bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
2 Chronicles 33
2 Chronicles 33
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 32
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 34 →
1
Mab deuddeng mlwydd oedd Manasse pan ddechreuodd efe deyrnasu, a phymtheng mlynedd a deugain y teyrnasodd efe yn Jerwsalem:
2
Ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD, yn ôl ffieidd-dra y cenhedloedd a fwriasai yr ARGLWYDD allan o flaen meibion Israel.
3
Canys efe a adeiladodd drachefn yr uchelfeydd, y rhai a ddinistriasai Heseceia ei dad ef, ac a gyfododd allorau i Baalim, ac a wnaeth lwyni, ac a addolodd holl lu'r nefoedd, ac a'u gwasanaethodd hwynt.
4
Adeiladodd hefyd allorau yn nhŷ yr ARGLWYDD, am yr hwn y dywedasai yr ARGLWYDD, Yn Jerwsalem y bydd fy enw i yn dragywydd.
5
Ac efe a adeiladodd allorau i holl lu'r nefoedd yn nau gyntedd tŷ yr ARGLWYDD.
6
Ac efe a yrrodd ei feibion trwy'r tân yn nyffryn mab Hinnom, ac a arferodd frud, a hudoliaeth, a chyfareddion, ac a fawrhaodd swynyddion, a dewiniaid: efe a wnaeth lawer o ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD, i'w ddigio ef.
7
Ac efe a osododd y ddelw gerfiedig, y ddelw a wnaethai efe, yn nhŷ DDUW, am yr hwn y dywedasai DUW wrth Dafydd, ac wrth Solomon ei fab, Yn y tŷ hwn, ac yn Jerwsalem, yr hon a ddewisais i o holl lwythau Israel, y gosodaf fy enw yn dragywydd.
8
Ac ni chwanegaf symud troed Israel oddi ar y tir a ordeiniais i'ch tadau chwi; os gwyliant ar wneuthur yr hyn oll a orchmynnais iddynt, yn ôl yr holl gyfraith, a'r deddfau, a'r barnedigaethau, trwy law Moses.
9
Felly Manasse a wnaeth i Jwda a thrigolion Jerwsalem gyfeiliorni, a gwneuthur yn waeth na'r cenhedloedd a ddifethasai yr ARGLWYDD o flaen meibion Israel.
10
Er llefaru o'r ARGLWYDD wrth Manasse, ac wrth ei bobl, eto ni wrandawsant hwy.
11
Am hynny y dug yr ARGLWYDD arnynt hwy dywysogion llu brenin Asyria, a hwy a ddaliasant Manasse mewn drysni, ac a'i rhwymasant ef â dwy gadwyn, ac a'i dygasant ef i Babilon.
12
A phan oedd gyfyng arno ef, efe a weddïodd gerbron yr ARGLWYDD ei DDUW, ac a ymostyngodd yn ddirfawr o flaen DUW ei dadau,
13
Ac a weddïodd arno ef: ac efe a fu fodlon iddo, ac a wrandawodd ei ddymuniad ef, ac a'i dug ef drachefn i Jerwsalem i'w frenhiniaeth. Yna y gwybu Manasse mai yr ARGLWYDD oedd DDUW.
14
Wedi hyn hefyd efe a adeiladodd y mur oddi allan i ddinas Dafydd, o du'r gorllewin i Gihon, yn y dyffryn, hyd y ddyfodfa i borth y pysgod, ac a amgylchodd Offel, ac a'i cyfododd yn uchel iawn, ac a osododd dywysogion y llu yn yr holl ddinasoedd caerog o fewn Jwda.
15
Ac efe a dynnodd ymaith y duwiau dieithr, a'r ddelw, allan o dŷ yr ARGLWYDD, a'r holl allorau a adeiladasai efe ym mynydd tŷ yr ARGLWYDD, ac yn Jerwsalem, ac a'u taflodd allan o'r ddinas.
16
Ac efe a gyweiriodd allor yr ARGLWYDD, ac a aberthodd arni hi ebyrth hedd a moliant; dywedodd hefyd wrth Jwda am wasanaethu ARGLWYDD DDUW Israel.
17
Er hynny y bobl oedd eto yn aberthu yn yr uchelfeydd: eto i'r ARGLWYDD eu DUW yn unig.
18
A'r rhan arall o hanes Manasse, a'i weddi ef at ei DDUW, a geiriau y gweledyddion a lefarasant wrtho ef yn enw ARGLWYDD DDUW Israel, wele hwynt ymhlith geiriau brenhinoedd Israel.
19
Ei weddi ef hefyd, a'r modd y cymododd DUW ag ef, a'i holl bechod ef, a'i gamwedd, a'r lleoedd yr adeiladodd efe ynddynt uchelfeydd, ac y gosododd lwyni, a delwau cerfiedig, cyn ymostwng ohono ef; wele hwynt yn ysgrifenedig ymysg geiriau y gweledyddion.
20
Felly Manasse a hunodd gyda'i dadau, a chladdasant ef yn ei dŷ ei hun; ac Amon ei fab a deyrnasodd yn ei le ef.
21
Mab dwy flwydd ar hugain oedd Amon pan ddechreuodd efe deyrnasu, a dwy flynedd y teyrnasodd efe yn Jerwsalem.
22
Ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD, fel y gwnaethai Manasse ei dad ef: canys Amon a aberthodd i'r holl ddelwau cerfiedig a wnaethai Manasse ei dad ef, ac a'u gwasanaethodd hwynt.
23
Ond nid ymostyngodd efe gerbron yr ARGLWYDD, fel yr ymostyngasai Manasse ei dad ef: eithr yr Amon yma a bechodd fwyfwy.
24
A'i weision ef a fradfwriadasant i'w erbyn ef, ac a'i lladdasant ef yn ei dŷ ei hun.
25
Ond pobl y wlad a laddasant yr holl rai a fradfwriadasent yn erbyn y brenin Amon; a phobl y wlad a urddasant Joseia ei fab ef yn frenin yn ei le ef.
← Chapter 32
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 34 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36