bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
2 Chronicles 19
2 Chronicles 19
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 18
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 20 →
1
A Jehosaffat brenin Jwda a ddychwelodd i'w dŷ ei hun i Jerwsalem mewn heddwch.
2
A Jehu mab Hanani y gweledydd, a aeth o'i flaen ef, ac a ddywedodd wrth y brenin Jehosaffat, Ai cynorthwyo yr annuwiol, a charu y rhai oedd yn casáu yr ARGLWYDD, a wneit ti? am hyn digofaint oddi wrth yr ARGLWYDD sydd arnat ti.
3
Er hynny pethau da a gafwyd ynot ti; canys ti a dynnaist ymaith y llwyni o'r wlad, ac a baratoaist dy galon i geisio DUW.
4
A Jehosaffat a drigodd yn Jerwsalem: ac efe a aeth drachefn trwy'r bobl o Beerseba hyd fynydd Effraim, ac a'u dug hwynt eilwaith at ARGLWYDD DDUW eu tadau.
5
Ac efe a osododd farnwyr yn y wlad, trwy holl ddinasoedd caerog Jwda, o ddinas bwygilydd;
6
Ac efe a ddywedodd wrth y barnwyr, Edrychwch beth a wneloch: canys nid dros ddyn yr ydych yn barnu, ond dros yr ARGLWYDD; ac efe a fydd gyda chwi wrth roddi barn.
7
Yn awr gan hynny bydded ofn yr ARGLWYDD arnoch chwi; gwyliwch a gwnewch hynny: oherwydd nid oes anwiredd gyda'r ARGLWYDD ein DUW, na derbyn wyneb, na chymryd gwobr.
8
A Jehosaffat a osododd hefyd yn Jerwsalem rai o'r Lefiaid, ac o'r offeiriaid, ac o bennau tadau Israel, i drin barnedigaethau yr ARGLWYDD, ac amrafaelion, pan ddychwelent i Jerwsalem.
9
Ac efe a orchmynnodd iddynt, gan ddywedyd, Fel hyn y gwnewch mewn ofn yr ARGLWYDD, mewn ffyddlondeb, ac â chalon berffaith.
10
A pha amrafael bynnag a ddêl atoch chwi oddi wrth eich brodyr, y rhai sydd yn trigo yn eu dinasoedd, rhwng gwaed a gwaed, rhwng cyfraith a gorchymyn, deddfau a barnedigaethau, rhybuddiwch hwynt na throseddont yn erbyn yr ARGLWYDD, a bod digofaint arnoch chwi, ac ar eich brodyr: felly gwnewch ac na throseddwch.
11
Ac wele, Amareia yr archoffeiriad sydd arnoch chwi ym mhob peth a berthyn i'r ARGLWYDD; a Sebadeia mab Ismael, blaenor tŷ Jwda, ym mhob achos i'r brenin; a'r Lefiaid yn swyddogion ger eich bron chwi. Ymwrolwch, a gwnewch hynny, a'r ARGLWYDD fydd gyda'r daionus.
← Chapter 18
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 20 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36