bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
2 Chronicles 21
2 Chronicles 21
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 20
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 22 →
1
A Jehosaffat a hunodd gyda'i dadau, ac a gladdwyd gyda'i dadau yn ninas Dafydd. A Jehoram ei fab a deyrnasodd yn ei le ef.
2
Ac iddo ef yr oedd brodyr, meibion Jehosaffat; Asareia, a Jehiel, a Sechareia, ac Asareia, a Michael, a Seffatia: y rhai hyn oll oedd feibion Jehosaffat brenin Israel.
3
A'u tad a roddodd iddynt roddion lawer, o arian, ac aur, a gwerthfawr bethau, gyda dinasoedd caerog yn Jwda: ond efe a roddodd y frenhiniaeth i Jehoram, canys efe oedd y cyntaf-anedig.
4
A Jehoram a gyfododd ar frenhiniaeth ei dad, ac a ymgadarnhaodd, ac a laddodd ei holl frodyr â'r cleddyf, a rhai hefyd o dywysogion Israel.
5
Mab deuddeng mlwydd ar hugain oedd Jehoram pan ddechreuodd efe deyrnasu, ac wyth mlynedd y teyrnasodd efe yn Jerwsalem.
6
Ac efe a rodiodd yn ffordd brenhinoedd Israel, fel y gwnaethai tŷ Ahab; canys merch Ahab oedd wraig iddo: ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD.
7
Ond ni fynnai yr ARGLWYDD ddifetha tŷ Dafydd, er mwyn y cyfamod a amodasai efe â Dafydd, fel y dywedasai, y rhoddai efe iddo oleuni ac i'w feibion byth.
8
Yn ei ddyddiau ef y gwrthryfelodd Edom oddi tan law Jwda, ac y gosodasant frenin arnynt eu hun.
9
A Jehoram a aeth allan, a'i dywysogion, a'i holl gerbydau gydag ef: ac efe a gyfododd liw nos, ac a drawodd yr Edomiaid, y rhai oedd yn ei amgylchu ef, a thywysogion y cerbydau.
10
Felly Edom a wrthryfelodd oddi tan law Jwda hyd y dydd hwn: a gwrthryfelodd Libna y pryd hwnnw oddi tan ei law ef: oherwydd iddo ymwrthod ag ARGLWYDD DDUW ei dadau.
11
Efe hefyd a wnaeth uchelfeydd ym mynyddoedd Jwda, ac a wnaeth i drigolion Jerwsalem buteinio, ac a gymhellodd Jwda i hynny.
12
A daeth ysgrifen oddi wrth Eleias y proffwyd ato ef, gan ddywedyd, Fel hyn y dywed ARGLWYDD DDUW Dafydd dy dad, Oherwydd na rodiaist ti yn ffyrdd Jehosaffat dy dad, nac yn ffyrdd Asa brenin Jwda;
13
Eithr rhodio ohonot yn ffordd brenhinoedd Israel, a gwneuthur ohonot i Jwda ac i drigolion Jerwsalem buteinio, fel y puteiniodd tŷ Abab, a lladd ohonot dy frodyr hefyd o dŷ dy dad, y rhai oedd well na thydi:
14
Wele, yr ARGLWYDD a dery â phla mawr dy bobl di, a'th blant, a'th wragedd, a'th holl olud.
15
A thi a gei glefyd mawr, clefyd o'th ymysgaroedd, nes myned o'th goluddion allan gan y clefyd, o ddydd i ddydd.
16
Felly yr ARGLWYDD a gyffrôdd yn erbyn Jehoram ysbryd y Philistiaid, a'r Arabiaid, y rhai oedd gerllaw yr Ethiopiaid:
17
A hwy a ddaethant i fyny i Jwda, ac a'i drylliasant hi, ac a gaethgludasant yr holl gyfoeth a gafwyd yn nhŷ'r brenin, a'i feibion hefyd a'i wragedd; fel na adawyd mab iddo, ond Jehoahas, yr ieuangaf o'i feibion.
18
Ac wedi hyn oll yr ARGLWYDD a'i trawodd ef yn ei ymysgaroedd â chlefyd anaele.
19
A bu, ar ôl talm o ddyddiau, ac wedi darfod ysbaid dwy flynedd, ei ymysgaroedd ef a aeth allan gan ei glefyd: felly y bu efe farw o glefydau drwg. A'i bobl ni wnaethant iddo gynnau, megis cynnau ei dadau.
20
Mab deuddeng mlwydd ar hugain oedd efe pan ddechreuodd efe deyrnasu, ac wyth mlynedd y teyrnasodd efe yn Jerwsalem; ac efe a ymadawodd heb hiraeth amdano: a chladdasant ef yn ninas Dafydd, ond nid ym meddrod y brenhinoedd.
← Chapter 20
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 22 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36