bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
2 Chronicles 2
2 Chronicles 2
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 1
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 3 →
1
A SOLOMON a roes ei fryd ar adeiladu tŷ i enw yr ARGLWYDD, a brenhindy iddo ei hun.
2
A Solomon a rifodd ddeng mil a thrigain o gludwyr, a phedwar ugain mil o gymynwyr yn y mynydd, ac yn oruchwylwyr arnynt hwy dair mil a chwe chant.
3
A Solomon a anfonodd at Hiram brenin Tyrus, gan ddywedyd, Megis y gwnaethost â Dafydd fy nhad, ac yr anfonaist iddo gedrwydd i adeiladu iddo dŷ i drigo ynddo, felly gwna â minnau.
4
Wele fi yn adeiladu tŷ i enw yr ARGLWYDD fy NUW, i'w gysegru iddo, ac i arogldarthu arogl-darth llysieuog ger ei fron ef, ac i'r gwastadol osodiad bara, a'r poethoffrymau bore a hwyr, ar y Sabothau, ac ar y newyddloerau, ac ar osodedig wyliau yr ARGLWYDD ein DUW ni. Hyd byth y mae hyn ar Israel.
5
A'r tŷ a adeiladaf fi fydd mawr: canys mwy yw ein DUW ni na'r holl dduwiau.
6
A phwy sydd abl i adeiladu iddo ef dŷ, gan na all y nefoedd, ie, nefoedd y nefoedd ei amgyffred? a phwy ydwyf fi, fel yr adeiladwn iddo ef dŷ, ond yn unig i arogldarthu ger ei fron ef?
7
Felly yn awr anfon i mi ŵr cywraint, i weithio mewn aur, ac mewn arian, ac mewn pres, ac mewn haearn, ac mewn porffor, ac ysgarlad, a glas, ac yn medru cerfio cerfiadau gyda'r rhai celfydd sydd gyda mi yn Jwda ac yn Jerwsalem, y rhai a ddarparodd fy nhad Dafydd.
8
Anfon hefyd i mi goed cedr, a ffynidwydd, ac algumimwydd, o Libanus: canys myfi a wn y medr dy weision di naddu coed Libanus: ac wele, fy ngweision innau a fyddant gyda'th weision dithau;
9
A hynny i ddarparu i mi lawer o goed: canys y tŷ yr ydwyf fi ar ei adeiladu fydd mawr a rhyfeddol.
10
Ac wele, i'th weision, i'r seiri a naddant y coed, y rhoddaf ugain mil corus o wenith wedi ei guro, ac ugain mil o haidd, ac ugain mil bath o win, ac ugain mil bath o olew.
11
A Hiram brenin Tyrus a atebodd mewn ysgrifen, ac a'i hanfonodd at Solomon, O gariad yr ARGLWYDD ar ei bobl, y rhoddes efe dydi yn frenin arnynt hwy.
12
Dywedodd Hiram hefyd, Bendigedig fyddo ARGLWYDD DDUW Israel, yr hwn a wnaeth nef a daear, yr hwn a roddes i'r brenin Dafydd fab doeth, gwybodus o synnwyr a deall, i adeiladu tŷ i'r ARGLWYDD, a brenhindy iddo ei hun.
13
Ac yn awr mi a anfonais ŵr celfydd, cywraint, a deallus, o'r eiddo fy nhad Hiram:
14
Mab gwraig o ferched Dan, a'i dad yn ŵr o Tyrus, yn medru gweithio mewn aur, ac mewn arian, mewn pres, mewn haearn, mewn cerrig, ac mewn coed, mewn porffor, ac mewn glas, ac mewn lliain main, ac mewn ysgarlad; ac i gerfio pob cerfiad, ac i ddychmygu pob dychymyg a roddir ato ef, gyda'th rai cywraint di, a rhai cywraint fy arglwydd Dafydd dy dad.
15
Ac yn awr, y gwenith, a'r haidd, yr olew, a'r gwin, y rhai a ddywedodd fy arglwydd, anfoned hwynt i'w weision:
16
A ni a gymynwn goed o Libanus, yn ôl dy holl raid, ac a'u dygwn hwynt i ti yn gludeiriau ar hyd y môr i Jopa: dwg dithau hwynt i fyny i Jerwsalem.
17
A Solomon a rifodd yr holl wŷr dieithr oedd yn nhir Israel, wedi y rhifiad â'r hon y rhifasai Dafydd ei dad ef hwynt: a chaed tair ar ddeg a saith ugain o filoedd a chwe chant.
18
Ac efe a wnaeth ohonynt hwy ddeng mil a thrigain yn gludwyr, a phedwar ugain mil yn naddwyr yn y mynydd, a thair mil a chwe chant yn oruchwylwyr i roi y bobl ar waith.
← Chapter 1
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 3 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36