bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
2 Chronicles 24
2 Chronicles 24
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 23
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 25 →
1
Mab saith mlwydd oedd Joas pan ddechreuodd efe deyrnasu, a deugain mlynedd y teyrnasodd efe yn Jerwsalem: ac enw ei fam ef oedd Sibia o Beerseba.
2
A Joas a wnaeth yr hyn oedd uniawn yng ngolwg yr ARGLWYDD holl ddyddiau Jehoiada yr offeiriad.
3
A Jehoiada a gymerth iddo ddwy wraig: ac efe a genhedlodd feibion a merched.
4
Ac wedi hyn Joas a roes ei fryd ar adnewyddu tŷ yr ARGLWYDD.
5
Ac efe a gynullodd yr offeiriaid a'r Lefiaid, ac a ddywedodd wrthynt, Ewch i ddinasoedd Jwda, a chesglwch gan holl Israel arian i gyweirio tŷ eich DUW, o flwyddyn i flwyddyn: prysurwch chwithau y peth. Ond ni frysiodd y Lefiaid.
6
A'r brenin a alwodd am Jehoiada, yr offeiriad pennaf, ac a ddywedodd wrtho, Paham na cheisiaist gan y Lefiaid ddwyn o Jwda, ac o Jerwsalem, dreth Moses gwas yr ARGLWYDD, a chynulleidfa Israel, i babell y dystiolaeth?
7
Canys meibion Athaleia, y wraig ddrygionus honno, a rwygasent dŷ DDUW; a holl gysegredig bethau tŷ yr ARGLWYDD a roesant hwy i Baalim.
8
Ac wrth orchymyn y brenin hwy a wnaethant gist, ac a'i gosodasant hi ym mhorth tŷ yr ARGLWYDD oddi allan.
9
A rhoddasant gyhoeddiad yn Jwda, ac yn Jerwsalem, ar ddwyn i'r ARGLWYDD dreth Moses gwas DUW, yr hon a roesid ar Israel yn yr anialwch.
10
A'r holl dywysogion a'r holl bobl a lawenychasant, ac a ddygasant, ac a fwriasant i'r gist, nes gorffen ohonynt.
11
A bu, yr amser y ducpwyd y gist at swyddog y brenin trwy law y Lefiaid, a phan welsant fod llawer o arian, ddyfod o ysgrifennydd y brenin, a swyddog yr archoffeiriad, a thywallt y gist, a'i chymryd hi, a'i dwyn drachefn i'w lle ei hun. Felly y gwnaethant o ddydd i ddydd, a chasglasant arian lawer.
12
A'r brenin a Jehoiada a'i rhoddodd i'r rhai oedd yn gweithio gwasanaeth tŷ yr ARGLWYDD; a chyflogasant seiri maen, a seiri pren, i gyweirio tŷ yr ARGLWYDD; a gofaint haearn a phres, i gadarnhau tŷ yr ARGLWYDD.
13
Felly y gweithwyr a weithiasant, a'r gwaith a orffennwyd trwy eu dwylo hwynt: a hwy a wnaethant dŷ DDUW yn ei drefn ei hun, ac a'i cadarnhasant ef.
14
A phan orffenasant hwy ef, hwy a ddygasant y gweddill o'r arian gerbron y brenin a Jehoiada; a hwy a wnaethant ohonynt lestri i dŷ yr ARGLWYDD, sef llestri y weinidogaeth, a'r morterau, a'r llwyau, a'r llestri aur ac arian. Ac yr oeddynt hwy yn offrymu poethoffrymau yn nhŷ yr ARGLWYDD yn wastadol, holl ddyddiau Jehoiada.
15
Ond Jehoiada a heneiddiodd, ac oedd gyflawn o ddyddiau, ac a fu farw: mab can mlwydd a deg ar hugain oedd efe pan fu farw.
16
A hwy a'i claddasant ef yn ninas Dafydd gyda'r brenhinoedd; canys efe a wnaethai ddaioni yn Israel, tuag at DDUW a'i dŷ.
17
Ac wedi marw Jehoiada, tywysogion Jwda a ddaethant, ac a ymgrymasant i'r brenin: yna y brenin a wrandawodd arnynt hwy.
18
A hwy a adawsant dŷ ARGLWYDD DDUW eu tadau, ac a wasanaethasant y llwyni, a'r delwau: a daeth digofaint ar Jwda a Jerwsalem, oherwydd eu camwedd hyn.
19
Eto efe a anfonodd atynt hwy broffwydi, i'w troi hwynt at yr ARGLWYDD; a hwy a dystiolaethasant yn eu herbyn hwynt, ond ni wrandawsant hwy.
20
Ac ysbryd DUW a ddaeth ar Sechareia mab Jehoiada yr offeiriad, ac efe a safodd oddi ar y bobl, ac a ddywedodd wrthynt hwy, Fel hyn y dywedodd DUW, Paham yr ydych chwi yn troseddu gorchmynion yr ARGLWYDD? diau na ffynnwch chwi; canys gwrthodasoch yr ARGLWYDD, am hynny yntau a'ch gwrthyd chwithau.
21
A hwy a gydfwriadasant yn ei erbyn ef, ac a'i llabyddiasant ef â meini wrth orchymyn y brenin, yng nghyntedd tŷ yr ARGLWYDD.
22
Ac ni chofiodd Joas y brenin y caredigrwydd a wnaethai Jehoiada ei dad ef ag ef, ond efe a laddodd ei fab ef: a phan oedd efe yn marw, efe a ddywedodd, Edryched yr ARGLWYDD, a gofynned.
23
Ac ymhen y flwyddyn y daeth llu y Syriaid i fyny yn ei erbyn ef: a hwy a ddaethant yn erbyn Jwda a Jerwsalem, ac a ddifethasant holl dywysogion y bobl o blith y bobl, ac a anfonasant eu holl anrhaith hwynt i frenin Damascus.
24
Canys llu y Syriaid a ddaethai ag ychydig wŷr, a'r ARGLWYDD a roddodd yn eu llaw hwynt lu mawr iawn, am iddynt wrthod ARGLWYDD DDUW eu tadau: felly y gwnaethant hwy farn yn erbyn Joas.
25
A phan aethant hwy oddi wrtho ef, (canys hwy a'i gadawsant ef mewn clefydau mawrion,) ei weision ei hun a gydfwriadodd i'w erbyn ef, oherwydd gwaed meibion Jehoiada yr offeiriad, ac a'i lladdasant ef ar ei wely; ac efe a fu farw: a hwy a'i claddasant ef yn ninas Dafydd, ond ni chladdasant ef ym meddau y brenhinoedd.
26
A dyma y rhai a fradfwriadasant yn ei erbyn ef; Sabad mab Simeath yr Ammones, a Jehosabad mab Simrith y Foabes.
27
Am ei feibion ef, a maint y baich a roddwyd arno, a sylfaeniad tŷ DDUW, wele hwy yn ysgrifenedig yn histori llyfr y brenhinoedd. Ac Amaseia ei fab a deyrnasodd yn ei le ef.
← Chapter 23
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 25 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36