bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
2 Chronicles 18
2 Chronicles 18
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 17
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 19 →
1
Ac i Jehosaffat yr ydoedd golud ac anrhydedd yn helaeth; ac efe a ymgyfathrachodd ag Ahab.
2
Ac ymhen ennyd o flynyddoedd efe a aeth i waered at Ahab i Samaria. Ac Ahab a laddodd ddefaid a gwartheg lawer, iddo ef ac i'r bobl oedd gydag ef, ac a'i hanogodd ef i fyned i fyny gydag ef i Ramoth-Gilead.
3
Ac Ahab brenin Israel a ddywedodd wrth Jehosaffat brenin Jwda, A ei di gyda mi i Ramoth-Gilead? Yntau a ddywedodd wrtho, Yr ydwyf fi fel tithau, a'm pobl i fel dy bobl dithau, a byddwn gyda thi yn y rhyfel.
4
Jehosaffat hefyd a ddywedodd wrth frenin Israel, Ymgynghora, atolwg, heddiw â gair yr ARGLWYDD.
5
Am hynny brenin Israel a gasglodd o'r proffwydi bedwar cant o wŷr, ac a ddywedodd wrthynt, A awn ni yn erbyn Ramoth-Gilead i ryfel, neu a beidiaf fi? Dywedasant hwythau, Dos i fyny; canys DUW a'i dyry yn llaw y brenin.
6
Ond Jehosaffat a ddywedodd, Onid oes yma un proffwyd i'r ARGLWYDD eto mwyach, fel yr ymgynghorem ag ef?
7
A brenin Israel a ddywedodd wrth Jehosaffat, Y mae eto un gŵr trwy yr hwn y gallem ymgynghori â'r ARGLWYDD: ond y mae yn gas gennyf fi ef: canys nid yw yn proffwydo i mi ddaioni, ond drygioni erioed: efe yw Michea mab Imla. A dywedodd Jehosaffat, Na ddyweded y brenin felly.
8
A brenin Israel a alwodd ar un o'i ystafellyddion, ac a ddywedodd, Prysura Michea mab Imla.
9
A brenin Israel a Jehosaffat brenin Jwda oeddynt yn eistedd bob un ar ei deyrngadair, wedi eu gwisgo mewn brenhinol wisgoedd, eistedd yr oeddynt mewn llannerch wrth ddrws porth Samaria; a'r holl broffwydi oedd yn proffwydo ger eu bron hwynt.
10
A Sedeceia mab Cenaana a wnaethai iddo ei hun gyrn heyrn, ac efe a ddywedodd, Fel hyn y dywedodd yr ARGLWYDD, A'r rhai hyn y corni di y Syriaid, nes i ti eu difa hwynt.
11
A'r holl broffwydi oedd yn proffwydo fel hyn, gan ddywedyd, Dos i fyny i Ramoth-Gilead, a ffynna: canys yr ARGLWYDD a'i dyry hi yn llaw y brenin.
12
A'r gennad a aethai i alw Michea, a lefarodd wrtho ef, gan ddywedyd, Wele eiriau y proffwydi yn unair yn dda i'r brenin: bydded gan hynny, atolwg, dy air dithau fel un o'r rhai hynny, a dywed y gorau.
13
A Michea a ddywedodd, Fel mai byw yr ARGLWYDD, yr hyn a ddywedo fy NUW, hynny a lefaraf fi.
14
A phan ddaeth efe at y brenin, y brenin a ddywedodd wrtho, Michea, a awn ni i ryfel yn erbyn Ramoth-Gilead, neu a beidiaf fi? Dywedodd yntau, Ewch i fyny, a ffynnwch, a rhoddir hwynt yn eich llaw chwi.
15
A'r brenin a ddywedodd wrtho, Pa sawl gwaith y'th dynghedaf di, na lefarech wrthyf fi ond gwirionedd yn enw, yr ARGLWYDD?
16
Yna efe a ddywedodd, Gwelais holl Israel yn wasgaredig ar y mynyddoedd, fel defaid ni byddai iddynt fugail. A dywedodd yr ARGLWYDD, Nid oes feistr arnynt hwy; dychweled pob un i'w dŷ ei hun mewn tangnefedd.
17
(A brenin Israel a ddywedodd wrth Jehosaffat, Oni ddywedais i wrthyt, na phroffwydai efe ddaioni i mi, ond drygioni?)
18
Yntau a ddywedodd, Gan hynny gwrando air yr ARGLWYDD: Gwelais yr ARGLWYDD yn eistedd ar ei orseddfa, a holl lu'r nefoedd yn sefyll ar ei ddeheulaw, ac ar ei law aswy.
19
A dywedodd yr ARGLWYDD, Pwy a dwylla Ahab brenin Israel, fel yr elo efe i fyny, ac y syrthio yn Ramoth-Gilead? Ac un a lefarodd gan ddywedyd fel hyn, ac arall gan ddywedyd fel hyn.
20
Yna ysbryd a aeth allan, ac a safodd gerbron yr ARGLWYDD, ac a ddywedodd, Myfi a'i twyllaf ef. A dywedodd yr ARGLWYDD wrtho, Pa fodd?
21
Dywedodd yntau, Myfi a af allan, ac a fyddaf yn ysbryd celwyddog yng ngenau ei holl broffwydi ef. A dywedodd yr ARGLWYDD, Twylli, a gorchfygi: dos allan, a gwna felly.
22
Ac yn awr wele, yr ARGLWYDD a roddodd ysbryd celwyddog yng ngenau dy broffwydi hyn; a'r ARGLWYDD a lefarodd ddrwg amdanat ti.
23
Yna Sedeceia mab Cenaana a nesaodd, ac a drawodd Michea dan ei gern, ac a ddywedodd, Pa ffordd yr aeth ysbryd yr ARGLWYDD oddi wrthyf fi i ymddiddan â thydi?
24
A Michea a ddywedodd, Wele, ti a gei weled y dwthwn hwnnw, pan elych di o ystafell i ystafell i ymguddio.
25
A brenin Israel a ddywedodd, Cymerwch Michea, a dygwch ef yn ei ôl at Amon tywysog y ddinas, ac at Joas mab y brenin;
26
A dywedwch, Fel hyn y dywedodd y brenin, Rhowch hwn yn y carchardy, a bwydwch ef â bara cystudd, ac â dwfr blinder, nes i mi ddyfod eilwaith mewn heddwch.
27
Yna y dywedodd Michea, Os gan ddychwelyd y dychweli di mewn heddwch, ni lefarodd yr ARGLWYDD ynof fi. Efe a ddywedodd hefyd, Gwrandewch hyn, yr holl bobl.
28
Felly brenin Israel a Jehosaffat brenin Jwda a aethant i fyny i Ramoth-Gilead.
29
A brenin Israel a ddywedodd wrth Jehosaffat, Mi a newidiaf fy nillad, ac a af i'r rhyfel; ond gwisg di dy ddillad. Felly brenin Israel a newidiodd ei ddillad, a hwy a aethant i'r rhyfel.
30
A brenin Syria a orchmynasai i dywysogion y cerbydau y rhai oedd ganddo ef, gan ddywedyd, Nac ymleddwch â bychan nac â mawr, ond â brenin Israel yn unig.
31
A phan welodd tywysogion y cerbydau Jehosaffat, hwy a ddywedasant, Brenin Israel yw efe. A hwy a droesant i ymladd yn ei erbyn ef: ond Jehosaffat a waeddodd, a'r ARGLWYDD a'i cynorthwyodd ef, a DUW a'u gyrrodd hwynt oddi wrtho ef.
32
A phan welodd tywysogion y cerbydau nad brenin Israel oedd efe, hwy a ddychwelasant oddi ar ei ôl ef.
33
A rhyw ŵr a dynnodd mewn bwa ar ei amcan, ac a drawodd frenin Israel rhwng cysylltiadau y llurig: am hynny efe a ddywedodd wrth ei gerbydwr, Tro dy law, a dwg fi allan o'r gad; canys fe'm clwyfwyd i.
34
A'r rhyfel a gryfhaodd y dwthwn hwnnw; a brenin Israel a gynhelid yn ei gerbyd yn erbyn y Syriaid hyd yr hwyr: ac efe a fu farw ynghylch machludiad haul.
← Chapter 17
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 19 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36