
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 21 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36