bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
2 Chronicles 32
2 Chronicles 32
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 31
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 33 →
1
Wedi y pethau hyn, a'u sicrhau, y daeth Senacherib brenin Asyria, ac a ddaeth i mewn i Jwda; ac a wersyllodd yn erbyn y dinasoedd caerog, ac a feddyliodd eu hennill hwynt iddo ei hun.
2
A phan welodd Heseceia ddyfod Senacherib, a bod ei wyneb ef i ryfela yn erbyn Jerwsalem,
3
Efe a ymgynghorodd â'i dywysogion, ac â'i gedyrn, am argae dyfroedd y ffynhonnau, y rhai oedd allan o'r ddinas. A hwy a'i cynorthwyasant ef.
4
Felly pobl lawer a ymgasglasant, ac a argaeasant yr holl ffynhonnau, a'r afon sydd yn rhedeg trwy ganol y wlad, gan ddywedyd, Paham y daw brenhinoedd Asyria, ac y cânt ddyfroedd lawer?
5
Ac efe a ymgryfhaodd, ac a adeiladodd yr holl fur drylliedig, ac a'i cyfododd i fyny hyd y tyrau, a mur arall oddi allan, ac a gadarnhaodd Milo yn ninas Dafydd, ac a wnaeth lawer o bicellau ac o darianau.
6
Ac efe a osododd dywysogion rhyfel ar y bobl, ac a'u casglodd hwynt ato i heol porth y ddinas, ac a lefarodd wrth fodd eu calon hwynt, gan ddywedyd,
7
Ymwrolwch, ac ymgadarnhewch; nac ofnwch, ac na ddigalonnwch rhag brenin Asyria, na rhag yr holl dyrfa sydd gydag ef: canys y mae gyda ni fwy na chydag ef.
8
Gydag ef y mae braich cnawdol; ond yr ARGLWYDD ein DUW sydd gyda ni, i'n cynorthwyo, ac i ryfela ein rhyfeloedd. A'r bobl a hyderasant ar eiriau Heseceia brenin Jwda.
9
Wedi hyn yr anfonodd Senacherib brenin Asyria ei weision i Jerwsalem, (ond yr ydoedd efe ei hun yn rhyfela yn erbyn Lachis, a'i holl allu gydag ef,) at Heseceia brenin Jwda, ac at holl Jwda, y rhai oedd yn Jerwsalem, gan ddywedyd,
10
Fel hyn y dywedodd Senacherib brenin Asyria, Ar ba beth yr ydych chwi yn hyderu, chwi y rhai sydd yn aros yng ngwarchae o fewn Jerwsalem?
11
Ond Heseceia sydd yn eich hudo chwi, i'ch rhoddi chwi i farw trwy newyn, a thrwy syched, gan ddywedyd, Yr ARGLWYDD ein DUW a'n gwared ni o law brenin Asyria.
12
Onid yr Heseceia hwnnw a dynnodd ymaith ei uchelfeydd ef, a'i allorau, ac a orchmynnodd i Jwda a Jerwsalem, gan ddywedyd, O flaen un allor yr addolwch, ac ar honno yr aroglderthwch?
13
Oni wyddoch chwi beth a wneuthum, mi a'm tadau, i holl bobl y tiroedd? ai gan allu y gallai duwiau cenhedloedd y gwledydd achub eu gwlad o'm llaw i?
14
Pwy oedd ymysg holl dduwiau y cenhedloedd hyn, y rhai a ddarfu i'm tadau eu difetha, a allai waredu ei bobl o'm llaw i, fel y gallai eich DUW chwi eich gwaredu chwi o'm llaw i?
15
Yn awr gan hynny na thwylled Heseceia chwi, ac na huded mohonoch fel hyn, ac na choeliwch iddo ef: canys ni allodd duw un genedl na theyrnas achub ei bobl o'm llaw i, nac o law fy nhadau: pa faint llai y gwared eich DUW chwychwi o'm llaw i?
16
A'i weision ef a ddywedasant ychwaneg yn erbyn yr ARGLWYDD DDUW, ac yn erbyn Heseceia ei was ef.
17
Ac efe a ysgrifennodd lythyrau i gablu ARGLWYDD DDUW Israel, ac i lefaru yn ei erbyn ef, gan ddywedyd, Fel nad achubodd duwiau cenhedloedd y gwledydd eu pobl o'm llaw i, felly nid achub DUW Heseceia ei bobl o'm llaw i.
18
Yna y gwaeddasant hwy â llef uchel, yn iaith yr Iddewon, ar bobl Jerwsalem y rhai oedd ar y mur, i'w hofni hwynt, ac i'w brawychu; fel yr enillent hwy y ddinas.
19
A hwy a ddywedasant yn erbyn DUW Jerwsalem fel yn erbyn duwiau pobloedd y wlad, sef gwaith dwylo dyn.
20
Am hynny y gweddïodd Heseceia y brenin, ac Eseia y proffwyd mab Amos, ac a waeddasant i'r nefoedd.
21
A'r ARGLWYDD a anfonodd angel, yr hwn a laddodd bob cadarn nerthol, a phob blaenor a thywysog yng ngwersyll brenin Asyria. Felly efe a ddychwelodd â chywilydd ar ei wyneb i'w wlad ei hun. A phan ddaeth efe i dŷ ei dduw, y rhai a ddaethant allan o'i ymysgaroedd ei hun a'i lladdasant ef yno â'r cleddyf.
22
Felly y gwaredodd yr ARGLWYDD Heseceia a thrigolion Jerwsalem o law Senacherib brenin Asyria, ac o law pawb eraill, ac a'u cadwodd hwynt oddi amgylch.
23
A llawer a ddygasant roddion i'r ARGLWYDD i Jerwsalem, a phethau gwerthfawr i Heseceia brenin Jwda; fel y dyrchafwyd ef o hynny allan yng ngŵydd yr holl genhedloedd.
24
Yn y dyddiau hynny y clafychodd Heseceia hyd farw, ac a weddïodd ar yr ARGLWYDD: yntau a lefarodd wrtho, ac a roddes argoel iddo.
25
Ond ni thalodd Heseceia drachefn yn ôl yr hyn a roddasid iddo; canys ei galon ef a ddyrchafodd: a digofaint a ddaeth arno ef, ac ar Jwda a Jerwsalem.
26
Er hynny Heseceia a ymostyngodd oherwydd dyrchafiad ei galon, efe a thrigolion Jerwsalem; ac ni ddaeth digofaint yr ARGLWYDD arnynt yn nyddiau Heseceia.
27
Ac yr oedd gan Heseceia gyfoeth ac anrhydedd mawr iawn: ac efe a wnaeth iddo drysorau o arian, ac o aur, ac o feini gwerthfawr, o beraroglau hefyd, ac o darianau, ac o bob llestri hyfryd;
28
A selerau i gnwd yr ŷd, a'r gwin, a'r olew; a phresebau i bob math ar anifail, a chorlannau i'r diadellau.
29
Ac efe a wnaeth iddo ddinasoedd, a chyfoeth o ddefaid a gwartheg lawer: canys DUW a roddasai iddo ef gyfoeth mawr iawn.
30
A'r Heseceia yma a argaeodd yr aber uchaf i ddyfroedd Gihon, ac a'u dug hwynt yn union oddi tanodd, tua thu y gorllewin i ddinas Dafydd. A ffynnodd Heseceia yn ei holl waith.
31
Eto yn neges cenhadau tywysogion Babilon, y rhai a anfonwyd ato ef i ymofyn am y rhyfeddod a wnaethid yn y wlad, DUW a'i gadawodd ef, i'w brofi ef, i wybod y cwbl ag oedd yn ei galon.
32
A'r rhan arall o hanes Heseceia, a'i garedigrwydd ef, wele hwy yn ysgrifenedig yng ngweledigaeth Eseia y proffwyd mab Amos, ac yn llyfr brenhinoedd Jwda ac Israel.
33
A Heseceia a hunodd gyda'i dadau, a chladdasant ef yn yr uchaf o feddau meibion Dafydd. A holl Jwda a thrigolion Jerwsalem a wnaethant anrhydedd iddo ef wrth ei farwolaeth. A Manasse ei fab a deyrnasodd yn ei le ef.
← Chapter 31
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 33 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36